Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Richard Bowen am drwydded lawn i dynnu dŵr o Afon Clydach yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 75553 04360 yng  Nghilybebyll, Castell-nedd Port Talbot SA8 3JQ. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio i gynhyrchu pŵer trydan dŵr: 212 metr ciwbig yr awr, 5088 metr ciwbig y dydd a 1857120 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.

Gwneir cais hefyd am drwydded i rwystro neu atal llif Afon Clydach yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 75553 04360 yn y lleoliad uchod. Mae’r croniad yn gored newydd i reoli’r gwaith o dynnu dŵr.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnodau PAN-031009 a PAN-031010 wrth:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdyd
CF10 3NQ

Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 21 Ebrill 2026.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan, neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid ar 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9yb-5yp).

Diweddarwyd ddiwethaf