Allwch chi helpu i ddatgloi 'Iaith Mawndiroedd'?

Elinor Gwynn

Mae mis Mai, mis hanes lleol a chymunedol, yn nodi uchafbwynt prosiect treftadaeth peilot 'Iaith Mawndiroedd' yn ardal coedwig Tywi yng nghanolbarth Cymru. Aeth y llenor a'r amgylcheddwraig Elinor Gwynn ati i archwilio cysylltiadau hanesyddol cymunedau â'u mawndir ac ymateb i hyn yn greadigol. Mae'r prosiect bellach yn awyddus i glywed gan eraill sydd â gwybodaeth am dreftadaeth ac iaith y mawndiroedd yn ardal coedwig Tywi.

Gall iaith ein helpu i ddeall tirweddau a pherthnasoedd amrywiol a chyfnewidiol pobl â lleoedd dros amser. Ymhlith y trysorau a ddarganfuwyd yn ystod y prosiect hwn roedd sawl enw nodweddiadol a hir anghofiedig ar nentydd sy’n llifo trwy ucheldir Coedwig Tywi. Roedd hen recordiadau hefyd yn datgelu hanesion diddorol, fel y traddodiad lleol o gasglu cerrig gwyn a’u gosod ar hyd llwybr y mynydd rhwng Pontrhydfendigaid a Rhaeadr i atal teithwyr rhag colli eu ffordd yn y niwl. 

Esboniodd Mannon Lewis, arweinydd Prosiectau Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:

“Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol yn adfer mawndir a oedd gynt wedi’i goedwigo yng nghoedwig Tywi, ac mae’r gwaith yn cynnwys dadorchuddio tir a oedd yn cael ei drin, ei droedio, a’i ddisgrifio gan y gymuned leol.
"Mae hyn yn codi cwestiynau i’r arbenigwyr sy’n adfer y tir, megis enwau ac arwyddocâd hanesyddol y dopograffeg, yn ogystal ag argaeledd cofnodion hanesyddol am ddefnydd y tir yn y gorffennol.
"Mae deall hanes dynol ein tirwedd yn ein helpu i weithio ar y cyd wrth adfer mawndir er lles cenedlaethau'r dyfodol. Yn ogystal ag elwa o brofiad ymchwil blaengar Elinor Gwynn, mae hefyd yn gyffrous bod un o feirdd coronog yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei hysbrydoli i gyfansoddi amryw o weithiau creadigol mewn ymateb i'w harchwiliad cychwynnol o ucheldiroedd mawnog canolbarth Cymru.”

Ychwanegodd y llenor a'r amgylcheddwraig, Elinor Gwynn:

“Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar ardal a datgelu iaith y dirwedd drwy enwau lleoedd a’r hanesion cymdeithasol-ecolegol diddorol sy’n gysylltiedig â’r rhan hon o ganolbarth Cymru wledig.
"Rydw i wedi mwynhau chwilota drwy archifau'r Llyfrgell Genedlaethol ac ymweld â'r safleoedd adfer mawndiroedd gyda staff Cyfoeth Naturiol Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae cymaint i'w ddarganfod eto am y rhan hon o Gymru.
"Dangosodd y prosiect peilot hwn y potensial i ddatgloi mwy o straeon o fewn ardal Coedwig Tywi a gweithio'n greadigol gydag iaith er mwyn dyfnhau cysylltiad pobl â mawndiroedd. Yn ogystal â'r deunydd rydw i wedi bod yn ei ddarganfod yn yr archifau, mae yna gyfoeth o wybodaeth ddiddorol y gallai aelodau'r cyhoedd ei rhannu fel rhan o'r gweithgaredd parhaus hwn.” 

Gwahoddir y rhai sydd â hanesion sy'n ymwneud â'r bobl a fu'n byw, yn gweithio, neu'n cael eu cynnal gan fawndiroedd ardal Tywi, neu rannau eraill o Gymru, i anfon gwybodaeth, lluniau, mapiau, neu ddolenni a chyfeiriadau at npap@naturalresourceswales.gov.uk.

Mae Map Data Mawndiroedd Cymru yn adnodd hawdd ei ddefnyddio i ddod o hyd i fawndiroedd Cymru. Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, sy'n cydlynu’r gwaith o adfer mawndir gan bartneriaid ledled Cymru, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Geiriad y llun:

Elinor Gwynn yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ymchwilio i'r mawndiroedd yn ardal Tywi ac yn gwahodd eraill i rannu eu hanes lleol o fawndiroedd.