Cynghorydd Rheolaeth Gynaliadwy Natura 2000
Dyddiad cau: 30/08/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Caerdydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Amgylchedd Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026 gyda’r posibilrwydd o estyniad
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 15/08/2025
Rhif swydd: 203218
Y rôl
Ydych chi’n barod i weithredu ar yr argyfwng natur a helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru? Rydym yn chwilio am Gynghorydd Rheolaeth Gynaliadwy Natura 2000 sy’n angerddol ac yn rhagweithiol i ymuno â’n Tîm Amgylchedd sydd wedi’i leoli yn swyddfa Llaneirwg yng Nghaerdydd.
Mae hwn yn gyfle unigryw i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddiogelu ac adfer rhai o gynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Cymru. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr, cymunedau a phartneriaid allweddol – gan gynnwys Llywodraeth Cymru – i ddylunio a chyflawni prosiectau sy’n cefnogi adferiad natur, yn gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig, ac yn gwneud ecosystemau ar draws y rhanbarth yn fwy gwydn.
O ddydd i ddydd, byddwch yn rhan o ddatblygu a rheoli mentrau cadwraeth ar lawr gwlad, gan nodi a sicrhau cyllid drwy grantiau a chynigion buddsoddi cyfalaf, ac yn sicrhau bod prosiectau’n cyd-fynd â strategaeth Natur Hanfodol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a blaenoriaethau lleol y Datganiadau Ardal. Byddwch yn darparu cyngor ecolegol arbenigol ar fioamrywiaeth ddaearol ac yn gweithio gydag eraill i gyd-greu atebion ymarferol a pharhaol ar gyfer rheoli tir a chynefinoedd. Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys cynorthwyo â’r gwaith o lunio cytundebau rheoli gyda thirfeddianwyr, gan sicrhau cydymffurfedd ac adroddiadau, a monitro cynnydd i gadw’r ddarpariaeth ar y trywydd iawn.
Dyma rôl lle bydd eich syniadau, eich gwybodaeth a’ch sgiliau cydweithio yn trosi’n uniongyrchol i weithredu a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i natur. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol a blaengar sy’n gwerthfawrogi arloesedd, hyblygrwydd a gweithio mewn partneriaeth. Os ydych chi’n chwilio am rôl gydag amrywiaeth, cyfrifoldeb ac effaith wirioneddol, dyma’ch cyfle i helpu i ysgogi newid go iawn er lles bioamrywiaeth a’r amgylchedd yng Nghymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Kate Rodgers at Kate.Rodgers@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio gyda staff CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol i ddatblygu prosiectau partneriaeth a fydd yn gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
- Nodi a datblygu cynigion ar gyfer cyllid cyfalaf a chymorth grant ar gyfer camau gweithredu a phrosiectau sydd ar waith sydd wedi’u llywio gan ddogfen Natur Hanfodol a blaenoriaethau Datganiadau Ardal CNC ac sy’n gyson ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Gweithio gyda thîm yr amgylchedd, y tîm rheoli tir a thirfeddianwyr i helpu i gyflawni cytundebau rheoli.
- Sicrhau bod y gwaith o weithredu ac adrodd ynghylch y prosiect yn cydymffurfio’n llawn â pholisïau a gweithdrefnau CNC.
- Helpu i fonitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, darparu prosiectau neu gydymffurfio â chytundebau rheoli. Nodi a chefnogi unrhyw gamau unioni i sicrhau y cyflawnir canlyniadau. Casglu tystiolaeth i sicrhau bod unrhyw hawliadau a gyflwynir yn briodol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Profiad o gadwraeth natur, bioamrywiaeth, a safleoedd a thirweddau gwarchodedig yn yr amgylchedd morol neu ddaearol.
2. Profiad o weithio gyda thirfeddianwyr a/neu randdeiliaid eraill.
3. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
4. Y gallu i ddylanwadu, trafod ac ennyn cydweithrediad gan eraill. Mae’n bwysig bod deiliad y swydd yn meddu ar brofiad o ymdrin â phobl/sefyllfaoedd anodd yn llwyddiannus.
5. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
6. Gallu rhagorol i feithrin cydberthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol.
7. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol sy’n glir a chryno.
8. Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis systemau gwybodaeth ddaearyddol neu gymwysiadau CNC sydd wedi’u haddasu.
9. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
10. Trwydded yrru lawn sy’n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.