Canllawiau Casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) y DU o dan y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol

Casgliadau'r DU ar y Technegau Gorau sydd ar Gael

Mae'r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth am sut rydym yn dehongli ac yn cymhwyso Casgliadau'r Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) o dan y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (IED).

Maent yn eich cefnogi chi fel y gweithredwr drwy esbonio sut rydym yn ystyried Casgliadau'r BAT yn ystod ceisiadau am drwyddedau ac adolygiadau trwyddedau. Cyfeirir at y canllawiau hyn yn gyffredin fel 'Canllawiau Trawsbynciol'.

Lawrlwytho’r canllawiau

Yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod yn y canllawiau

Deall BAT a'r fframwaith rheoleiddio

Mae’n egluro rôl y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (IED), Casgliadau BAT (BATc), a sut maen nhw'n cael eu defnyddio i bennu amodau trwyddedau a gyrru adolygiadau trwyddedau yn eu blaen.

Adolygiadau trwyddedau a’u gweithredu

Mae’n cwmpasu gofynion adolygu BAT, amserlenni adolygu, pennu'r prif weithgaredd mewn gweithfa, a rheoli newidiadau gweithredol a allai effeithio ar ofynion trwydded.

Cymhwyso BAT ym maes trwyddedu

Mae’n rhoi canllawiau ar ddehongli technegau BAT, casgliadau BAT naratif, amcanion amgylcheddol ac amodau trwyddedau.

Terfynau allyriadau a pherfformiad amgylcheddol

Mae’n egluro Terfynau Allyriadau sy'n Gysylltiedig â BAT (BAT-AEL), Terfynau Perfformiad Allyriadau sy'n Gysylltiedig â BAT (BAT-AEPL), gwerthoedd terfynau allyriadau (ELVs), cyfnodau cyfrifo’r cyfartaledd, datganiadau cymhwysedd ac eithriadau.

Monitro a chydymffurfiaeth

Mae’n cwmpasu gofynion monitro, cyfyngau hyder, monitro lefel isel, ac asesu cydymffurfiaeth ag amodau trwyddedau sy'n gysylltiedig â BAT.

Allyriadau dŵr

Mae’n darparu canllawiau ar ollyngiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol i ddŵr ac ar ddiogelu dŵr daear.

Ymeithriadau o Ystod BAT AEL

Mae’n egluro sut mae'r IED yn caniatáu ymeithriadau o BAT-AELs lle mae costau cydymffurfio yn anghymesur â manteision amgylcheddol.

Rheoli safle a diogelu'r amgylchedd

Mae’n cwmpasu adroddiadau sylfaenol, systemau rheoli amgylcheddol (EMS), a mesurau i amddiffyn pridd, dŵr daear a'r amgylchedd ehangach.

Datblygiadau yn y dyfodol a thechnegau sy'n dod i'r amlwg

Mae’n egluro sut y gellir ystyried technolegau sy'n dod i'r amlwg a'r amgylchiadau lle gellir caniatáu ymeithriadau dros dro i dreialu technegau arloesol.

Dod o hyd i ragor o ganllawiau ar osod Trwyddedau Amgylcheddol

Diweddarwyd ddiwethaf