Peiriannydd Gweithrediadau Perygl Llifogydd

Dyddiad cau: 16/07/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Rhuddlan

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Peirianneg Integredig / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 11/08/25

Rhif swydd: 200348

Y rôl

Ymunwch â Cyfoeth Naturiol Cymru fel peiriannydd gweithrediadau a chwaraewch rôl hollbwysig wrth ddarparu datrysiadau peirianegol cynaliadwy, sy'n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ac sy'n amddiffyn cymunedau a'r amgylchedd.

Fel rhan o'n tîm peirianneg integredig yn y gogledd-ddwyrain, byddwch yn arwain y gwaith o gynllunio a chyflawni gwaith cynnal a chadw yn ymwneud â’r perygl o lifogydd, gwaith gwella cyfalaf, a phrosiectau seilwaith arloesol. O'r diwrnod cyntaf, byddwch wrth wraidd y broses o ddylunio, caffael a rheoli cynlluniau peirianneg sifil sy'n cael effaith wirioneddol.

Byddwch yn gweithredu fel rheolwr prosiectau, cynghorydd technegol, ac arweinydd iechyd a diogelwch — gan gefnogi ymdrechion ymateb i ddigwyddiadau, mentora aelodau iau o'r tîm, a chydweithio â chontractwyr a phartneriaid er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Bydd eich gwaith yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella gwydnwch seilwaith a chyflawni ein hamcanion rheoli cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â chefndir cadarn mewn peirianneg sifil, ac yn ddelfrydol, yn meddu ar gymhwyster gradd neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND)/Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) â phrofiad sylweddol. Mae dealltwriaeth gref o reoliadau adeiladu (dylunio a rheoli) yn hanfodol, gan y byddwch yn helpu i gyflawni ein rhaglen cynnal a chadw flynyddol fel prif ddylunydd, ac yn cefnogi dyletswyddau'r cleient. Bydd sgiliau rheoli prosiectau (PRINCE2 yn ddymunol), meddylfryd cydweithredol, a phrofiad o reoli cyllidebau a systemau technegol yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant.

Mae hyn yn fwy na rôl peirianneg — mae'n gyfle i helpu i lunio dyfodol ymdrechion addasu i'r hinsawdd a gwydnwch yr hinsawdd yng Nghymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi cyfleoedd gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. Mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i wneud penderfyniadau ar faterion cymhleth a chyfleu’r penderfyniadau hyn i’n cwsmeriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Os ydych chi'n angerddol am ddarparu datrysiadau peirianegol sy'n cefnogi cymunedau a'r amgylchedd, ac am fod yn rhan o dîm dylunio blaengar mewn sefydliad gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi cyfleoedd gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Craig Davies at
Craig.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw) 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r prif gorff amgylcheddol yng Nghymru, sy'n gweithio i sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol er budd pobl, yr amgylchedd a'r economi. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth amddiffyn cymunedau, gwella bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae'r rôl hon yn rhan o'n Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau yn y gogledd-ddwyrain, yn y tîm peirianneg integredig yn benodol. Mae ein tîm yn gyfrifol am gynllunio technegol a gwaith cynnal, cadw a gwella asedau amddiffyn rhag llifogydd, gan sicrhau eu bod yn perfformio'n effeithiol pan fydd eu hangen fwyaf ar gymunedau. Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau ymateb i ddigwyddiadau, staff rheoli asedau, contractwyr a rhanddeiliaid i gadw pobl yn ddiogel a lleihau'r perygl o lifogydd.

Mae ein cyfarwyddiaeth yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau a gwasanaethau amgylcheddol lleol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol CNC — gan gynnwys gwydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gwella bioamrywiaeth, a diogelu cymunedau. Yn y gyfarwyddiaeth, mae ein tîm yn sicrhau bod asedau sy’n ymwneud â’r perygl o lifogydd yn cael eu cynnal, eu gwella a'u gweithredu'n effeithlon ac yn ddiogel.

Mae'r swydd wag hon yn hanfodol wrth gefnogi'r nodau hyn. Fel Peiriannydd Gweithrediadau, byddwch yn helpu i gyflawni rhaglenni rheoli asedau, cynllunio gweithgareddau ymateb i lifogydd, a chefnogi prosiectau gwella cyfalaf ar raddfa fach. Bydd eich arbenigedd technegol yn cyfrannu'n uniongyrchol at allu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli’r perygl o lifogydd, ymateb i ddigwyddiadau, a chyflawni targedau cenedlaethol a lleol ar gyfer gwydnwch amgylcheddol a diogelwch y cyhoedd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Bod yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhaglen flynyddol ar gyfer cynnal a chadw asedau perygl llifogydd.  
  • Arwain y gwaith cynllunio ar gyfer rheoli risgiau’r gwaith.   
  • Llunio ac adolygu cynlluniau/llawlyfrau wrth gefn ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd a chynllunio ymarferion ymateb i ddigwyddiadau.  
  • Datblygu gweithdrefnau ar gyfer gweithredu asedau yn ystod digwyddiad llifogydd. 
  • Arwain y gwaith o gwmpasu, cyfiawnhau, costio a chyflawni prosiectau gwella asedau ar wahân. 
  • Bod yn gyfrifol, yn anuniongyrchol, am gyllidebau prosiectau cyllid a chyfalaf.   
  • Gweithio gyda’r adran gaffael i ddarparu gwasanaethau fframwaith a chyflenwadau cynnyrch. 
  • Gwneud gwaith goruchwylio a rheoli contractwyr. 
  • Cysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, tirfeddianwyr a grwpiau amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar gwsmeriaid.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymwysterau – mae gradd mewn peirianneg sifil, neu gymhwyster cyfwerth, yn ddymunol yn ogystal â thystysgrif adeiladu NEBOSH. Diploma Cenedlaethol Uwch / Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn peirianneg sifil neu gymhwyster cyfwerth yw'r gofyniad sylfaenol, yn ogystal â phrofiad perthnasol. Dylai'r ymgeisydd fod yn gweithio hefyd tuag at statws peiriannydd corfforedig neu ddynodiad proffesiynol priodol arall. 
  2. Bydd gennych wybodaeth eang am arferion dylunio ac adeiladu peirianneg sifil, gyda'r gallu i ddatblygu a rhoi atebion arloesol i broblemau ar waith.
  3. Yn y rôl hon, bydd disgwyl i chi gefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch drwy fynd ati i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau y darperir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
  4. Rheoli prosiectau – byddai cymhwyster ymarferydd PRINCE2 yn ddymunol. 
  5. Sgiliau tirfesur cymwys. Byddai sgiliau AutoCAD a phrofiad o ddefnyddio system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) yn ddymunol. 
  6. Mae gweithio ar y cyd gyda thimau eraill ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sefydlu partneriaethau wrth gyflawni amcanion perygl llifogydd CNC yn rhan hanfodol o’r rôl.
  7. Cyfrannu at rota dyletswydd ymateb i ddigwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  8. Y gallu i ymgymryd â’r ‘rôl cleient a dylunydd’, er mwyn cydymffurfio â Deddf Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015.
  9. Sgiliau TGCh a threfnu da.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf