Partner Busnes Dysgu a Datblygu
Dyddiad cau: 4 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Datblygu Pobl a Llesiant / Strategaeth a Datblygu Corfforaethol
Cyflog cychwynnol: 45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awy yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 202364
Y rôl
Fel Partner Busnes Dysgu a Datblygu, byddwch yn arwain y gwaith o ddylunio a darparu atebion datblygu o ansawdd uchel sy'n edrych tua’r dyfodol ac sy'n meithrin gallu arweinyddiaeth ac yn cryfhau perfformiad sefydliadol ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Byddwch yn dylunio a chyflwyno amrywiaeth o atebion dysgu deniadol, yn bersonol ac ar-lein, sy'n cefnogi ffyrdd modern o weithio ac yn diwallu anghenion presennol a dyfodol ein pobl. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel arweinyddiaeth, rheolaeth, a sgiliau hanfodol yn y gweithle.
Mae'r rôl hon yn allweddol wrth lunio ein diwylliant arweinyddiaeth. Byddwch yn cydweithio'n agos â thimau ar draws y sefydliad, gan feithrin partneriaethau cryf gydag uwch arweinwyr a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod ein cynnig arweinyddiaeth a dysgu yn berthnasol, wedi'i dargedu ac wedi'i ymgorffori o fewn ein gwaith o ddydd i ddydd.
Gan ddefnyddio dull strategol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, byddwch yn nodi ac yn hyrwyddo arfer gorau mewn arweinyddiaeth a datblygu sefydliadol, gan ddefnyddio syniadau presennol a modelau sy’n dod i’r amlwg i siapio’r gallu arweinyddiaeth sydd eu hangen arnom nawr ac yn y dyfodol.
Byddwch yn arwain y gwaith o adnewyddu ein cynnig datblygu arweinyddiaeth, gan ei deilwra i gynulleidfaoedd penodol a sicrhau ei fod yn darparu taith ddatblygu glir a phwrpasol ar bob lefel. Yn ogystal, byddwch yn comisiynu ac yn rheoli darparwyr allanol yn unol â phrosesau caffael CNC, gan sicrhau safonau uchel a gwerth am arian.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Morgan ar charlotte.morgan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams ar 22 Gorffennaf 2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a chyflawni prosiectau, sy’n cael eu llywio gan gynllun y gweithlu, y cynllun ymgysylltu staff a’r cynllun datblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth, gan ymateb i anghenion newidiol ein sefydliad a'r amgylchedd allanol, a chan ddylunio, darparu a gwerthuso atebion cynaliadwy i sicrhau gwydnwch ein pobl a'n sefydliad.
- Hyfforddi a datblygu ein rheolwyr yn rhagweithiol i ddatblygu a chynnal eu hyder i arwain a rheoli eu timau a datblygu talent gan ddarparu gyrfaoedd boddhaol a gweithlu gwydn.
- Cynghori a hyfforddi rheolwyr i nodi anghenion hyfforddiant eu timau er mwyn cynorthwyo datblygu sgiliau technegol a sgiliau eraill yn unol â'n gwerthoedd.
- Dylunio a darparu ymyriadau adeiladu tîm ac ymyriadau eraill i ddatblygu ymddygiad, a hynny’n rhagweithiol ac adweithiol.
- Dylunio, cyflwyno a gwerthuso gweithdai ar amrywiaeth o bynciau datblygu — gan gynnwys arbenigwyr pwnc mewnol lle bo hynny'n briodol.
- Datblygu polisïau a chynhyrchu adroddiadau i ddangos eu heffaith, a llywio newid diwylliant.
- Darparu cefnogaeth hyfforddi broffesiynol i unigolion er mwyn hwyluso penderfyniadau priodol am eu dyfodol, gan gynnwys cymorth all-leoli yn ystod unrhyw raglenni newid.
- Nodi anghenion llesiant a chymryd camau priodol i liniaru unrhyw effaith negyddol.
- Arwain meysydd gwaith eraill yn y tîm Datblygu Sefydliadol, a'r gyfarwyddiaeth, fel y bo'n briodol
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
Cymhwyster CIPD neu gyfwerth gyda phrofiad sylweddol o weithio fel ymarferydd Dysgu a Datblygu neu reolwr gyda hanes o ddatblygu talent.
- Cymhwyster CIPD neu gyfwerth gyda phrofiad sylweddol o weithio fel ymarferydd Dysgu a Datblygu neu reolwr gyda hanes o ddatblygu talent.
- Profiad o ddatblygu pobl a chefnogi newid diwylliant mewn timau a sefydliadau
- Brwdfrydedd dros ymchwilio i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio sy'n diddori ac yn ysbrydoli gweithlu amrywiol i'n galluogi i ddenu a chadw talent yn ein sefydliad
- Sgiliau rheoli prosiect profedig a'r gallu i ysbrydoli hyder a chyfathrebu ar bob lefel yn ein sefydliad.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.