20 Mai: Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd CNC

Arsylwi ar-lein

Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar y diwrnod.

Sgyrsiau gyda CNC – Aberystwyth

Fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth, rydym yn cynnal y sesiwn gyntaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau galw heibio newydd, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau’r Bwrdd a staff am amrywiaeth o faterion.

  1. Dyddiad: dydd Mercher 20 Mai 2026
  2. Amser:10:30pm tan 4.05pm
  3. Lleoliad: Y Stiwdio Gron, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, SY23 3DE

Mae croeso i unrhyw un fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae lleoedd parcio ar gael.

Agenda

Amser Eitem

10:30 (5 munud)

Eitem 1. Agor y cyfarfod

  • Croeso
  • Datganiad Buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a Chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiannau

10:35 (5 munud)

Eitem 2. Adolygu Cofnodion a’r Log Camau Gweithredu

  • 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd a gynhaliwyd ar 18 Mawrth
  • 2B. Adolygu’r Log Camau Gweithredu Cyhoeddus 

Noddwr a Chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a'r Log Camau Gweithredu

10:40 (10 munud)

Eitem 3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd

Noddwr a Chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd

10:50 (20 munud)

Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a Chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI'r sefyllfa bresennol a diweddaru'r Bwrdd ar weithgareddau allweddol

Cyfeirnod y papur: 26-05-B01

11:10 (20 munud)

Eitem 5. Diweddaru Adroddiad y Pwyllgorau

Noddwyr a Chyflwynwyr: Cadeiryddion Pwyllgorau

  • Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 12 Mai (Llafar)
  • Pwyllgor Cyllid – 6 Mai (Llafar)
  • Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 29 Ebrill (Llafar)
  • Pwyllgor Ystad Tir – 7 Mai (Llafar)
  • Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 14 Mai (Ymweliad â'r Safle)

Crynodeb: NODI'r diweddariadau gan Bwyllgorau'r Bwrdd a Fforymau CNC, mewnol ac allanol, a chyfarfodydd a gynhaliwyd

11:30 (15 munud)

Eitem 6. Adroddiad ar Berfformiad Cyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO yr Adroddiad Perfformiad Cyllid diwedd blwyddyn

Cyfeirnod y papur: 26-05-B02

11:45 (20 munud)

Eitem 7. Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes 

Noddwr: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Cyflwynwyr: Arweinwyr Amcanion Llesiant; Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a PMO

Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Perfformiad Cynllun Busnes Chwarter 4.

Cyfeirnod y papur: 26-05-B03

12:05 (60 munud) Cinio

13:05 (90 munud)

Eitem 8. Ansawdd Dŵr (Amcan Llesiant 3)

Noddwr: Lyndsey Rawlinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Lleoedd a Gwasanaethau

Cyflwynydd: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a PMO

Crynodeb: Y drafodaeth i gynnwys Ansawdd Dŵr, Diweddariad ar Weithredu PR24, a Phapur Gwyrdd

Cyfeirnod y papur: 26-05-B04

14:35 (15 munud) Egwyl

14:50 (60 munud)

Eitem 9. Cyflwyniad Lle (De-orllewin neu DPAS a Morol)

Noddwr: Lyndsey Rawlinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Lleoedd a Gwasanaethau

Cyflwynydd:

Crynodeb:

15:50 (10 munud)

Eitem 10. Sut wnaethom ni yn y cyfarfod hwn?

Noddwr: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: Adolygiad o'r cyfarfod

16:00 (5 munud)

Eitem 11. Unrhyw fater arall

16:05 Diwedd y Cyfarfod Cyhoeddus

Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Gofynion o ran porwr a system

Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf