Arsylwi ar-lein

Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Dyddiad: Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026.
Amser: 10:10 - 13:45

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar y diwrnod.

Agenda

Amser Eitem

10:10 (5 munud)

Eitem 1. Agor y cyfarfod

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiannau

10:15 (5 munud)

Eitem 2. Adolygu cofnodion a’r log camau gweithredu a phenderfyniadau

2A. Adolygu cofnodion cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd ar 22 Medi
2B. Adolygu’r log camau gweithredu a phenderfyniadau cyhoeddus

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a'r log camau gweithredu a phenderfyniadau 

10:20 (10 munud)

Eitem 3. Gair am ddiogelwch

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Cyflwynydd: Rhys Jones, aelod o'r Bwrdd

Crynodeb: I aelod o'r cyfarfod roi gair o gyngor neu atgoffa ynghylch iechyd, diogelwch neu les. Rhys Jones i drafod lles.

10:30 (20 munud)

Eitem 4. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd

10:50 (40 munud)

Eitem 5. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI'R sefyllfa bresennol a rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Bwrdd ar weithgareddau allweddol

Cyfeirnod y papur: 26-11-B07

11:30 (20 munud)

Eitem 6. Adroddiadau diweddaru y pwyllgorau a’r fforymau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion pwyllgorau

Cyfarfodydd pwyllgor/fforwm ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd:

  • Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg – 25 Medi – Cyf. papur: 26-11-B08
  • Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 29 Medi – Cyf. papur: 26-11-B09
  • Pwyllgor Pobl – 8 Hydref – Cyf. papur: 26-11-B10
  • Pwyllgor Cyflawni Strategol – 4 Tachwedd
  • Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 10 Tachwedd
  • Fforwm Rheoli Tir Cymru – 21 Medi – Cyf. papur: 26-11-B15

Pwyllgorau/Fforymau nad yw hi’n bryd iddynt gyfarfod tan ar ôl cyfarfod y Bwrdd:

  • Pwyllgor Cyllid 
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru 
  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru 
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru 

Crynodeb: NODI'R diweddariadau gan bwyllgorau'r Bwrdd a fforymau CNC.

11:50 (20 munud)

Eitem 7. Dulliau o fynd i’r afael â gwastraff anghyfreithlon yng Nghymru

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth

Cyflwynydd: Nadia DeLonghi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu; Michelle Griffiths, Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Canol De Cymru

Crynodeb: NODI'R sefyllfa bresennol o ran troseddau gwastraff a rôl CNC wrth ymdrin â throseddu a thorri trwyddedau. Mae nifer o ymyriadau'n cael eu cynllunio i gryfhau ein dull o ganfod a tharfu ar ddrwgweithredu, a gorfodi. Gofynnir i'r Bwrdd LYWIO’R camau gweithredu arfaethedig neu ystyried dewisiadau eraill.

Cyfeirnod y papur: 26-11-B11

12:10 (45 munud)

Cinio

12:55 (20 munud)

Eitem 8. Adroddiad perfformiad cyllid - Ch2

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Catherine Allan, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO'R newid yn y rhagolwg diweddaraf o £322.6 i £323.1 miliwn. CRAFFU ar y perfformiad ariannol ar gyfer Ch2.

Cyfeirnod y papur: 26-11-B12

13:15 (20 munud)

Eitem 9. Diweddariad chwarterol dangosfwrdd perfformiad y Cynllun Busnes - Ch2

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth

Cyflwynwyr: Arweinwyr Amcanion Llesiant; Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a PMO

Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Perfformiad Ch2 Cynllun Busnes 2026/27. 

Cyfeirnod y papur: 26-07-B16

13:35 (5 munud)

Eitem 10. Adborth ar gyfarfod heddiw

Noddwr: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: Adolygiad o'r cyfarfod, yr hyn a wnaeth weithio a’r hyn y mae angen inni ei wneud yn wahanol.

13:40 (5 munud) Eitem 11. Unrhyw fater arall
13:45

 Cloi’r cyfarfod cyhoeddus


Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Gofynion o ran porwr a system

Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf