Mai Di-dor: pam ein bod ni’n gadael i’r glaswellt dyfu

Ar hyd a lled Cymru, mae dwndwr y peiriant torri gwair yn peidio a sïo prysur y gwenyn yn codi dros y tir.

Unwaith eto rydyn ni’n cymryd rhan yn ymgyrch Mai Di-dor drwy atal gwaith torri gwair, ac eithrio beth sy’n hanfodol, ar y tir sydd dan ein gofal – ac rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan.

Mae tystiolaeth gynyddol i ategu ymgyrch Mai Di-dor, sy’n ffordd syml ond pwerus o gefnogi bioamrywiaeth, helpu pryfed peillio, a gadael i fyd natur wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau: tyfu, blodeuo a ffynnu.

Gadael i’r glaswellt dyfu i helpu byd natur i adfer

Mae’r cwymp mewn bioamrywiaeth yn cyflymu ar hyd a lled Cymru, a hynny o ran cwmpas a chyfradd. Mae hanner y 27 rhywogaeth o gacwn yn y Deyrnas Unedig yn prinhau, ac o’r 43 rhywogaeth o löyn byw a geir yng Nghymru, mae 17 yn prinhau a 10 yn prinhau’n ddifrifol.

Mae nifer o resymau dros y gostyngiad mewn pryfed peillio, er enghraifft newid hinsawdd, llygredd a phlaladdwyr, a newid yn y ffordd y caiff tir ei reoli.

Ar ddechrau’r gwanwyn mae llawer o bryfed peillio yn deffro o’u gaeafgwsg a’u boliau’n wag, ond mae blodau’n brin yr adeg hon a gall fod yn anodd iddynt oroesi. Gall llecyn bach o laswellt hir, yn cynnwys llond dwrn o ddant y llew, blodau menyn neu feillion, fod yn noddfa iddynt.

Bydd peidio â thorri’r gwair ym mis Mai yn helpu bioamrywiaeth drwy ganiatáu i blanhigion y gwanwyn fwrw eu hadau a thyfu i gynnig neithdar a phaill i bryfed peillio, er enghraifft gwenyn a gloÿnnod byw.

Atal gwaith torri gwair ar y tir sydd dan ein gofal yn ystod mis Mai

Drwy gydol y tymor tyfu, rydyn ni’n torri gwair a llystyfiant mewn llefydd fel coedwigoedd, gwarchodfeydd natur, glannau afonydd, amddiffynfeydd rhag llifogydd ac argloddiau cronfeydd dŵr.

Byddwn yn atal gwaith torri gwair ar y tir a’r asedau rydym yn eu rheoli yn ystod mis Mai oni bai ei fod yn gwbl hanfodol. Er enghraifft:

  • er mwyn rheoli mynediad at goedwigoedd a gwarchodfeydd natur i sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn ymweld.
  • er mwyn ei gwneud yn hawdd archwilio amddiffynfeydd rhag llifogydd a’u trwsio os bydd angen, gan helpu i leihau perygl llifogydd i gymunedau.
  • er budd cadwraeth natur, er enghraifft i reoli rhywogaeth oresgynnol neu er budd rhywogaethau mewn ardal benodol drwy dorri’r llystyfiant.

Gadewch y glaswellt – sut gallwch chi gymryd rhan

Mae angen i ni weithredu nawr i amddiffyn ein peillwyr. 

Roedd yr ymateb yn anhygoel llynedd. Ar ôl gadael i’r glaswellt dyfu, fe welwyd y blodau gwyllt yn ffynnu ar draws ein safleoedd. Dyna pam rydyn ni’n rheoli ein holl safleoedd i’w gwneud mor addas i bryfed peillio â phosib ac i gynnig bwyd a lloches i rywogaethau eraill.

Nid oes angen i chi reoli ardaloedd enfawr o dir i wneud gwahaniaeth. Gyda’n gilydd, gall ein hymdrechion – er yn fach ar ein pennau ein hunain – wneud gwahaniaeth mawr i fyd natur.

Os oes gennych chi lawnt neu hyd yn oed lecyn gwyrdd yn eich gwelyau blodau – ceisiwch ei adael heb ei dorri yn ystod mis Mai. Gadewch i’r blodau agor, gwyliwch y gwenyn yn cyrraedd, a mwynhewch yr harddwch gwyllt sy’n dilyn.

Ac nid dim ond gartref – mae yna bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu pryfed peillio i oroesi. Gall y rhain fod yn gymharol syml, fel rheoli lleiniau glas mewn ffordd fwy sensitif, neu adael ardaloedd gwyllt o amgylch ein swyddfeydd a’n hadeiladau cyhoeddus.

Dyma beth allwch chi ei wneud:

  • Peidiwch â thorri’r gwair yn ystod mis Mai – hyd yn oed ar ddim ond rhan o’ch lawnt.
  • Gadewch i’r blodau agor – ceisiwch wrthsefyll yr ysfa i godi’r “chwyn”. Efallai mai chwynnyn a welwn ni, ond gall fod yn wledd i wenynen newynog.
  • Rhannwch hanes eich llecyn gwyllt ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #MaiDiDor
  • Siaradwch â’ch cymuned – gofynnwch i’ch cymdogion, eich ysgol leol, eich gweithle neu eich cyngor a oes modd iddyn nhw gymryd rhan hefyd.
  • Daliwch ati drwy gydol y flwyddyn – gwnewch eich gerddi’n addas i beillwyr trwy beidio â defnyddio plaladdwyr, peidio â thorri’r lawnt mor aml, a thyfu planhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr.

Gwneud lle i fyd natur ffynnu

Drwy gymryd rhan ym Mai Di-dor, rydyn ni’n rhoi hoe i fyd natur. Rydyn ni’n creu’r amodau y mae eu hangen i fyd natur adfer a ffynnu – ac yn dangos bod gan bawb, o sefydliadau cenedlaethol i aelwydydd unigol, rôl i’w chwarae.

Ymunwch â ni a gadewch y glaswellt y mis Mai hwn.

I gael gwybod mwy am sut gallwch chi helpu i gefnogi pryfed peillio, ewch i’n tudalen Caru Peillwyr neu ewch i wefan Plantlife i ddysgu am ymgyrch ‘Mai Di-dor’.

Dilynwch ni @NatResWales a rhannwch hanes eich llecyn gwyllt gyda #MaiDiDor #NoMowMay

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru