Gweld a oes angen trwydded bywyd gwyllt arnoch yn ystod gweithrediadau coedwig

Bydd angen i chi ystyried bioamrywiaeth ac unrhyw rywogaethau gwarchodedig os ydych yn:

  • cwympo coed mewn coetir neu goedwig
  • creu neu reoli coetir neu goedwig

Gallwn eich helpu i gymryd y camau sydd eu hangen i gadw o fewn y gyfraith a’ch cefnogi i wneud cais am unrhyw drwyddedau sydd eu hangen arnoch.

Rydym wedi llunio canllawiau sy’n esbonio ein dull ar gyfer gwarchod rhywogaethau pan fyddwn yn rheoleiddio gweithrediadau coedwig.  

Os ydych yn bwriadu torri coed, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded cwympo coed hefyd.

Gwarchod adar gwyllt

Mae’r gyfraith yn gwarchod pob aderyn gwyllt, unrhyw nythod maent yn eu defnyddio, a’u hwyau rhag niwed bwriadol. Rhaid i chi gynllunio eich gweithrediadau coedwig er mwyn peidio ag achosi niwed y gellir ei osgoi i adar gwyllt. Gall fod yn drosedd gwneud y canlynol yn fwriadol:

  • lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt
  • cymryd, difrodi, neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bo’r nyth hwnnw’n cael ei ddefnyddio neu’n cael ei adeiladu
  • cymryd neu ddinistrio wy unrhyw aderyn gwyllt
  • meddu ar unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw neu wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw ran o aderyn byw neu farw

Mae gan rai adar, a restrir yn Atodlen 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 , warchodaeth ychwanegol. Yn achos yr adar hyn, mae hefyd yn drosedd gwneud y canlynol yn fwriadol neu’n ddi-hid: 

  • tarfu arnynt tra byddant yn adeiladu eu nythod, mewn nythod sy’n cynnwys wyau neu gywion, neu’n agos at nythod o’r fath, neu 
  • tarfu ar eu cywion dibynnol.   

Yn ogystal, am eu bod yn tueddu i ailddefnyddio’r un nythod, mae nythod Gweilch y Pysgod, Eryrod Môr ac Eryrod Aur wedi’u gwarchod mewn cyfraith drwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Gall gweithrediadau coetir neu goedwigaeth niweidio adar gwyllt, yn enwedig yn ystod y tymor nythu. Mae’n bwysig gwybod pa adar gwarchodedig sy’n debygol o fod yn defnyddio’ch coetir fel y gallwch gymryd camau i’w gwarchod.

Gall rhai rhywogaethau o adar fod yn fwy sensitif i darfu nag eraill, neu ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Mae sicrhau’r pellteroedd clustogi priodol oddi wrth nythod adar yn ystod cyfnodau sensitif yn ffordd bwysig o osgoi niwed diangen a gallai eich helpu i osgoi torri’r gyfraith.

Edrychwch ar y parthau clustogi ar gyfer pob aderyn gwyllt (Saesneg yn unig).

Gwarchod anifeiliaid

Mae rhai rhywogaethau o anifeiliaid hefyd wedi’u gwarchod mewn cyfraith. Os ydych yn gwneud gwaith a allai effeithio ar anifeiliaid gwarchodedig, neu’r lleoedd y maent yn eu defnyddio i orffwys neu fagu, bydd angen i chi sicrhau y gallwch gadw o fewn y gyfraith. 

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i chi ddilyn arferion da er mwyn osgoi cyflawni troseddau. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, fel dewis olaf, os na allwch osgoi niweidio Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop neu niweidio eu cynefinoedd, efallai y bydd modd i chi  wneud cais am drwydded rhywogaethau gwarchodedig a fyddai’n eich galluogi i fynd yn eich blaen yn gyfreithlon.

Rydym wedi llunio Canllawiau Arfer Da i’ch helpu i gynllunio eich gwaith a chadw o fewn y gyfraith wrth gynnal gwaith rheoli coetir ym mhresenoldeb y rhywogaethau canlynol:

Gwarchod planhigion prin

Mae rhai rhywogaethau o blanhigion wedi’u gwarchod mewn cyfraith. Mae gan blanhigion sy’n Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop  warchodaeth ychwanegol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Tegeirian y Fign Galchog
  • Llyriad-y-Dŵr Arnofiol
  • Rhedynen Cilarne
  • Tafolen y Traeth

Os ydych yn cynnal unrhyw weithrediadau coetir neu goedwigaeth, dylech wirio am bresenoldeb planhigion gwarchodedig a chymryd mesurau rhesymol i osgoi eu niweidio, yn enwedig y rhywogaethau a restrir uchod.

Trwyddedau rhywogaethau ar gyfer rheoli coetir neu goedwigaeth

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech anelu at reoli eich gweithrediad coedwigaeth fel y gallwch osgoi niweidio rhywogaethau gwarchodedig mewn ffordd a fyddai’n achosi trosedd. 

Fodd bynnag, fel dewis olaf, os na allwch osgoi niweidio Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop neu niweidio neu ddinistrio eu safleoedd magu neu fannau gorffwys, efallai y bydd modd i chi wneud cais am drwydded rhywogaethau a fydd yn caniatáu i chi weithio o fewn y gyfraith.

Gwneud cais am drwydded rheoli coedwigaeth neu goetir (Saesneg yn unig).

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais am drwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf