Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig
Dyddiad cau: 17/08/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Gwydir / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 03/09/2025
Rhif swydd: 200158 ENV
Y rôl
Rydym yn chwilio am weithiwr coedwigaeth proffesiynol brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n Tîm Gweithrediadau Coedwig croesawgar a gweithgar, sydd wedi’i leoli ger Llanrwst. Fel Uwch Swyddog ar gyfer Gweithrediadau Coedwig, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd ar draws un o dirweddau mwyaf amrywiol a phrydferth Cymru.
Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn arwain ar y gwaith o gynllunio a gweithredu gweithrediadau coedwig – o lwyrgwympo ac ailstocio i reoli systemau coedwigaeth effaith isel – gan sicrhau bod ein Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn gynaliadwy. Byddwch yn rheoli tîm bach, yn cydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol, ac yn cymryd perchnogaeth dros eich ardal ddaearyddol eich hun a’ch arbenigedd coedwriaethol.
Mae hon yn rôl i rywun sy’n ffynnu wrth gynllunio’r darlun mawr ac wrth wneud gwaith rheoli ymarferol ar y safle. Byddwch yn paratoi cynlluniau manwl ar gyfer ardaloedd torri gan ddefnyddio GIS ac offer TG, yn cydlynu â rhanddeiliaid i nodi cyfyngiadau a chyfleoedd, ac yn sicrhau bod gwaith ar y tir yn cael ei wneud yn ddiogel ac at safon uchel.
Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn cynnig mwy na swydd — rydym yn cynnig cenhadaeth: i warchod, rheoli a gwella adnoddau naturiol Cymru nawr ac ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gyflogwr hyblyg a blaengar sydd wedi ymrwymo i’ch datblygiad a’ch lles chi. Byddwch yn ymuno â thîm clòs, yn elwa o amodau gwaith rhagorol, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n tirweddau a’n cymunedau.
Os ydych chi’n angerddol dros goedwigaeth gynaliadwy ac yn barod am eich her nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthoch chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kath McNulty - kath.mcnulty@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n digwydd yn bersonol yn Swyddfa Gwydir Uchaf, Llanrwst.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae ardal ein tîm yn ymestyn o Ynys Môn i Borthmadog yn y de ac Abergele yn y dwyrain. Rydym yn dîm bach o 10 ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewn timau eraill, yn enwedig rheoli tir, hamdden a chadwraeth. Mae’r rôl hon yn un o dri Uwch Swyddog sy’n cefnogi arweinydd y tîm. Mae’n allweddol i gyflawni ein rhaglen rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae CNC yn cynnig lle gwych i weithio, ac mae yma amodau cyflogaeth blaengar go iawn.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn arweinydd technegol CNC ar gyfer rheoli coedwigoedd a choedwriaeth.
- Cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith y tîm a chyflawni unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio’r busnes. Pan fo’n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer sectorau technegol penodol.
- Cymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol CNC a chynrychioli CNC ar fforymau allanol.
- Rhyngweithio ag arbenigwyr eraill yn CNC i hyrwyddo diwydiant cyson ac arferion seiliedig ar bynciau arbenigol.
- Bod yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni dirprwyedig yn uniongyrchol a rheolaeth gyllidebol y cytunwyd arni, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a chadw at y broses gaffael.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Aelodaeth broffesiynol, neu’ch bod o leiaf yn gweithio tuag at achrediad o’r fath mewn pwnc cysylltiedig, o fewn amserlen y cytunir arni.
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, UKWAS a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o bob agwedd ar arferion coedwigaeth, gan gynnwys cynllunio coedwigoedd, gweithrediadau coedwig.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.