5 aderyn i'w dathlu a'u gwarchod dros y Pasg
Wrth i'r Pasg gyrraedd, rydym yn dathlu 5 aderyn a fydd yn nythu o amgylch Cymru'r Pasg hwn ac yn rhannu 5 darn da o gyngor i amddiffyn eu hwyau bregus, sydd â chuddliw effeithiol iawn, yn ystod cyfnod prysur y gwyliau.
Yn ddiarwybod i ni, gallai’r adar mwyaf bregus yn y DU fod yn nythu ychydig gentimetrau o lle rydyn ni'n cerdded, ar ein mynyddoedd, ein rhostiroedd, ein dolydd ac ar hyd ein harfordir. Yr adar sydd ar y Rhestrau Coch ac Ambr yw’r rheini sy’n wynebu’r dirywiad mwyaf difrifol ac sydd angen gofal ychwanegol yn ystod y tymor nythu.
Bod Tinwen

Un o adar ysglyfaethus prinnaf Prydain. Mae'r Bod Tinwen yn dibynnu ar ucheldiroedd tawel am eu tiriogaethau magu lle mae'r adar gwryw’n perfformio dawns anhygoel yn yr awyr i ddenu eu partneriaid benyw. Mae’r Bod Tinwen ar y rhestr goch yng Nghymru, gydag arolygon yn dangos y gallai fod dim ond 40 pâr sy’n magu. Gall parau adael eu nythod os ydynt yn cael eu haflonyddu gan gerddwyr neu gŵn.
Gylfinir
Mae’r Gylfinir yn enwog am ei alwad swynol a oedd i’w glywed yn gyffredin ar ein hucheldiroedd ar un adeg. Adar sy'n nythu ar y ddaear yw Gylfinirod ac maen nhw’n magu mewn glaswelltiroedd garw a chynefinoedd ar yr ucheldir. Yn anffodus, bu dirywiad o 51% yn nifer y Gylfinirod sy'n magu yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda dim ond 59,000 o barau ar ôl, maen nhw’n rhywogaeth arall sydd ar y rhestr goch yng Nghymru. Pan maen nhw’n cael eu haflonyddu, mae gylfinirod llawn dwf yn hedfan, gan adael eu hwyau a'u cywion yn agored i oerfel ac ysglyfaethwyr.
Tinwen y Garn

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae Tinwennod y Garn wedi cyrraedd o'u tiroedd gaeafu yn Affrica Is-Sahara. Mae Tinwennod y Garn yn aml i'w gweld o amgylch arfordir a mynyddoedd Cymru; cadwch lygad am y darn gwyn llachar ar eu cynffon wrth iddynt hedfan i ffwrdd. Y cofnod cyntaf o Dinwen y Garn yng Nghymru oedd ar yr Wyddfa ym 1778 lle maent i'w cael yn gyffredin o hyd. Mae Tinwen y Garn yn rhywogaeth ar y rhestr ambr sydd mewn perygl o ddod yn rhywogaeth ar y rhestr goch oherwydd y dirywiad diweddar yn y boblogaeth. Maen nhw’n cael eu haflonyddu'n hawdd gan gerddwyr a chŵn oddi ar y tennyn.
Corhedydd y Waun

Er bod Corhedydd y Waun yn aderyn cyffredin yn ucheldiroedd Cymru, mae'n rhywogaeth sydd ar y rhestr goch yng Nghymru. Mae Corhedydd y Waun yn adnabyddus am ei ymddygiad i dynnu sylw ysglyfaethwyr posib oddi wrth ei gywion. Dylai cerddwyr, yn enwedig os oes ganddynt gŵn, gadw llygad am yr ymddygiad hwn er mwyn osgoi tarfu arnynt.
Cwtiad Torchog

Mae'r Cwtiad Torchog yn aderyn hirgoes bach â chuddliw da, sy'n ymdoddi'n hawdd i’r dirwedd o’i amgylch ar draethau. Mae’n hoffi nythu ar draethau agored lle bydd yn crafu pant bach i ddodwy ei wyau ymhlith y graean rhwng llinell y llanw uchel a phen uchaf y traeth. Mae ei wyau hefyd wedi'u cuddliwio'n dda iawn gan eu gwneud yn agored i gael eu sathru'n ddamweiniol. Gall yr adar llawn dwf ymddwyn mewn ffordd ddramatig pan gânt eu bygwth, gan esgus eu bod wedi anafu i ddenu ysglyfaethwyr i ffwrdd o'u nythod.
5 Awgrym o'r Cod Cefn Gwlad
Dyma ein 5 Awgrym o'r Cod Cefn Gwlad i osgoi tarfu ar yr adar hyn ac adar eraill:
1. Mwynhewch fyd natur!
Drwy gymryd ein hamser i fwynhau'r adar o'n cwmpas, rydym yn naturiol yn dod yn fwy sensitif i'w hangen am le. Po fwyaf y byddwn yn sylwi ar eu galwadau, eu symudiadau a'u hymddygiadau, yr hawsaf yw hi i adnabod pryd y gallai adar fod yn nythu gerllaw ac osgoi eu haflonyddu.
2. Cadwch gŵn ar dennyn
Bydd hyd yn oed cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn dychryn adar o'u nythod neu'n difrodi wyau a ddodwyd ymhlith grug y mynydd neu ar draethau graeanog. Cadwch eich ci ar dennyn byr yn ystod y tymor nythu i helpu adar sy’n agored i niwed i fagu eu cywion yn ddiogel. Yn ôl y gyfraith, RHAID cadw cŵn ar dennyn byr ar dir Mynediad Agored rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf.
3. Cadwch at y llwybr
Mae adar sy'n nythu ar y ddaear yn aml yn dodwy eu hwyau ychydig gentimetrau o lwybrau troed poblogaidd, yn enwedig mewn ardaloedd mynyddig ac arfordirol. Mae aros ar lwybrau poblogaidd yn lleihau'r siawns o gamu'n rhy agos at nyth ac aflonyddu ar adar tra byddant yn gofalu am eu cywion.
4. Rhowch le i adar
Os bydd aderyn yn dechrau gwneud twrw, yn hedfan i fyny mewn braw, neu'n ymddwyn yn wahanol i dynnu eich sylw, mae'n arwydd eich bod chi'n rhy agos. Symudwch i ffwrdd yn dawel a rhowch ddigon o le i'r aderyn ddychwelyd i'w nyth. Gall hyd yn oed aflonyddwch am gyfnod byr wneud wyau neu gywion yn agored i oerfel, ysglyfaethwyr neu gael eu gadael.
5. Dilynwch arwyddion a chanllawiau lleol
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae dargyfeiriadau dros dro, ardaloedd wedi'u ffensio a chyfyngiadau ar gŵn yn aml ar waith i amddiffyn adar sy'n magu. Mae parchu'r mesurau hyn yn helpu i ddiogelu rhywogaethau sydd dan fygythiad.
Y Cod Cefn Gwlad
Y Cod Cefn Gwlad yw eich canllaw i fwynhau'r awyr agored yn ddiogel ac yn gyfrifol. P'un a ydych chi'n pysgota, yn nofio yn y gwyllt, neu allan am dro gyda'r ci ar y penwythnos, mae dilyn y Cod yn cefnogi natur, cymunedau lleol, ac ymwelwyr eraill. Mae hyn yn sicrhau y gall pawb fwynhau cefn gwlad.
Darllenwch y Cod llawn ar ein gwefan
Cydnabyddiaeth y lluniau
- Bod Tinwen © Sander Meertins trwy canva.com
- Gylfinir © MikeLane45 trwy canva.com
- Tinwen y Garn © Leopardinatree trwy canva.com
- Corhedydd y Waun © aaprophoto trwy canva.com
- Cwtiad Torchog © Connah trwy canva.com