Setiau data ecoleg forol ar gyfer datblygiadau morol

Os oes angen data ecoleg morol cyfredol arnoch er mwyn cyflwyno cais am ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig, rydym yn argymell eich bod yn cychwyn gyda'r data hwn.

Mae'r data'n debygol o fod fwyaf defnyddiol yn ystod cyfnod cwmpasu unrhyw broses asesu ecolegol y mae angen i chi ei chynnal. Gall eich helpu i wneud y canlynol:

  • deall pa ddata ecolegol sydd ar gael ar gyfer yr ardal ddaearyddol sy’n berthnasol i'ch cynnig
  • deall pa gynefinoedd a rhywogaethau morol sy'n bresennol a'r derbynyddion a chyfyngiadau amgylcheddol posib i'ch datblygiad neu weithgaredd arfaethedig
  • cynllunio unrhyw arolygon ecolegol y mae'n rhaid i chi ymgymryd â hwy
  • dylunio rhaglen fonitro ar gyfer eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig

Sut i wirio perthnasedd y data

Bydd perthnasedd y data hwn yn dibynnu ar raddfa, natur a lleoliad eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig, yn ogystal â'r pwysau sy'n codi o'i herwydd a'r effaith debygol ar dderbynyddion ecolegol.

Mae'r holl ddata wedi cael ei gasglu dros amrywiaeth o amserlenni ac fel rhan o raglenni caffael data amrywiol. Mae peth o'r data a'r setiau data yn dod o arolygon neu gofnodion sy'n gyfyngedig o ran amser neu'n rai untro, ac mae eraill yn gydrannau rhaglenni goruchwylio a monitro parhaus.

Bydd y metadata ac unrhyw wybodaeth ategol sy'n gysylltiedig â phob un o'r setiau data yn helpu i esbonio pam a sut cafodd y data ei gasglu, pryd cafodd ei gasglu, a'r hyn mae'n ymdrin ag ef. Dylech wirio hyn er mwyn helpu i ddeall perthnasedd a defnyddioldeb y setiau data a nodir ar gyfer eich gofynion penodol.

Setiau data ecoleg forol allanol allweddol

Dyma'r setiau data ecoleg forol allanol allweddol:

Data benthig

Data sylfaenol a nodweddu gwely'r môr

Data tarddle penodol yn bennaf yw’r data hwn o samplau cipolwg, creiddiau, arolygon deifio, fideos gostwng a sefydlog, ac arolygon rhynglanwol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn casglu ac yn defnyddio ffurfiau eraill ar ddata, gan gynnwys data mapio acwstig fel sonar sganio o’r ochr ac aml-belydr.

Gall y data tarddle penodol gynnwys y canlynol:

  • cofnodion rhywogaethau
  • helaethrwydd rhywogaethau
  • data cynefinoedd ffisegol, gan gynnwys data maint gronynnau ar gyfer samplau gwaddodion
  • disgrifiadau o gynefinoedd
  • cofnodion biotop (sy'n deillio o'r data ar rywogaethau a chynefinoedd ffisegol ar gyfer man samplu)

Gweler data arolygon tarddle penodol o wely'r môr yng nghronfa ddata'r Cofnodwr Morol. Gallwch hefyd weld data tarddle penodol ar NBN Atlas Cymru, ond gall hwn fod ar gydraniad mwy bras. Os oes angen data sensitif ar gydraniad gofodol manylach, bydd angen i chi ofyn amdano gan ddeiliad y data.

Map arolwg o gynefinoedd rhynglanwol

Gweler y set ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer map cyflawn o gynefinoedd rhynglanwol yng Nghymru. Mae peth o’r data wedi cael ei dynnu o'r set ddata yn unol â'n canllawiau gweithredol ar ddata ecolegol, sy'n rhoi cyfyngiad ar y cydraniad gofodol y gellir rhyddhau rhai data ar rywogaethau. Gallwch ofyn am y set ddata lawn o gynefinoedd rhynglanwol gennym ni.

Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am ragor o adroddiadau sy'n ymwneud â'r arolwg rhynglanwol.

Data morfeydd heli

Rydym yn casglu data monitro ar forfeydd heli i wneud y canlynol:

  • asesu cyflwr nodweddion o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan ofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
  • fel rhan o asesiadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer cyrff dŵr aberol ac arfordirol

Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am adroddiadau ar forfeydd heli. 

Mae setiau data defnyddiol eraill sy'n ymwneud â morfeydd heli yn cynnwys y canlynol:

Monitro morfeydd heli dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Gall graddau morfeydd heli yn y data hwn amrywio. Gallai hyn fod oherwydd y canlynol:

  • y diben y lluniwyd y map ar ei gyfer
  • y dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu’r data a llunio’r map
  • a yw'r mapiau'n cynnwys llystyfiant aberol fel glaswelltiroedd gorlif
  • y dyddiad y casglwyd y set ddata ar gyfer y map – cynefin deinamig yw morfa heli ac mae disgwyl i’w maint a chymunedau newid dros amser

Chwiliwch am gofnodion o rywogaethau morfeydd heli gan ddefnyddio Online Atlas of the British and Irish Flora ac NBN Atlas Cymru

Monitro o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Rydym yn casglu data monitro ar gynefinoedd a rhywogaethau morol i asesu cyflwr safleoedd a nodweddion morol. 

Dewch o hyd i wybodaeth am safleoedd monitro, cynefinoedd a rhywogaethau, lleoliadau arolygon sonar sganio o’r ochr, a metadata am y gwaith hwn ar borth MEDIN.

Porwch drwy gronfa ddata'r Cofnodwr Morol ar gyfer rhagor o ddata monitro benthig.

Monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Mae asesiadau ecolegol morol yn ffurfio rhan o’n rhaglen fonitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gweler mapiau sy'n dangos asesiadau statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr ar gyfer cyrff dwr yng Nghymru ar Arsylwi Dŵr Cymru. Gellir cael mynediad iddynt hefyd drwy borth data Llywodraeth Cymru MapDataCymru.

Mae elfennau morol ein rhaglen fonitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn canolbwyntio ar gyrff dŵr aberol ac arfordirol. Gofynnwch am setiau data unigol gan unrhyw waith monitro a gynhaliwyd gennym o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr ar ddyfroedd aberol ac arfordirol. Mae'r elfennau yr ymdrinnir â hwy gan ein gwaith monitro biolegol ar ddyfroedd aberol ac arfordirol yng Nghymru'n cynnwys y canlynol:

  • Infertebratau benthig
  • Macroalgâu
  • Angiosbermau
  • Angiosbermau – morfa heli
  • Pysgod
  • Ffytoplancton

Ceir monitro cadw gwyliadwriaeth o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr hefyd o achosion o imposex mewn gwichiaid moch. Mae lluniau o'r awyr ar gael ar gyfer monitro algâu manteisgar, morwellt a morfeydd heli.

Rydym yn casglu data biolegol, ffisio-gemegol, hydromorffoleg ac ar lygryddion yn unol â'r canllawiau Monitro dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gweler gwybodaeth dechnegol fanwl am safonau monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Mapiau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd o nodweddion cynefinoedd morol Atodiad I

Gweler mapiau nodweddion cynefinoedd morol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (fel y'u restrir dan Atodiad I o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE) yng Nghymru gan ddefnyddio Lle. Mae'r rhain yn darparu maint sylfaenol dangosol y nodweddion ar yr adeg dynodi ac maent ond yn cael eu diweddaru pan fydd data newydd y gellir rhoi hyder digonol ynddo ar gael.

Nid yw'r mapiau o nodweddion dangosol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr un peth â'r mapiau a ddefnyddir ar gyfer adrodd o dan Erthygl 17 (MapDataCymru). Dylech ddefnyddio'r mapiau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i asesu effaith bosibl eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig ar nodweddion cynefin Ardal Cadwraeth Arbennig. Er mwyn gwneud hyn, dylech gyfeirio hefyd at ein pecynnau cyngor cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol Cymru. Mae'r pecynnau cyngor cadwraeth hefyd yn cynnwys gwybodaeth am rywogaethau arferol sy'n gysylltiedig â chynefinoedd dynodedig.

Gweler ein cyngor ar gyfer y pum Ardal Cadwraeth Arbennig forol sydd yn gyfan gwbl o fewn dyfroedd Cymru.

Gweler ein cyngor ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol trawsffiniol (Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren).

Porwch drwy ein cynlluniau rheoli craidd a mapiau cryno o safleoedd ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eraill (nid ydynt i gyd yn forol) sy'n cynnwys nodweddion morfa helo Atodiad I (Ardal Cadwraeth Arbennig Morfa Heli Arfordir Ynys Môn ac Ardal Cadwraeth Arbennig Cynffig.

Mapiau o nodweddion cynefinoedd ar gyfer adrodd o dan Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Gwelwch a lawrlwythwch fapiau o nodweddion cynefinoedd MapDataCymru sy'n ymwneud ag Erthygl 17 o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE. Dyma giplun o'r data gofodol diweddaraf ar nodweddion ar adeg adrodd, y tu mewn a'r tu allan i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Cânt eu hadolygu a'u diweddaru fel rhan o gylchred adrodd bob chwe blynedd.

Porwch drwy adroddiadau a mapiau nodweddion ar lefel y DU y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Gall cynefinoedd a rhywogaethau morol rhynglanwol yng Nghymru gael eu diogelu fel nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Rhagor o wybodaeth am nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig unigol.

Parth Cadwraeth Morol Sgomer

Rydym yn casglu data monitro ar gyfer Parth Cadwraeth Morol Sgomer i ddarparu'r dystiolaeth y mae ei hangen i adrodd ar ei gyflwr. Mae hefyd yn cyfrannu at asesu cyflwr a statws cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, y mae'r Parth Cadwraeth Morol oddi fewn iddi. Gweler yr adroddiad statws prosiect diweddaraf ar gyfer Parth Cadwraeth Morol Sgomer.

Cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir dan ddeddfwriaeth arall

Rydym yn casglu ac yn cynnal data ar gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd wedi'u rhestru dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 neu sydd wedi'u dynodi fel rhai sydd dan fygythiad ac yn dirywio dan Gonfensiwn OSPAR.

Gan ddefnyddio DataMapWales, gwelwch ar haenau map rhyngweithiol rhai cynefinoedd a rhywogaethau Adran 7 ac OSPAR. Mae haenau data unigol mewn setiau data cynefinoedd a rhywogaethau'n dynodi a yw cynefin neu rywogaeth wedi'i chynnwys yn Adran 7 a/neu ar restr OSPAR o gynefinoedd neu rywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio. I rai cynefinoedd, mae yna haenau data polygon a phwynt.

Gweler mapiau cynefinoedd a rhywogaethau OSPAR EMODnet ar gyfer Ewrop yn ei chyfanrwydd.

Dewch o hyd i gofnodion rhywogaethau a chynefinoedd Cymru ar NBN Atlas Cymru NBN Atlas Cymru.

Rhywogaethau estron goresgynnol

Chwiliwch am gofnodion rhywogaethau estron goresgynnol y deuir o hyd iddynt ac yr adroddir amdanynt yn nyfroedd Cymru ar y porth rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'r porth yn ategu Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron Prydain Fawr.

Ffynonellau data ychwanegol

Gwelwch a lawrlwythwch fapiau cynefinoedd a goladwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae'r mapiau'n cael eu safoni drwy eu trosi i system dosbarthu cynefinoedd EUNIS a’u fformatio yn unol â Fformat Cyfnewid Data Cynefinoedd Trosiedig Cynefinoedd Gwely'r Môr y Rhwydwaith Arsylwi a Data Morol Ewropeaidd (EMODnet).

Map cyflawn a rhagfynegol o gynefinoedd gwely'r môr ar raddfa eang yn nyfroedd y DU yw UKSeaMap 2018, wedi'i lunio drwy gyfuno modelau lluosog o baramedrau ffisegol. Mae EUSeaMap 2016 yr un peth ond ar gyfer dyfroedd Ewrop.

Set ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol sy’n cwmpasu pob rhan o’r DU yw Map Cynefinoedd Gwely'r Môr Lefel 3 EUNIS ac mae'n darparu gwybodaeth gyflawn am gynefinoedd islanwol yn y DU. Mae'n integreiddio data o arolygon maes a model cynefinoedd rhagfynegol ar raddfa eang (UKSeaMap).

Gweler Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru a gweddill y DU ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae modd gweld enwau safleoedd unigol drwy glicio ar Ardal Forol Warchoedig ar haen y map rhyngweithiol. Gallwch hefyd weld rhai nodweddion dynodedig drwy ddewis yr haenau perthnasol.

Mamaliaid morol

Teulu'r morfil

Mapiau Dosbarthu - Cymru

Toreithrwydd a Dosbarthiadau wedi'u Modelu ar gyfer Morfilod ac Adar y Môr yng Nghymru a'r Dyfroedd Cyfagos (Evans a Waggitt 2023).

Mae’r adroddiad yn cyflwyno dosbarthiad a helaethrwydd rhywogaethau o forfilod ac adar môr sy’n gyffredin yn nyfroedd Cymru a’r moroedd cyfagos. Mae’n cynnwys mapiau o 12 rhywogaeth o forfilod a welwyd, ac yn canolbwyntio ar bum rhywogaeth (llamhidydd, dolffin trwyn potel, dolffin cyffredin, dolffin Risso a morfil pigfain) lle mae digon o ddata wedi galluogi cynhyrchu mapiau arwyneb dwysedd dangosol.

Mae’r adroddiad hwn yn ddiweddariad i Atlas Mamaliaid Morol Cymru 2012 (Baines ac Evans 2012), sy’n disgrifio cyfraddau cymharol gweld y rhywogaethau uchod a’r morlo llwyd. Dylid defnyddio’r adroddiad newydd (Evans a Waggitt 2023) yn lle Atlas 2012.

Mae manylion allbynnau data’r gwaith hwn wedi’u nodi yn atodiad archif data’r adroddiad, a gellir lawrlwytho data o MapDataCymru.

Teulu’r Morfil

Llamhidydd

Yn 2019, dynodwyd chwe Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer llamhidyddion yn nyfroedd y DU. Roedd y broses yn cynnwys adolygiadau cynhwysfawr o’r data a oedd ar gael ar y pryd. Mae’r adnoddau hynny ar gael ar bob tudalen ACA, er enghraifft yma: Ardal Forol Warchodedig Gorllewin Cymru | Cynghorydd i’r Llywodraeth ar Gadwraeth Natur | Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).

Mae data monitro dolffiniaid trwyn potel (gweler isod) hefyd yn cynnwys data achlysurol ar weld llamhidyddion.

Dolffin trwyn potel

Asesiadau Cyflwr ACA

Yn 2025, cwblhawyd asesiadau cyflwr nodweddion ACA ac roeddent yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o’r data a oedd ar gael. Gweler adroddiadau ar ddolffiniaid trwyn potel ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ac ACA Bae Ceredigion yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd Cymru (EMS).

Data monitro

Mae’r adroddiadau canlynol yn cynnwys data monitro dolffiniaid trwyn potel o Fae Ceredigion. Mae adroddiad 2020-24 ar y gweill ar hyn o bryd.

Monitro dolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion 2014- 2016 Adroddiad 191 (cyfoethnaturiol.cymru). Adroddiad Tystiolaeth CNC 191

Monitro’r dolffin trwyn potel a’r llamhidydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion a Phen Llŷn a’r Sarnau 2011 - 2013 Adroddiad Tystiolaeth CNC Rhif 4

Mae manylion allbynnau data’r gwaith hwn wedi’u nodi yn atodiadau archif data’r adroddiadau. Dim ond o dan drwydded y gallwn ryddhau’r data hyn a dylech ddilyn y gweithdrefnau ar dudalen Mynediad i’n Data ar ein gwefan os ydych chi am ofyn am y data.

Adroddiadau allweddol eraill:

  • Abundance and life history parameters of bottlenose dolphin in Cardigan Bay: monitoring 2005-2007 (Pesante G, Evans PGH, Anderwald P, Powell D, McMath M (2008a) Connectivity of bottlenose dolphins in Wales: North Wales photo-monitoring. Adroddiad Monitro Morol Rhif 62 CCGC. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor)
  • Connectivity of bottlenose dolphins in Wales: North Wales photo-monitoring (Pesante G, Evans PGH, Baines ME, McMath M (2008b) Abundance and Life History Parameters of Bottlenose Dolphin in Cardigan Bay: Monitoring 2005-2007. Adroddiad Monitro Morol Rhif 61 CCGC. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor)

Dolffin Risso

Eisfeld, S.M. a Lott, R. (2013). Risso’s dolphins in North Wales. Adroddiad Gwyddoniaeth Contract CCGC Rhif 1021, tt 26.  (Cysylltwch â chanolfan cwsmeriaid CNC i gael mynediad)

Arolygon dolffiniaid Risso a gynhaliwyd rhwng 1997-2016 o amgylch Ynys Enlli a Phen Llŷn (Eisfeld-Pierantonio a James, 2018 (Adroddiad Tystiolaeth CNC Rhif 261)) Bydd angen caniatâd Whale and Dolphin Conservation arnoch i atgynhyrchu neu ddefnyddio’r data hyn.

Ffynonellau eraill

Mae data morfilod ar gyfer dyfroedd Cymru hefyd yn cael ei gasglu a’i gadw gan:

Dylech ofyn am ragor o wybodaeth a data gan y grŵp neu’r sefydliad yn uniongyrchol.

Prosiectau Graddfa Fawr a Chydweithredol (pob rhywogaeth o deulu’r morfilod)

Mae Small cetaceans in European Atlantic waters and the North Sea (SCANS) yn gyfres o arolygon ar raddfa fawr o forfilod yn nyfroedd Iwerydd Ewrop, a ddechreuodd yn 1994. Yr arolwg SCANS diweddaraf oedd SCANS IV yn 2022. Cynhaliwyd arolwg blaenorol SCANS III yn 2016, SCANS II yn 2005/2007, a SCANS yn 1994.

Mae’r Rhaglen data Morfilod ar y cyd (JDCP) yn blatfform ac yn set o offer a ddatblygwyd i wella’r gwaith o gasglu a choladu data morfilod a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch. Mae’n cynnwys tair tudalen we gysylltiedig: Hwb Gwybodaeth JNCC, Porth Data JCDP (a gynhelir yng nghanolfan ddata Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr (ICES)); a Chatalog Metadata JCDP (a gynhelir ar GeoNetwork ICES). Mae’n rhoi’r gallu i gasglwyr data, ceidwaid a defnyddwyr i lanlwytho a chael mynediad at ddata arolwg morfilod a gwybodaeth gysylltiedig ynghylch sut a pham y casglwyd y data hyn, yn ogystal â gwybodaeth i gefnogi casglu a rheoli data arolwg morfilod sy’n cydymffurfio â JCDP mewn ffordd safonol.

Mae’r rhaglen arolwg ObSERVE yn darparu gwell gwybodaeth am rywogaethau gwarchodedig a chynefinoedd sensitif y môr trwy gasglu data o ansawdd uchel ac o’r radd flaenaf ar draws Parth Economaidd Neilltuedig (EEZ) Iwerddon.

Mae’r Atlas o ddosbarthiad teulu’r morfil yn nyfroedd gogledd-orllewin Ewrop, a gyhoeddwyd yn 2003 gan JNCC, yn rhoi disgrifiad a chipolwg o ddosbarthiad pob un o’r 28 rhywogaeth o forfilod y gwyddys yn sicr eu bod wedi bod yn bresennol yn y dyfroedd oddi ar ogledd-orllewin Ewrop yn y 25 mlynedd cyn ei gyhoeddi. Mae’n parhau i fod yn adnodd defnyddiol, er ei fod bellach braidd yn hen. Mae gwybodaeth ychydig yn fwy diweddar ar gyfer rhai rhywogaethau hefyd ar gael yn Adroddiad JNCC Rhif 517 Dadansoddiad o adnoddau Rhaglen Data Morfilod ar y Cyd: Data cam III a gyhoeddwyd yn 2016, a gellir dod o hyd i fapiau dosbarthiad lefel y DU yma: Mapiau dosbarthiad o boblogaethau morfilod ac adar morol yng ngogledd‐ddwyrain yr Iwerydd - Waggitt - 2020 - Journal of Applied Ecology - Llyfrgell Ar-lein Wiley. Mae dadansoddiadau mwy cyfoes ar y gweill drwy brosiect POSEIDON.

Morloi llwyd

Data ar ffurf lluniau adnabod

Fe wnaethom ni a’n partneriaid gynnal arolygon morloi llwyd a chasglu delweddau ar ffurf lluniau adnabod o forloi o bob cwr o Gymru (MapDataCymru); disgrifir y gwaith hwn yn yr adroddiad canlynol: Langley ac eraill. (2018) EIRPHOT: Asesiad hollbwysig o gronfa ddata lluniau adnabod y morlo llwyd (Halichoerus grypus) yng Nghymru. Cyhoeddir canlyniadau hefyd yn Langley ac eraill 2020: Defnydd safleoedd a chysyllted morloi llwyd benywaidd (Halichoerus grypus) o amgylch Cymru. Mae’r data yn darparu hanesion dal morloi unigol, gan roi gwybodaeth am ffyddlondeb safleoedd, cysylltedd rhwng safleoedd a goroesiad. Gellir cyflenwi’r data o dan drwydded a dylech ddilyn y gweithdrefnau ar dudalen Mynediad i’n data ar ein gwefan os ydych chi am ofyn am ddata.

Arolygon a data bwrw lloi

Mae morloi yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y môr. Felly mae amcangyfrifon o ddwysedd morloi yn y môr yn ystyriaeth bwysig mewn asesiadau amgylcheddol fel y darperir yn Carter ac eraill 2025 Dosbarthiad morloi yn y môr yn silff gogledd-orllewin Ewrop: Tuag at cadwraeth a rheolaeth dros ffiniau.

Yn ogystal, darperir setiau data gan Carter ac eraill sy’n manylu ar ddosbarthiad morloi llwyd a llamhidyddion ar y môr ar silff gogledd-orllewin Ewrop i’w lawrlwytho.

Mae data ar nifer a dosbarthiad morloi llwyd yng Nghymru (gan gynnwys cyfrifiadau o forloi ar y lan ar ddistyll y trai, dosbarthiad safleoedd geni a chyfrifiadau lloi) wedi’u casglu dros sawl degawd ac mewn sawl lleoliad yng Nghymru, gan gynnwys Sgomer, Ynys Dewi, Ynys Enlli, gogledd Cymru a gorllewin Cymru. Mae’r adroddiadau niferus sy’n deillio o’r gwaith hwn wedi’u rhestru ar dudalennau Darganfod Data CNC a chyhoeddiadau morol ar ein gwefan.

Yn ddiweddar, comisiynodd CNC yr Uned Ymchwil Mamaliaid Môr (SMRU), Prifysgol St Andrews, i gynnal arolwg synoptig cynhwysfawr o arfordir Cymru er mwyn cyfrif y morloi a oedd ar y lan yn ystod cyfnod arolwg mis Awst 2023. Cyflwynir y data a gasglwyd yn adroddiad tystiolaeth 865: Cyfrifiad o forloi llwyd yng Nghymru gan ddefnyddio arolygon o’r awyr.

Mae ein data’n bwydo i raglen ehangach y DU, a gydlynir gan yr Uned Ymchwil Mamaliaid Môr (SMRU). Caiff hyn ei adolygu gan Bwyllgor Arbennig NERC ar Forloi, sy’n darparu amcangyfrifon o boblogaethau morloi’r DU.

Gogledd Cymru

Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf o loi bach morloi llwyd, a oedd yn darparu amcangyfrifon o nifer y lloi a anwyd a’u dosbarthiad yng ngogledd Cymru (rhwng Aberystwyth ac Aber Afon Dyfrdwy), yn 2017.

Gallwch ofyn am ragor o setiau data gan:

  • Arsyllfa Adar Hilbre (ar gyfer Banc Tywod West Hoyle yn aber Afon Dyfrdwy)
  • RSPB ac Arsyllfa Adar a Maes Enlli (ar gyfer cyfrifiadau distyll y trai wythnosol o forloi llwyd yn Ynys Enlli)
  • Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (cyfrifon llanw isel rheolaidd o forloi llwyd wrth Riwledyn ger Llandudno)

Sir Benfro

Er ei fod wedi dyddio, mae Cyfrifiad morloi llwyd gorllewin Cymru 1992-1994 Baines ac eraill, 1995 yn dal i fod yn set ddata allweddol ar gyfer y morloi llwyd yng ngorllewin Cymru/Sir Benfro. Adroddiad Gwyddoniaeth Contract CCGC Rhif 131. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor. I gael mynediad at yr adroddiad hwn cysylltwch â chanolfan cwsmeriaid CNC.

Fel rhan o’n gwaith monitro ACA blaenorol a gomisiynwyd, darperir crynodeb o gyfrifiadau lloi yng ngogledd Sir Benfro yn: Strong ac araill 2006. Monitro morloi llwyd Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro 2005. Rhif Adroddiad Monitro Morol CCGC: 26; fersiwn wedi’i golygu i hepgor gwybodaeth, tt 51.

Mae nifer o adroddiadau mwy diweddar sy’n cyflwyno data o gyfrifiadau lloi o amgylch Sir Benfro: Gweler ein hadroddiadau ar dudalennau cyhoeddiadau morol ein gwefan.

Mae gwaith monitro lloi morloi llwyd wedi’i gynnal (ers y 1970au) ar Sgomer, sydd bellach yn Barth Cadwraeth Forol Sgomer, sy’n cynnwys Ynys Sgomer a’r tir mawr (Marloes). Mae data cynhwysfawr ar gael drwy’r adroddiadau blynyddol ar ein tudalennau cyhoeddiadau morol

Rhoddir crynodeb o ddata bwrw lloi morloi llwyd hyd at 2016 ar Ynys Dewi yma: Morgan LH, Morris CW, Stringell TB. (2018). Ffenoleg bwrw lloi morloi llwyd ar Ynys Dewi, Sir Benfro. Adroddiad Tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru Rhif: 156, tt 22 Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor. Gellir gofyn am ddata o Ynys Dewi gan yr RSPB.

Data Safleoedd Wedi’u Dynodi a Rhywogaethau a Warchodir

Rheoliadau Cynefinoedd: Mapiau a data Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer nodweddion mamaliaid morol Atodiad II

Mae tair rhywogaeth o famaliaid morol wedi’u rhestru o dan Atodiad II o Reoliadau Cynefinoedd yr UE sy’n nodweddion dynodedig o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) morol yng Nghymru:

  • Dolffin trwyn potel (Tursiops truncatus)
  • Llamhidydd (Phocoena phocoena)
  • Morlo llwyd (Halichoerus grypus)

Cewch ragor o wybodaeth am y rhywogaethau hyn, gan gynnwys lle maent yn bresennol fel nodwedd o ACA.

Gweler ein pecynnau cyngor cadwraeth ac asesiadau cyflwr mewn perthynas â dolffiniaid trwyn potel a morloi llwyd.

Rheoliadau Cynefinoedd: Adrodd Rheoliad 9A

Cyhoeddwyd Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2019-2024 ym mis Ionawr 2026.  Mae adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A yn cynrychioli asesiad lefel gwlad cyntaf Cymru o dan Reoliad 9A o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd yng Nghymru). Fe’i paratowyd ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae’n integreiddio gwybodaeth am gynefinoedd, rhywogaethau nad ydynt yn adar ac adar, gan roi cyfrif cynhwysfawr o’u tueddiadau, pwysau a mesurau cadwraeth.

Mae adroddiadau lefel y DU ar gyfer Rheoliad 9A (2019-2024) ar gael ar y gwefannau canlynol: 

Cyhoeddwyd adroddiadau ar Erthygl 12 ac Erthygl 17 blaenorol ar lefel y DU gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).

Data mamaliaid morol eraill

Mae Unedau rheoli ar gyfer morfilod yn nyfroedd y DU (IAMMWG, 2015) yn nodi unedau rheoli ar gyfer y saith rhywogaeth fwyaf cyffredin teulu’r morfil yn nyfroedd y DU. Darperir ffigurau helaethrwydd amcangyfrifedig wedi’u diweddaru a ffiniau pob uned reoli yn Inter-Agency Marine Mammal Working Group (2023): Adolygiad o ffiniau unedau rheoli ar gyfer morfilod yn nyfroedd y DU (2023) | Hyb adnoddau JNCC. Sylwer bod amcangyfrifon hŷn (2016) SCANS III ac ObSERVE yn cael eu defnyddio – mae diweddariad ar y gweill.

Mae’r llamhidydd hefyd wedi’i restru ar restr Comisiynau Oslo a Paris (OSPAR) o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad ac sy’n dirywio. Mae Adroddiadau Statws Ansawdd OSPAR (2023) yn darparu cyfoeth o wybodaeth a data ar ddosbarthiad a helaethrwydd morfilod, nifer y lloi morloi llwyd a anwyd, dosbarthiad morloi ac amcangyfrifon o sgil-ddalfeydd: Pob Asesiad Dangosydd - OSPAR-OAP (Prod).

Mae Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sgil-ddalfeydd rhanbarthol (gogledd-ddwyrain Môr yr Iwerydd a’r moroedd cyfagos) o rywogaethau gwarchodedig, gan gynnwys mamaliaid morol: Eitem - Adroddiad gweithgor ar sgil-ddalfa rhywogaethau a warchodir (WGBYC) 2025 - Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr - Figshare.

Adar morol

Data adar morol

Mae European Seabirds at Sea yn cynnwys data amlder a dosbarthiad adar y môr ar lefel y DU a gogledd-orllewin Ewrop. Mae’r Atlas Morol, data Dosbarthiad ac amlder a fodelwyd ar gyfer Morfilod ac Adar Morol Cymru a'r Dyfroedd Cyfagos ac adroddiad a gynhyrchwyd yn 2023 yn ogystal â gwedudalen CNC Mapio ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio morol yn cynnwys data amlder a dosbarthiad adar y môr ar lefel Cymru gyfan.

Rhaglen fonitro flynyddol barhaus, a sefydlwyd yn 1986, yw'r Rhaglen Monitro Adar Môr (SMP), o 25 o rywogaethau adar môr sy'n bridio'n rheolaidd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'r data'n cynnwys gwybodaeth am nythfeydd adar môr yng Nghymru. Mae adroddiadau blynyddol y Rhaglen Monitro Adar Môr yn dogfennu tueddiadau yn niferoedd y boblogaeth a llwyddiant bridio, cynhyrchedd, goroesiad a deiet adar môr sy'n bridio.

Mae'r Rhaglen Monitro Adar Môr hefyd yn cynnwys cyfrifiadau bridio cyfnodol o ran adar môr er mwyn gwneud y canlynol:

  • asesu iechyd a statws cadwraeth y boblogaeth adar môr
  • effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar amgylcheddau morol
  • llywio cynllunio morol

Cydlynwyd y cyfrifiad cyfredol, Seabirds Count, gan JNCC a dechreuwyd ar y gwaith arolygu yn 2015, a chyhoeddwyd y canlyniadau ar 16 Tachwedd 202

Mae’r Arolwg Adar Gwlyptir (WeBs) a’r Arolwg Adar Dŵr nad ydynt yn Aberol (NEWS) yn cael eu cydlynu gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Mae WeBs yn cynnwys cyfrifiadau rheolaidd o adar môr gaeafol nad ydynt yn bridio mewn ardaloedd arfordirol, gwlyptir a rhynglanwol. Mae NEWS yn cwblhau cyfrifiadau cyfnodol (bod degawd yn fras) o adrannau anaberol o arfordir nad ydynt yn cael eu trin gan WeBs.

Gall y setiau data hyn gael eu defnyddio mewn ffordd ddefnyddiol i lywio astudiaethau cwmpasu ar gyfer ceisiadau gwaith achos, er y bydd rhagor o ddata sy'n benodol i safleoedd fel arfer yn angenrheidiol i lywio asesiadau amgylcheddol.

Adar morol dynodedig a gwarchodedig

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig y Gyfarwyddeb Adar

Mae rhai rhywogaethau adar morol ac adar dŵr yn nodweddion dynodedig Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru, fel y sefydlir dan y Gyfarwyddeb Adar.

Gweler ffiniau Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru ar wefan MapDataCymru. Gallwch ganfod enwau safleoedd unigol drwy glicio ar y map rhyngweithiol a gallwch lawrlwytho data ffiniau safleoedd o'r wefan.

Rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol ac arfordirol yng Nghymru.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Gall adar morol yng Nghymru hefyd gael eu diogelu fel nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Gweler ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru. Gallwch ganfod enwau safleoedd unigol drwy glicio ar y map rhyngweithiol yn ogystal â lawrlwytho data ar ffiniau'r safleoedd.

Rhagor o wybodaeth am nodweddion gwarchodedig Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig unigol.

Data arall ar adar morol

Dysgwch fwy am boblogaethau adar morol yng Nghymru yn yr adroddiad State of Birds in Wales 2022.

Data ar bysgod a physgod cregyn

Pysgod a physgod cregyn mudol dynodedig a gwarchodedig

Nodweddion pysgod mudol Atodiad II o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol

Mae yna bedair rhywogaeth pysgod mudol wedi'u rhestru dan Atodiad II o gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE sy'n nodweddion dynodedig Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol yng Nghymru:

Llysywen bendoll y môr (Petromyzon marinus) a llysywen bendoll yr afon (Lampetra fluviatilis)

  • Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol

Herlyn (Alosa alosa)

  • Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol

Gwangen (Alosa fallax)

  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol

Cewch ragor o wybodaeth am bysgod a physgod cregyn mudol dynodedig a gwarchodedig ar JNCC.GOV.UK

Er nad yw'r rhywogaeth yn nodwedd ddynodedig llawer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol neu aberol Cymru (ar wahân i aber afon Hafren), mae unigolion o boblogaethau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yn mudo drwy ddyfroedd morol Cymru fel rhan o'u cylch bywyd. Mae hefyd wedi'i rhestru yn Atodiad V o’r Gyfarwyddeb, sy'n gofyn i aelod-wladwriaethau sicrhau bod unrhyw achosion o elwa arni neu ei chymryd yn y gwyllt yn cyd-fynd â chynnal y rhywogaeth mewn statws cadwraeth ffafriol.

Rhagor o gyngor ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, ac Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol.

Rhagor o gyngor ar yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol trawsffiniol, sef Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren.

Mae angen ystyried cynefin cynhaliol nodweddion Atodiad II Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hefyd mewn unrhyw asesiad o effaith bosib gan ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig. Mae'r pecynnau cyngor cadwraeth yn darparu rhagor o wybodaeth am gynefinoedd cynhaliol y rhywogaethau dynodedig.

Gall rhywogaethau pysgod mudol hefyd fod yn nodwedd o ddiddordeb gymwys ar gyfer safle Ramsar.

Gallwch ddod o hyd i ddata ar ddosbarthiad rhywogaethau yn NBN Atlas Cymru neu yn y mapiau o ddosbarthiad rhywogaethau yn adroddiadau Erthygl 17.

Am wybodaeth ychwanegol am bysgod ymfudol, gweler ein harolygon stociau eogiaid a brithyllod y môr neu porwch gatalog ein llyfrgell ar y we.

Mae rhywogaethau pysgod a physgod cregyn morol sy'n 'rhywogaethau nodweddiadol' cynefin Atodiad I o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn cael eu diogelu fel cydran hanfodol o Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig. Gall rhywogaethau o'r fath fod yn rhywogaethau gwarchodedig yn eu rhinwedd eu hun (megis nodwedd rhywogaeth ddynodedig Ardal Cadwraeth Arbennig neu fod yn warchodedig dan ddeddfwriaeth bioamrywiaeth arall) yn ogystal â bod yn 'rhywogaeth nodweddiadol' cynefin gwarchodedig.

Mapiau nodweddion rhywogaethau Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Gallwch weld adroddiadau a mapiau o adroddiadau Erthygl 17 ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae llawer o'r cofnodion ar gyfer rhywogaethau pysgod safleoedd morol yn seiliedig ar gofnodion sy'n deillio'n bennaf o raglenni monitro dŵr croyw.

Rhywogaethau pysgod a physgod cregyn morol sydd wedi'u diogelu dan ddeddfwriaeth arall

Caiff rhai rhywogaethau pysgod a rhywogaethau pysgod cregyn morol eu rhestru o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae rhai o'r rhain hefyd ar restr OSPAR o rywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio.

Ni chaiff llawer o'r rhywogaethau pysgod a physgod cregyn morol gwarchodedig eu monitro'n rheolaidd, er y gall rhai rhywogaethau pysgod cregyn gael eu cofnodi gyda data benthig sy'n cael ei gadw yng nghronfa ddata'r Cofnodwr Morol. Gallwch hefyd weld cofnodion rhywogaethau pysgod a physgod cregyn gwarchodedig yng Nghymru ar NBN Atlas Cymru neu gallwch gyfeirio at y mapiau o ddosbarthiad rhywogaethau yn adroddiadau Erthygl 17. Gallwch hefyd gyfeirio at waith monitro pysgodfeydd a gyflawnir gan Gyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr ar gyfer poblogaethau o rywogaethau pysgod asgellog masnachol.

Efallai y bydd angen canfod data arall ar bysgod a physgod cregyn gwarchodedig sy'n berthnasol i'ch datblygiad neu weithgaredd arfaethedig. Gall y ffynonellau gwybodaeth a amlinellir isod fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai rhywogaethau pysgod morol. Os nad yw'r data hwn yn bodloni eich gofynion data penodol, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor arbenigol ar gyfer lleoliad neu rywogaeth benodol a chwilio ffynonellau data eraill megis llenyddiaeth academaidd a llwyd.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am rywogaethau nodweddiadol sy'n gysylltiedig â chynefinoedd dynodedig yn y pecynnau cyngor cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol Cymru:

Cewch gyngor ar gyfer y pum Ardal Cadwraeth Arbennig sydd yn hollol forol ac sydd yn gyfan gwbl yn nyfroedd Cymru.

Cewch gyngor ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol trawsffiniol (sef Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren).

Efallai y bydd angen ystyried deddfwriaeth pysgodfeydd arall sy'n cyfyngu ar weithgareddau i gynaeafu rhywogaethau penodol. Am gyngor ar bysgodfeydd a physgodfeydd cregyn, e-bostiwch Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru (marineandfisheries@gov.wales).

Pysgod aberol – monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Rydym yn monitro pysgod sy'n byw mewn amgylcheddau aberol fel elfen ansawdd sy'n cyfrannu at asesu statws ecolegol ar gyfer adrodd dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Dyma ran o'n rhaglen fonitro ar gyfer cyrff dŵr aberol ac arfordirol (TraC).

Caiff pysgod aberol eu monitro bob tair blynedd yn ystod mis Medi a mis Hydref mewn saith corff dŵr yng Nghymru. Ymgymerir â gwaith samplu gan ddefnyddio rhwydi sân a fyke, treillrwyd drawst ac, os yw’n bosib, treillrwyd estyllod. Ar gyfer pob safle, nodir a chyfrir pob tacson pysgod, gan fesur cyfanswm hyd y 50 sbesimen cyntaf o bob rhywogaeth. Mae manylion colofnau dŵr ar y safle hefyd yn cael eu mesur, gan gynnwys tymheredd, halwynedd ac ocsigen toddedig. Mae'r fethodoleg hon wedi cael ei gweithredu ers 2018. Mae data blynyddol gan ddefnyddio'r dull monitro blaenorol ar gael ar gyfer 2007–2016.

Gweler mapiau sy'n dangos asesiadau statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer cyrff dŵr yng Nghymru.

Lawrlwythwch fapiau asesiadau statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Gofynner am setiau data unigol gan unrhyw fonitro aberol ac arfordirol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Gweler y Gronfa Ddata Poblogaethau Pysgod Genedlaethol ar gyfer cyfrifiadau pysgod aberol ac arfordirol ar gyfer safleoedd trawsffiniol (er bod data ar gael ar gyfer aber afon Hafren yn unig).

Pysgod morol

Ar hyn o bryd, nid ydym yn casglu data ychwanegol ar bysgod pelagig a daear morol yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae yna nifer o setiau data pysgod morol sy'n cael eu cynhyrchu gan bobl eraill, er nad yw'r data hwn yn darparu darlun cyflawn o bysgod morol yng Nghymru, a dylid rhoi ystyriaeth i'r dulliau a ddefnyddiwyd, yr ardaloedd a arolygwyd, ac amseriadau'r arolygon.

Mae gan y Ganolfan ar gyfer yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas) amrywiaeth o gyhoeddiadau, yn ogystal â Chanolfan Archif Data Pysgod Cefas a hwb data Cefas.

Am wybodaeth am silio a lleoliadau magwrfeydd rhywogaethau pysgod penodol yn nyfroedd y DU, mae’r adroddiad Cefas gan Ellis ac eraill (2012) ar gael o o wefan Cefas, ac mae'n darparu rhagor o wybodaeth fwy diweddar i gyd-fynd â gwaith cynharach gan Coull ac eraill (1998).

Ffynonellau data pysgod eraill yw’r Gronfa Ddata o Arolygon Treillio (DATRAS) a phorth data morol MEDIN (gallwch chwilio am setiau data pysgodfeydd a dyframaethu dan 'thema data' yn yr adran chwilio manwl). Ar gyfer synthesis defnyddiol o'r data DATRAS, gweler Heessen, H. J. L., Ellis, J. a Daan, N. (2015), Fish atlas of the Celtic Sea, North Sea, and Baltic Sea, sy’n seiliedig ar arolygon rhyngwladol gan longau ymchwil.

Asesiadau stociau cocos

Rydym yn ymgymryd ag arolygon stociau cocos, neu'n eu comisiynu, yn y gwanwyn a'r hydref yn aber afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn i asesu stociau cocos a llywio penderfyniadau rheoli am gwotâu pysgod cregyn masnachol a gofynion bwyd adar yn y gaeaf. Gofynnwch am ddata cocos gennym ni.

Môr-grwbanod

Mae chwech o’r saith rhywogaeth o grwbanod môr wedi’u cofnodi yn nyfroedd y DU, ac mae pump ohonynt yn cael eu gwarchod yn llym o dan Atodlen 2 o’r Rheoliadau Cynefinoedd (Atodiad IV o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd):

  • Crwban môr cefn-lledr (Dermochelys coriacea)
  • Crwban môr pendew (Caretta caretta)
  • Crwban môr gwalchbig (Eretmochelys imbricata)
  • Crwban môr pendew Kemp (Lepidochelys kempii)
  • Crwban môr gwyrdd (Chelonia mydas)

Y chweched rhywogaeth, y crwban môr pendew lliw olewydd (Lepidochelys olivacea), a ddarganfuwyd yn fyw yn sownd ar lan afon Menai, Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2016; nid yw’r rhywogaeth hon wedi’i rhestru yn Atodiad IV y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.Y seithfed rhywogaeth o grwbanod môr yw’r crwban cefn gwastad (Natator depressus), sy’n endemig i ddyfroedd Awstralasia.

Dim ond y crwban môr cefn-lledr sy’n cael ei ystyried yn ymwelydd rheolaidd (ond prin). Ystyrir bod y pum rhywogaeth arall yn grwydrol yn nyfroedd y DU.

Gweld a lawrlwytho adroddiadau lefel y DU ar gyfer Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2019-2024: data rhywogaethau morol y DU ar gyfer y pum rhywogaeth a restrir uchod. Mae’r crwban môr cefn-lledr a’r crwban môr pendew hefyd wedi’u rhestru o dan:

•    Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
•    Rhestr OSPAR o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad ac sy’n dirywio

Mae cronfa ddata crwbanod môr a reolir gan Marine Environmental Monitoring (MEM) yn cadw cofnod o bob achos o weld crwban môr a phob crwban môr sy’n mynd yn sownd ar lan yn Ynysoedd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon, a gallwch lawrlwytho adroddiadau cryno blynyddol ohoni.
Mae pob cofnod o grwbanod môr yn y gronfa ddata yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol i NBN Atlas Cymru.

Cael mynediad i'n data

Rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i'n data.

Data arall y mae'n bosib y bydd ei angen arnoch

Nid yw hon yn rhestr gyfan o'r setiau data ecoleg morol i Gymru sydd ar gael.

Yn dibynnu ar eich gofynion data a gwybodaeth, efallai y bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • chwilio am ddata, arolygon ac adroddiadau a gynhyrchir ac a gedwir gan sefydliadau, cwmnïau ac ymchwilwyr eraill
  • comisiynu casglu data ychwanegol

Eich cyfrifoldeb chi yw egluro a dod o hyd i'r data a gwybodaeth y mae eu hangen arnoch i gefnogi'ch cais.

Diweddarwyd ddiwethaf