Rhannwch eich Barn ar Ddyfodol Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gwahodd safbwyntiau cymunedau lleol, casglwyr a rhanddeiliaid wrth iddynt baratoi i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy.

Mae'r Gorchymyn presennol, a gyflwynwyd yn 2008 ac a fydd yn dod i ben yn 2028, wedi helpu i drawsnewid Aber Afon Dyfrdwy yn un o'r pysgodfeydd cocos mwyaf cynaliadwy yn y DU. Nod y Gorchymyn newydd yw adeiladu ar y llwyddiant hwn a sicrhau bod y bysgodfa'n parhau i gael ei rheoli'n dda a’i bod yn wydn ac yn fuddiol i bobl a natur fel ei gilydd.

Mae natur drawsffiniol y bysgodfa yn cyflwyno heriau ychwanegol o ran rheoli, cydlynu a gorfodi effeithiol. Byddai Gorchymyn newydd yn sefydlu'r fframwaith cyfreithiol sy'n angenrheidiol i gefnogi arferion cynaeafu cynaliadwy, diogelu cynefinoedd aberol sensitif, a sicrhau mynediad teg a chyfartal i gasglwyr trwyddedig ar draws awdurdodaethau.

Mae CNC a NWIFCA yn cyfuno eu profiad i ddarparu rheoleiddio cyson, gorfodi effeithiol, ac ymgysylltiad agored â phawb sy'n dibynnu ar yr aber neu'n poeni am ei ddyfodol. Bydd y dull cydweithredol hwn yn helpu i sicrhau bod y bysgodfa'n adlewyrchu anghenion lleol a blaenoriaethau cenedlaethol.

Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn diogelu stociau cocos a chynefinoedd aberol, yn sicrhau mynediad teg a chynaliadwy parhaus i gasglwyr nawr ac yn y dyfodol, ac yn darparu manteision hirdymor i gymunedau lleol a bywyd gwyllt.

Dywedodd Stuart Thomas, Arweinydd Tîm Rheoli Cynaliadwy Morol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy yn enghraifft arbennig o reolaeth gynaliadwy lwyddiannus. Rydym am sicrhau bod y llwyddiant hwn yn parhau i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio newydd hwn yn ein helpu i amddiffyn yr amgylchedd, cefnogi bywoliaeth pobl leol, a sicrhau bod y bysgodfa'n parhau mor wydn â phosibl yn wyneb newid.
“P’un a ydych chi’n gasglwr trwyddedig neu am ddechrau casglu, yn breswylydd lleol, neu’n ymwneud â gwaith morol neu amgylcheddol, rydyn ni eisiau clywed eich barn. Bydd eich barn yn helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy.”

Dywedodd Mark Taylor, Prif Swyddog Gweithredol NWIFCA:

“Gorchymyn Rheoleiddio newydd yw’r ffordd orau o sicrhau rheolaeth effeithiol a chyson ar bysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy ar y ddwy ochr i’r ffin. Bydd rhannu arbenigedd CNC a NWIFCA yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y bysgodfa. Fodd bynnag, er mwyn iddo lwyddo, mae angen i'r Gorchymyn newydd ystyried barn gwahanol randdeiliaid y bysgodfa.  
“Dyna pam ei bod hi’n bwysig i’r rhai sydd â barn ar y ffordd orau o reoli pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy gael cyfle i leisio eu barn.”

Mae'r arolwg cyntaf i'w gael yma.