South West Wood Products Limited - Berth 31, Wimborne Road, Dociau'r Barri, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4AB
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan South West Wood Products Limited i newid trwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-030976
Math o gyfleuster rheoledig: A16 - Cyflester triniaeth ffisegol gwastraff amheryglus
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Berth 31, Wimborne Road, Dociau'r Barri, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4AB.
Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni drwydded rheolau safonol sy’n caniatáu iddynt dderbyn a phrosesu 75,000 tunnell o bren gwastraff y flwyddyn. Mae’r amrywiad hwn er mwyn newid y drwydded yn drwydded bwrpasol, cynyddu’r ardal a ganiateir a chynyddu’r gyfradd brosesu i 250,000 tunnell y flwyddyn.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 4 Chwefror 2026.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.