Ymgynghorydd Prosesau Ffisegol Morol ac Arfordirol Arweiniol

Dyddiad cau: 17/08/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyngor Ecosystemau Morol ac Arfordirol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu 

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 22/09/2025

Rhif swydd: 203993

Y rôl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am arbenigwr medrus a brwdfrydig i ddarparu cyngor arbenigol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar brosesau ffisegol morol ac arfordirol.

Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ar draws timau gwahanol a gyda phartneriaid allanol ar faterion allweddol fel effeithiau newid yn yr hinsawdd ac ynni adnewyddadwy ar y môr (gan gynnwys seilwaith cysylltiedig fel ceblau tanfor). Byddwch yn helpu i lunio dull strategol CNC yn y maes hwn, rheoli prosiectau tystiolaeth, a chynhyrchu canllawiau clir i staff a datblygwyr.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth dechnegol gref, sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddylfryd rhagweithiol, a gallu i ddatrys problemau. Os ydych chi'n barod i gael effaith wirioneddol ar ddyfodol arfordiroedd a moroedd Cymru, rydym am glywed gennych.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kirsten Ramsay

Kirsten.Ramsay@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae'r rôl hon yn rhan o'n Tîm Ecosystemau Morol ac Arfordirol – grŵp bywiog, amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n frwdfrydig am warchod a gwella amgylcheddau morol ac arfordirol Cymru. Rydym yn darparu cyngor technegol arbenigol ar draws ystod eang o bynciau, gan gefnogi cydweithwyr mewnol a phartneriaid allanol ar bolisïau, rhaglenni, cynlluniau a chanllawiau strategol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr blaenllaw eraill yn y tîm, y mae eu meysydd ffocws yn cynnwys cynefinoedd arfordirol a morol, mamaliaid morol, adar morol, pysgod, ac ansawdd dŵr.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a rheoli prosiectau a materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni a chanllawiau CNC gan gynnwys cymorth ar waith achos sy'n newydd, dadleuol neu o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd.
  • Darparu cyngor statudol i LlC a chyrff eraill yng Nghymru yn ogystal ag adrannau llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau morol penodol, ac adolygu a chynghori yn eu tro ar y polisi, y cynlluniau a'r strategaethau a gynhyrchir.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o brosesau ffisegol morol i sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a bwriad Polisi Rhyngwladol.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Creu a chynghori ar ganllawiau i staff CNC a rhanddeiliaid allanol.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl o brosesau ffisegol morol ac arfordirol gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
  • Darparu cyngor arbenigol i Fyrddau Rhaglenni perthnasol yn CNC a chyfrannu at gyflawni Rhaglen Forol CNC.
  • Llywio'r oruchwyliaeth a'r berchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar feysydd polisi penodol sy'n gysylltiedig â phrosesau ffisegol morol ac arfordirol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a deddfwriaeth arall sy'n ymwneud â chynllunio a rheoli'r amgylchedd morol ac arfordirol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU ac ysgogwyr polisi eraill ar faterion morol ac arfordirol; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau, y sbardunau a'r rhwystrau cymhleth sy'n wynebu CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni canlyniadau ecosystemau morol ac arfordirol yng Nghymru, gan gyfeirio'n benodol at brosesau ffisegol morol ac arfordirol. 
  3. Gwybodaeth dechnegol arbenigol a dealltwriaeth fanwl o brosesau ffisegol morol ac arfordirol. 
  4. Profiad o gyflwyno prosiectau neu raglenni tystiolaeth neu ganllawiau sy'n berthnasol i brosesau ffisegol morol ac arfordirol.
  5. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau. 
  6. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
  7. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn y maes cyhoeddus.

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf