Hofrennydd yn amddiffyn cynefin prin yn ystod gwaith hanfodol i atal llygredd
Pan oedd angen gwaith brys i atal dŵr cyflym rhag erydu gwastraff mwyngloddio llygredig ar lan afon, mewn safle lle mae planhigion prin, dewisodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio y datrysiad â'r effaith leiaf: defnyddio hofrennydd.
Pan oedd angen gwaith brys i atal dŵr cyflym rhag erydu gwastraff mwyngloddio llygredig ar lan afon, mewn safle lle mae planhigion prin, dewisodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio y datrysiad â'r effaith leiaf: defnyddio hofrennydd.
Mae gwaith adfer ar y gweill ym Mwynglawdd Plwm Nant y Mwyn ger Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin fel rhan o Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru, cynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei hariannu i fynd i'r afael â llygredd o fwyngloddiau metel segur mwyaf niweidiol Cymru, gwella ansawdd dŵr, adfer ecosystemau, ac amddiffyn y cymunedau a'r diwydiannau sy'n dibynnu ar afonydd iach.
Fel rhan o'r ymdrechion adfer, roedd angen tunelli o ddeunydd ar y safle i sefydlogi tomenni o wastraff mwyngloddio ar lan yr afon, gyda thua 300m3 o ddeunydd mewn perygl o gael ei olchi i'r afon ar unwaith.
Ond oherwydd statws gwarchodedig Nant y Mwyn, oherwydd ei Laswelltir Metelaidd prin, roedd lleihau aflonyddwch ar y tir yn ystyriaeth bwysig i dîm y prosiect.
I ddatrys y broblem, comisiynwyd hofrennydd i ollwng y 109 bag o ddeunyddiau yr oedd eu hangen ar hyd glan yr afon. Cwblhawyd ei waith mewn un diwrnod, gyda'r gwaith sy'n weddill wedi'i gwblhau â llaw i amddiffyn y cynefin bregus.
Mae erydiad difrifol sborion ar hyd Nant y Bai yn ychwanegu sawl tunnell o fetelau at Afon Tywi bob blwyddyn, gan gyfrannu at ran sylweddol o'r llygredd sy'n deillio o Fwynglawdd Nant y Mwyn, gan arwain at lefelau uwch o gadmiwm a sinc hyd at 25 cilomedr i lawr yr afon.
Cynhaliwyd y gwaith cyn y tymhorau wyna a nythu adar, a disgwylir iddo leihau gwaddod llawn metel sy'n mynd i mewn i'r nant, gwella ansawdd dŵr a diogelu nodweddion treftadaeth a chynefinoedd cyfagos.
Dywedodd Dave Johnston, Rheolwr Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r gwaith hwn yn gam hanfodol yn un o’n safleoedd mwyaf heriol, gan leihau’r risg y bydd cannoedd o fetrau ciwbig o wastraff mwyngloddio, sy’n llawn metelau, yn cael ei gario i Afon Tywi a’r amgylchedd ehangach.
“Mae gan Gymru hanes hir o fwyngloddio metelau, ac mae llygredd o fwyngloddiau segur yn cyfrannu at iechyd afonydd is mewn sawl ardal. Drwy Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru, rydym yn targedu'r safleoedd mwyaf niweidiol i ddarparu afonydd glanach ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer y cymunedau a'r busnesau sy'n dibynnu arnynt."
Dywedodd Marika Gates, Rheolwr Prosiect â’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio: “Mae mwyngloddiau metel segur yn rhan arwyddocaol o stori ddiwydiannol Cymru, ac mae Nant y Mwyn yn ganolog i hanes Rhandirmwyn.
“Ein nod yw amddiffyn yr amgylchedd gan gydnabod y dreftadaeth ac ecoleg unigryw hyn a’u parchu. Mae'r prosiect hwn yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd arloesedd, gofal amgylcheddol a chydweithrediad cymunedol cryf yn dod at ei gilydd.”