Rheoli adar sy'n bwyta pysgod ar afon i warchod eogiaid yr Iwerydd neu frithyllod môr
Gall mulfrain a hwyaid danheddog weithiau ysglyfaethu eogiaid yr Iwerydd a brithyllod môr ifanc. Gall hyn effeithio ar statws cadwraeth y ddwy rywogaeth o bysgod.
Defnyddio dulliau dychryn nad ydynt yn farwol
Gallwch chi reoli'r problemau hyn drwy ddefnyddio dulliau dychryn nad ydynt yn farwol megis:
- presenoldeb gweledol pobl/cŵn
 - dynion/merched pren neu fwganod brain
 - barcutiaid neu falwnau heliwm
 - goleuadau sy’n fflachio neu laserau
 - canon nwy
 - saethu drylliau i ddychryn gan ddefnyddio bwledi gwag
 - bioacwsteg (galwadau ysglyfaethwyr neu ofid/larwm)
 - gwrthrychau eraill sy'n cynhyrchu sain megis melinau gwynt neu dapiau sy’n ‘hymian’ yn y gwynt
 - cael gwared ar safleoedd clwydo
 
Gwneud cais am drwydded
Weithiau gallwn roi trwyddedau ar gyfer rheolaeth farwol i gefnogi dulliau nad ydynt yn farwol. Rhaid eich bod wedi rhoi cynnig ar ddulliau nad ydynt yn farwol a rhaid eu bod wedi cael effaith gyfyngedig neu ddim effaith o gwbl.
Gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei darparu yn eich cais
- Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr ymgeisydd
 - Enw a chyfeiriad yr unigolyn sy’n gyfrifol (asiant achrededig trwyddedig) ar gyfer pob rhan o'r afon
 - Cyfeirnod grid deg digid ar ddechrau a diwedd pob rhan o’r afon yr hoffech reoli adar ynddi
 - Cyfrifiad o adar gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd
 - Map yn dangos pob rhan o’r afon
 - Pa ddulliau nad ydynt yn farwol a ddefnyddiwyd gennych a disgrifiad byr o’r canlynol:
- pan wnaethoch chi eu defnyddio nhw
 - pa mor effeithiol oedden nhw
 - pam na wnaethoch chi ddefnyddio dulliau eraill nad ydynt yn farwol
 
 
Pa mor hir mae'n ei gymryd
Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl i gais cyflawn ddod i law.
Faint fydd yn ei gostio
Nid ydym yn codi tâl am y math hwn o gais am drwydded.
Dechreuwch eich cais
Dim ond rhwng, ac yn cynnwys, 1 Hydref a 17 Mawrth y gallwn gyhoeddi trwyddedau.
                
Diweddarwyd ddiwethaf