Ceisiadau am drwydded adar: cyfrif adar sy'n bwyta pysgod mewn pysgodfa pysgod bras neu frithyllod
Rhaid i chi roi gwybod i ni am nifer yr adar y byddwch chi wedi cyfrif yn y bysgodfa pan fyddwch chi’n gwneud cais am drwydded i reoli adar sy’n bwyta pysgod er mwyn atal difrod difrifol.
Cofnodi'r cyfrif
Rhaid i chi gyfrif adar rhwng mis Medi a mis Mawrth a chofnodi'r manylion canlynol.
- Dyddiad y cyfrif
 - Yr amser y gwnaethoch chi ddechrau’r cyfrif
 - Rhywogaeth yr aderyn (nodwch ‘0’ os na welwyd unrhyw rai)
 - Niferoedd pob rhywogaeth
 - Beth oedd pob rhywogaeth yn ei wneud (hedfan, bwydo neu glwydo)
 
Byddwn yn gofyn i chi nodi'r wybodaeth hon yn eich ffurflen gais.
Pysgodfeydd dŵr llonydd o dan 10 hectar
- Cynhwyswch fanylion ynghylch o leiaf ddeg ymweliad â safleoedd dŵr llonydd, wedi’u dyddio o leiaf dri diwrnod ar wahân
 - Rhaid i chi ymweld â’r un safle ar wahanol ddiwrnodau, ar wahanol adegau o'r dydd
 
Pysgodfeydd dŵr llonydd dros 10 hectar
- Cynhwyswch fanylion ynghylch o leiaf un ymweliad â’r bysgodfa. Mae cynnal mwy nag un cyfrifiad yn rhoi data gwell inni
 
Pysgodfeydd bras neu frithyll ar rannau o afonydd
- Nodwch fanylion o leiaf un ymweliad â'r afon. Mae cynnal mwy nag un cyfrifiad yn rhoi data gwell inni
 
Archwilio mwy
                
Diweddarwyd ddiwethaf