Cwblhau gwaith atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y Clas-ar-Wy
CNC wedi llwyddo i gwblhau gwaith atgyweirio ar wal amddiffyn rhag llifogydd y Clas-ar-Wy yn dilyn rhaglen o waith cynnal a chadw hanfodol.
Mae'r rhaglen o waith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd ar ôl tynnu coeden helyg yn gynharach eleni, ar ôl i beirianwyr gadarnhau ei bod wedi gwanhau'r strwythur ac wedi cynyddu'r perygl llifogydd i gartrefi cyfagos.

Mae’r gwaith atgyweirio a gwblhawyd wedi adfer cyfanrwydd yr amddiffynfa rhag llifogydd a bydd yn helpu i sicrhau ei bod yn parhau i leihau'r risg llifogydd i eiddo yn y pentref am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Ryan Griffiths, Uwch Beiriannydd yn CNC:
"Rydym yn falch ein bod wedi cwblhau'r atgyweiriadau hyn yn llwyddiannus.
“Mae cwblhau prosiectau cynnal a chadw fel hyn yn ystod yr haf yn helpu i sicrhau bod ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd yn y cyflwr gorau posibl cyn yr hydref a’r gaeaf, pan all stormydd a llifogydd roi mwy o bwysau ar yr asedau hyn.
"Hoffwn ddiolch i’r trigolion lleol a’r defnyddwyr ffordd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra roedd y gwaith pwysig hwn yn cael ei wneud."
Cafodd y wal amddiffyn rhag llifogydd a'i sylfeini eu datgelu er mwyn gallu gwneud gwaith atgyweirio. Yna, cafodd clai a fewnforiwyd ei gywasgu o amgylch y wal a'r sylfeini i greu haen anhydraidd, gan helpu i atal dŵr rhag mynd drwy'r strwythur, gan wella ei wydnwch hirdymor.

Mae'r uwchbridd wedi'i adfer, mae'r ardal wedi'i hail-hadu â gorchudd glaswellt, ac mae'r ffordd fynediad i'r safle hefyd wedi'i gwella a'i hail-wynebu.
Mae'r gwaith atgyweirio yn rhan o raglen waith barhaus CNC i gynnal a gwella asedau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru, gan helpu i leihau effaith llifogydd ar gymunedau a gwella gwydnwch cyn cyfnodau o dywydd garw.