Uwch Swyddog Rheoleiddio Gwastraff

Dyddiad cau: 13/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwastraff Unwaith o fewn Gweithrediadau / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 29/07/25

Rhif swydd: 203927, 203759

Y rôl

A ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd ac yn barod i lunio dyfodol rheoleiddio gwastraff yng Nghymru? Mae ‘Strategaeth Mwy nag Ailgylchu’ Llywodraeth Cymru yn gynllun i wireddu’r economi gylchol yng Nghymru, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith nad yw ein llwybr tuag at economi carbon isel, diwastraff, erioed wedi bod yn bwysicach. Mae’r strategaeth uchelgeisiol yn creu deddfwriaeth newydd ac yn rhoi dyletswyddau newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys rheoleiddio ailgylchu yn y gweithle ac olrhain gwastraff.

Rydym am benodi unigolion hyderus a brwdfrydig i ymuno â’n tîm rheoleiddio gwastraff newydd fel uwch-swyddogion i helpu i arwain y ffordd ar ddiwygio rheoleiddio a diogelu’r amgylchedd.

Dyma gyfle gwych i chwarae rhan allweddol yn un o feysydd pwysicaf ac esblygol rheoleiddio amgylcheddol. Byddwch yn gweithredu fel mentor technegol i aelodau’r tîm, gan roi arweiniad arbenigol a chefnogi eu datblygiad, gan helpu i lywio gwelliant parhaus yn y ffordd yr ydym yn rheoleiddio’r diwydiant gwastraff ledled Cymru.

Fel uwch-swyddog, byddwch yn cynghori ar gydymffurfedd, yn arwain ar gamau gorfodi lle bo angen, ac yn helpu i lunio cynlluniau gwaith tîm i gyd-fynd â blaenoriaethau strategol. Bydd cyfle gennych hefyd i nodi ffyrdd arloesol o weithio a meithrin partneriaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a chyda sefydliadau allanol.

Os ydyw datrys problemau, dylanwadu ar newid, a gweithio mewn amgylchedd cyflym sy’n cael ei lywio gan ddiben yn mynd â’ch bryd chi, mae’r rolau hyn yn cynnig cyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i Gymru, ei phobl, a’i hamgylchedd.

Ar hyn o bryd mae’r rôl o fewn y tîm Lleoliadau Rheoleiddio Gwastraff a sefydlwyd i ymateb i’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024. Ar hyn o bryd rydym o fewn y grŵp Polisi a Dull Rheoleiddio Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ond byddwn yn symud yn fuan i’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau i grŵp Gweithrediadau Unwaith i Gymru sydd newydd ei ffurfio. Mae’r grŵp newydd yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i’r dyletswyddau rheoleiddio newydd sy’n deillio o ddiwygiad deddfwriaethol helaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwastraff.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch a Kate Jones at kate.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu fel mentor a chynghorydd technegol i aelodau'r tîm.
  • Darparu arweiniad arbenigol mewn perthynas â chydymffurfio â safonau amgylcheddol a rheoleiddio.
  • Cymryd camau priodol at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Nodi a gweithredu ffyrdd newydd o weithio i wella effeithlonrwydd wrth gyflawni canlyniadau.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda phartïon mewnol ac allanol.
  • Datblygu cynlluniau gwaith ar gyfer aelodau tîm sy'n adlewyrchu blaenoriaethau ehangach. (e.e. Waste Steer)
  • Sicrhau datblygiad technegol aelodau'r tîm.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o naill ai weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
  2. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
  4. Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig, gradd neu brofiad cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf