Gofod cymunedol i gynnal gweithgareddau a gweithdai

Bydd Canolfan Gymunedol Borth yn gofalu am ofod cymunedol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Bydd y cytundeb rheoli cymunedol yn dechrau ym gynnar ym mis Awst gan ganiatáu i ran o adeilad Ynyslas gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau a gweithdai cymunedol i ymgysylltu â'r gymuned leol a bod o fudd iddi.
Mae Canolfan Gymunedol Borth, a sefydlwyd yn 2007, yn elusen sy'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai gan gynnig adnoddau a gwasanaethau i gymunedau o ogledd Ceredigion i Fachynlleth.
Byddant hefyd yn darparu detholiad o ddiodydd a bwyd oer, gan gynnwys byrbrydau a hufen iâ, i'r cyhoedd ar adegau penodol.
Meddai Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC:
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chanolfan Gymunedol Borth. Rydym yn cydnabod y gwaith ardderchog maen nhw'n ei wneud yn y gymuned, gan ddarparu ystod o wasanaethau sy'n helpu i gefnogi pobl.
“Roedd dewis partner a fyddai’n darparu buddion iechyd a lles hirdymor a chynaliadwy i’r ardal yn flaenoriaeth yn ein proses o benderfynu.”
Meddai Helen Williams, Rheolwr Canolfan Gymunedol Borth:
“Mae Canolfan Gymunedol Borth yno i ddarparu ystod o wasanaethau hygyrch ac angenrheidiol iawn i bobl leol ac ymwelwyr ac rydym yn falch ein bod yn gallu ehangu ein cynnig gyda’r prosiect newydd hwn.
“Rydym yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys teithiau cerdded natur a lles, gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy’n seiliedig ar natur i deuluoedd, celfyddydau er lles i oedolion hŷn yn ogystal â gwerthu hufen iâ a lluniaeth ysgafn am ran o’r wythnos.
“Rydym yn falch o fod yn dechrau’r prosiect newydd hwn a fydd yn gwella ein gwasanaethau presennol yn yr ardal, yn ogystal â sicrhau gwasanaeth parhaus i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn Ynyslas. Rydym bob amser yn ymwybodol o wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.”
Mae'r holl lwybrau, y llwybrau cerdded, y meysydd parcio a’r toiledau yn parhau i fod ar agor ac yn cael eu rheoli gan CNC tra bydd y gwaith pwysig a wneir i amddiffyn bywyd gwyllt a chynnal Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn parhau i gael ei oruchwylio gan staff rheoli tir.
Mae CNC yn bwriadu lansio ymarfer marchnata ar gyfer Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin yn ddiweddarach eleni.
Bydd y broses hon yn chwilio am bartneriaid, grwpiau cymunedol a busnesau hyfyw, a all wella'r safleoedd at ddibenion ymwelwyr a hamdden.
Yn dilyn cyfnod o waith paratoi, gwiriadau cyfreithiol, llywodraethu mewnol ac yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, y gobaith yw gallu lansio'r broses ym mis Tachwedd gyda'r nod o ddyfarnu contractau erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canolfan ymgynghori