Datganiad: Hysbysiad o dor diogelwch data personol sy'n effeithio ar gyn-weithwyr a gweithwyr presennol
Rydym yn hysbysu cyn-weithwyr a gweithwyr presennol o achos o dor diogelwch data personol sy'n ymwneud â gwybodaeth amrywiaeth gweithwyr.
Effeithiodd yr achos o dor diogelwch data ar unigolion a oedd wedi eu cyflogi gan CNC yn ystod y cyfnod Ebrill 2013 – Mawrth 2018.
Yn dilyn ymchwiliad, fe wnaethom nodi bod taenlen a oedd yn cynnwys gwybodaeth am weithwyr wedi'i datgelu yn anfwriadol.
Mae'n bosibl bod y wybodaeth yn cynnwys data personol a oedd yn ymwneud â monitro amrywiaeth, megis ethnigrwydd, statws anabledd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, gallu yn y Gymraeg, cyfrifoldebau gofalu a gwybodaeth monitro cydraddoldeb arall. Nid yw pob categori o ddata yn berthnasol i bob unigolyn.
Rydym yn ymddiheuro yn ddiffuant bod hyn wedi digwydd ac yn cydnabod y pryder a'r ansicrwydd y gallai ei achosi i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Cyn gynted ag y daethom yn ymwybodol o'r mater, cymerwyd camau gennym ar unwaith i gadw’r digwyddiad dan reolaeth ac ymchwilio i amgylchiadau’r datgeliad.
Roedd hyn yn cynnwys tynnu'r wybodaeth o'r wefan lle cafodd ei chyhoeddi, cael cadarnhad ei bod wedi'i dileu'n barhaol, adolygu gwybodaeth gyhoeddedig gysylltiedig i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw risgiau tebyg, ac adrodd y mater i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rydym wedi cynnal ymchwiliad llawn ac yn parhau i adolygu ein prosesau a'n mesurau rheoli i helpu i atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto.
Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth bod y wybodaeth wedi cael ei chamddefnyddio, rydym yn annog unigolion i barhau i fod yn wyliadwrus am unrhyw gyfathrebiadau annisgwyl ac i roi gwybod am unrhyw bryderon.
Dylai unrhyw un sy'n credu eu bod wedi cael eu heffeithio, ac nad ydynt wedi derbyn gohebiaeth uniongyrchol, gysylltu â peopledata@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk