Uwch-swyddog Trwyddedu Amgylcheddol Diwydiannau
Dyddiad cau: 29 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Trwyddedau Gosodiadau a’r Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 22 Gorffennaf 2025
Rhif swydd: 201568
Y rôl
Bydd gofyn i chi weithio’n annibynnol ac ar y cyd i benderfynu ar ganlyniadau ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant mawr yng Nghymru; gan gynnwys purfeydd, llosgi gwastraff, gwaith trin a thirlenwi, papur a mwydion, bwyd a diod, prosesu metelau, ffermio dwys, hylosgi, cemegion, a gweithgareddau sy’n defnyddio sylweddau ymbelydrol.
Drwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau technegol, polisïau, a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) pan maent ar gael, byddwch yn cyflawni dyletswyddau CNC i wneud penderfyniadau doeth i roi, gwrthod, neu amrywio trwyddedau amgylcheddol, yn unol ag amser a chyllideb; gan ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd, ac annog arfer gorau wrth weithredu cyfleusterau rheoleiddiedig.
Bydd angen i chi fod â chefndir gwyddonol cryf mewn pynciau perthnasol (h.y. gyda chynnwys cemeg a mathemateg), profiad o asesu risg amgylcheddol, a rhywfaint o arbenigedd o ddiwydiant o ganlyniad i brofiad rheoliadol neu brofiad gweithredol. Nid oes angen i chi fod ag arbenigedd ym mhob sector diwydiant, ond yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymwysterau blaenorol, byddwch yn cael eich penodi i feysydd pwnc i arwain arnynt.
Byddwch yn gweithio gyda chymuned rheoliadol ehangach y diwydiant, gan feithrin cysylltiadau cryf i ddatrys problemau sy’n codi yn eich maes arbenigol, a chydlynu ymatebion i ymholiadau trwyddedu gan gwsmeriaid mewnol a chwsmeriaid allanol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bach o arbenigwyr sy’n gweithio’n agos gyda’i gilydd ac sy’n rhannu gwybodaeth, profiad, ac arferion gorau. Byddwch yn gyfrifol am gefnogi, mentora, a hyfforddi eich cyfoedion i hwyluso penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg er mwyn cynhyrchu trwyddedau gorfodadwy cadarn.
Yn ogystal â’r cyfrifoldebau trwyddedu craidd, byddwch yn cyfrannu at gynllunio gwaith, rheoli risg ac adnoddau, yn ysgogi gwelliannau i brosesau, ac yn cymryd rhan mewn grwpiau clwstwr diwydiannol i gyflawni canlyniadau ac ymgorffori’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o fewn fframweithiau rheoleiddio cyfredol.
Mae’r rôl yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ac fel sefydliad rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Fel sy’n wir am lawer o rolau, mae cyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb a hyfforddiant a chefnogaeth wrth y ddesg yn fuddiol iawn, felly bydd gofyn i chi fynychu’r swyddfa’n rheolaidd i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau ac i gyflawni tasgau penodol.
Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Holly Noble a Holly.Noble@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain ar y gwaith o benderfynu ar drwyddedau cymhleth o dan ddeddfwriaeth trwyddedu gosodiadau, trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle maent ar gael, a rhoi, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni.
- Arwain ar y gwaith o ddylanwadu ar y fframweithiau mentora a hyfforddi a’u gweithredu, er mwyn cynorthwyo datblygiad technegol swyddogion trwyddedu eraill yn y Tîm Trwyddedu Gosodiadau ac ar draws y gwasanaeth trwyddedu, lle y bo’n berthnasol, gan sicrhau cysondeb o ran y dull.
- Profiad helaeth o wneud penderfyniadau trwyddedu gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol, meddalwedd dechnegol a rhaglenni modelu, yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan y cynllun gosodiadau.
- Arwain ar y gwaith o gynorthwyo timau gweithredol drwy ddarparu arbenigedd yn y trafodaethau cyn cyflwyno cais a’r gwaith ar ôl trwyddedu ar gyfer mathau amrywiol o geisiadau o fewn sectorau amrywiol y drefn gosodiadau.
- Adnabod a gweithredu ar gyfleoedd i wneud newidiadau o ran prosesau a gweithdrefnau.
- Darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol drwy gydlynu newid sy’n arwain at wella profiad rhanddeiliaid mewnol ac allanol o’r Gwasanaeth Trwyddedu.
- Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau trwyddedu yn ymwneud â’ch maes gwaith neilltuedig.
- Cynrychioli’r Gwasanaeth Trwyddedu mewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn digwyddiadau rhanddeiliaid allanol perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol perthnasol.
- Dealltwriaeth fanwl o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n ymwneud â’r broses trwyddedu gosodiadau.
- Profiad helaeth o asesu ceisiadau trwyddedu gosodiadau cymhleth neu brofiad gwaith ymarferol arwyddocaol mewn diwydiant prosesu rheoleiddiol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora amlwg.
- Dull sy’n canolbwyntio’n gryf ar y cwsmer o ran cyflawni.
- Hanes blaenorol o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
- Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 – Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.