Datganiad hygyrchedd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau gwneud ei wefan...
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r cynhyrchion canlynol:
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os na allwch gael mynediad at wybodaeth a ddarperir drwy fap neu wasanaeth mapio, neu os oes arnoch angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol, megis:
Gallwch wneud y canlynol:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn pum diwrnod gwaith.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae CNC yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Nid yw’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2. Rhestrir yr achosion o ddiffyg cydymffurfio isod.
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Nid oes gan rai delweddau destun fel dewis amgen hygyrch, felly ni all pobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin gael mynediad i’r wybodaeth y maent yn ei chyfleu. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid oes gan y botymau labeli priodol. Nid yw botymau heb labeli yn darparu gwybodaeth am swyddogaeth y botwm i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid oes gan feysydd mewnbwn ffurflen label testun cysylltiedig na theitl disgrifiadol. Nid yw labeli sydd wedi eu cysylltu’n anghywir yn darparu swyddogaeth na gwybodaeth am y rheolydd ffurflen i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw penawdau bob amser wedi eu marcio’n briodol, a all beri i raglenni darllen sgrin eu cyhoeddi’n anghywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a chydberthnasau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Mae penawdau lefel 1 ar goll ar draws y wefan, a all achosi anawsterau wrth geisio ei llywio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a chydberthnasau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Ni ddefnyddir ‘tirnodau’ ARIA i nodi holl gynnwys tudalen. Gall hyn achosi i raglen darllen sgrin golli cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a chydberthnasau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Mae rhai ‘tirnodau’ ARIA yn anweladwy, a all achosi anawsterau wrth lywio i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin. Gall hyn achosi i raglen darllen sgrin golli cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a chydberthnasau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw rhai o’r dolenni gwe-lywio ar y dudalen wedi eu cynnwys o fewn elfen lywio. Mae hyn yn atal defnyddwyr sy’n gwe-lywio gan ddefnyddio ‘tirnodau’ rhag gallu cael mynediad uniongyrchol at y dolenni gwe-lywio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a chydberthnasau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Pan fydd arddull wedi ei hanalluogi, nid yw’r holl gynnwys yn cael ei arddangos. Gall hyn arwain at gyhoeddiadau annisgwyl gan raglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.2 WCAG 2.2 (dilyniant ystyrlon).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Dim ond trwy liw y mae gwybodaeth ar y dudalen yn cael ei chyfleu. Gall hyn fod yn anodd ei ddeall i ddefnyddwyr ag amhariadau ar eu golwg neu liwddallineb. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.1 WCAG 2.2 (defnyddio lliw).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw’r testun yn bodloni gofynion cyferbyniad digonol yn erbyn cefndir y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.2 (cyferbyniad (isafswm)).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae problemau rendro yn bresennol gyda thestun wrth chwyddo testun i ddim ond 200% gan ddefnyddio rheolyddion chwyddo porwr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.4 WCAG 2.2 (newid maint testun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae chwyddo gwefan 400% pan fydd lled porwr yn 1280px yn arwain at golli cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.2 (ail-lifo).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae’r cyferbynnedd rhwng rhywfaint o’r cynnwys nad yw’n destun â chefndir y dudalen yn wael. Mae hyn yn cynnwys rheolyddion toglo, blychau gwirio, ac amrywiol fotymau delweddau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 (cyferbyniad di-destun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae diffyg cyferbynnedd mewn rhai cynnwys nad yw’n destunol yn erbyn y dudalen gefndir pan gaiff ei ffocysu neu ei ddewis. Mae hyn yn cynnwys blychau gwirio ac amryw o fotymau delweddau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 (cyferbyniad di-destun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Nid oes digon o gyferbynnedd rhwng y blaendir a’r cefndir o fewn gwrthrych graffigol. Mae hyn yn cynnwys yr haenau lluosog a ddefnyddir o fewn y map a’r geiriad cysylltiedig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 (cyferbyniad di-destun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae ychwanegu bylchau neu arddull wedi ei theilwra i destun yn arwain at golli cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.12 WCAG 2.2 (bylchau rhwng testun).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Ni ellir diystyru cynnwys sy’n ymddangos wrth hofran neu ffocysu arno heb symud pwyntydd y cyrchwr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.13 WCAG 2.2 (cynnwys wrth hofran neu ffocysu arno).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae cynnwys sy’n ymddangos wrth hofran neu ffocysu arno yn diflannu pan symudir y llygoden dros y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.13 WCAG 2.2 (cynnwys wrth hofran neu ffocysu arno).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Mae rhywfaint o gynnwys yn anhygyrch wrth ddefnyddio bysellfwrdd neu raglen darllen sgrin i we-lywio’r wefan. Er enghraifft, rheolyddion ar ffurf botymau neu dogl o fewn paneli ochr a modalau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.2 (bysellfwrdd).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid oes dolenni ‘neidio i’r prif gynnwys’ neu rywbeth tebyg yn bresennol o fewn y wefan i ganiatáu i ddefnyddwyr bysellfwrdd a thechnoleg gynorthwyol osgoi cydrannau gwe-lywio a ailadroddir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 WCAG 2.2 (osgoi rhwystrau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw teitlau tudalennau yn ddigon disgrifiadol nac addysgiadol, a allai achosi problemau o ran gwe-lywio rhwng tabiau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.2 WCAG 2.2 (teitlau tudalennau).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw trefn ffocws y dudalen yn rhesymegol. Mae defnyddwyr sy’n dibynnu ar bysellfwrdd ar gyfer gweithredu tudalen yn elwa ar drefn ffocws resymegol y gellir ei defnyddio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.2 (trefn ffocws).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw dolenni â thestun sy’n union yr un fath yn cael eu gwahaniaethu gan eu labeli hygyrch. Gallai hyn achosi dryswch i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.2 (diben y cyswllt (mewn cyd-destun)).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw’r dangosydd ffocysu yn weladwy ar gyfer rhai elfennau rhyngwyneb defnyddiwr. Gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig gadw golwg ar yr elfennau sydd mewn ffocws ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.2 (ffocws gweladwy).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Mae’r botymau ‘Oriel Basecamp’, ‘Lluniadu’ ac ‘Argraffu’ wedi eu cuddio gan elfen arall wrth ffocysu. Gallai hyn achosi dryswch i ddefnyddwyr sy’n gwe-lywio trwy’r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.11 WCAG 2.2 (ffocws heb ei guddio (isafswm)).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Ni ellir canslo rhai rhyngweithiadau yn hawdd drwy symudiadau syml. Gallai hyn effeithio ar ddefnyddwyr sydd â symudedd cyfyngedig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.2 WCAG 2.2 (canslo pwyntydd).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid yw enw a ddangosir ar gydran rhyngwyneb defnyddiwr bob amser yn cyfateb i’r label hygyrch. Gall hyn arwain at broblemau o ran gwe-lywio i ddefnyddwyr adnabod llais. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.3 WCAG 2.2 (label yn yr enw).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Mae angen symudiadau llusgo ar gyfer rhai elfennau o’r wefan, a all fod yn anodd i ddefnyddwyr ag amhariadau echddygol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.7 WCAG 2.2 (symudiadau llusgo).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Nid yw rhai o’r ffyrdd y defnyddir ARIA yn briodol, a gallant arwain at rai cyhoeddiadau anghywir o ran cynnwys gan raglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (enw, rôl, gwerth).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Nid oes gan rai cydrannau ARIA labeli hygyrch, a all arwain at rai cyhoeddiadau anghywir gan raglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (enw, rôl, gwerth).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Ni ellir rhyngweithio â phob cydran gan ddefnyddio’r feddalwedd adnabod llais, Dragon Naturally Speaking. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (enw, rôl, gwerth).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 6 Ebrill 2027
Ni chyhoeddir negeseuon statws gan raglenni darllen sgrin. Gall hyn arwain at ddefnyddwyr yn methu â chywiro gwallau o ran mewnbwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.3 WCAG 2.2 (negeseuon statws).
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 5 Awst 2027
Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Hydref 2026. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 28 Hydref 2026.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 28 Awst 2026. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou.
Defnyddiodd Zoonou WCAG-EM i ddiffinio’r tudalennau a brofwyd ac i brofi’r dull.