Cynghorydd Rhybuddio a Hysbysu
Dyddiad cau: 20/07/2025| Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru (Bangor, Bwcle neu Y Trallwng)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Perygl Llifogydd a Dŵr, Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 18/08/2025
Rhif swydd: 200289
Y rôl
Ydych chi'n barod i chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl a chymunedau i baratoi ar gyfer effeithiau llifogydd? Ymunwch â'n tîm Rhybuddio a Hysbysu yn Cyfoeth Naturiol Cymru a bod yn rhan o'r ymateb rheng flaen i newid hinsawdd.
Fel Cynghorydd, byddwch yn helpu i ddarparu a gwella ein gwasanaeth rhybuddion lifogydd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru — gan ddatblygu gweithdrefnau, hyfforddi swyddogion dyletswydd, a chefnogi ardaloedd blaenoriaeth uchel. Bydd eich gwaith yn cael dylanwad gwirioneddol, o helpu cymunedau i ddeall eu risg llifogydd a pharatoi cynlluniau llifogydd, i lunio ein hymateb brys yn ystod digwyddiadau llifogydd.
Byddwch chi'n gweithio gyda thîm brwdfrydig a chefnogol, gan ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd, partneriaid proffesiynol a fforymau cydnerthedd lleol. Mae'r rôl hon hefyd yn cynnwys cymryd rhan yn ein rota 24/7 fel Swyddog Dyletswydd Rhybuddio rhag Llifogydd — sy’n hanfodol wrth gadw cymunedau'n barod pan fo hynny o’r pwys mwyaf.
Er y byddwch yn gweithio o’ch cartref i raddau helaeth, bydd cyfleoedd i gydweithio wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rydym yn cynnig diwylliant gweithio hyblyg sy'n eich helpu i ffynnu'n bersonol ac yn broffesiynol.
Dyma eich cyfle i ymuno â thîm ymroddedig sy'n mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd yn uniongyrchol—ac i adeiladu gyrfa werth chweil sy'n helpu i amddiffyn pobl, eiddo a'r amgylchedd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rhys Hughes at Rhys.o.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cyfrannu at y tîm Rhybuddio a Hysbysu drwy gymryd rhan yn y gwaith o nodi a datblygu cynlluniau busnes/gwaith er mwyn lleihau a rheoli'r risg o lifogydd.
- Cefnogi arferion gorau o ran Iechyd a Diogelwch drwy fynd ati’n rhagweithiol i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu darparu i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Hyrwyddo defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau er mwyn sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau ar amser ac o fewn y targedau cost ac ansawdd.
- Cymryd rhan mewn gwaith ar draws timau a cheisio dylanwadu ar gwsmeriaid a sefydlu partneriaethau lleol i gyflawni amcan cyffredin CNC.
- Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd fel bod y gyfarwyddiaeth, ei phartneriaid a'r cyhoedd yn barod i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd.
- Rhoi mewnbwn i gynlluniau a gweithdrefnau digwyddiadau gyda phartneriaid allanol a phrofi trwy ymarfer er mwyn sicrhau bod y gyfarwyddiaeth yn barod ar gyfer digwyddiadau llifogydd.
- Cydlynu a gweinyddu gweithdrefnau mewnol i sicrhau bod y gyfarwyddiaeth yn gallu ymateb yn effeithiol yn ystod digwyddiad llifogydd.
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil gan weithio gyda phartneriaid fel rhan o'r Fforwm Cydnerthedd Lleol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil).
- Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. CIWEM, ICE neu IRM) ac yn gweithio tuag at ddod yn aelod siartredig yn y dyfodol agos.
- Profiad o reoli digwyddiadau llifogydd gweithredol dros nifer o flynyddoedd.
- Profiad cydnabyddedig o ysgrifennu adroddiadau technegol.
- Llythrennedd cyfrifiadurol.
- Profiad o hyfforddi/mentora pobl a datblygu aelodau staff “iau”.
- Rhaid cael trwydded yrru lawn yn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.