Cofrestru neu adnewyddu fel cludydd, brocer neu ddeliwr gwastraff
Pwy sy'n gorfod cofrestru
Fel arfer y bydd angen i unrhyw un sy’n cludo gwastraff o un lle i un arall fel rhan o fusnes neu sefydliad gofrestru fel cludwr gwastraff.
Os yw eich busnes yn trefnu i wastraff o sefydliadau eraill gael ei gludo, ei waredu neu ei adfer, mae angen i chi gofrestru fel brocer gwastraff.
Os yw eich busnes yn prynu a gwerthu gwastraff, neu'n defnyddio asiant i wneud hyn, mae angen i chi gofrestru fel deliwr gwastraff.
Mae cludo, delio mewn, neu frocera gwastraff heb fod wedi’ch cofrestru.
Gwiriwch os nad oes angen i chi gofrestru
Nid oes angen i chi gofrestru os ydych:
- yn ddeiliad tŷ sy'n cario gwastraff sydd wedi'i gynhyrchu gartref ac nid o ganlyniad i unrhyw weithgarwch busnes
- yn dirfeddiannydd sy'n gwaredu gwastraff tipio anghyfreithlon o'ch tir
- dim ond yn cario gwastraff rhwng gwahanol leoedd o fewn yr un safle
- dim ond yn cario gwastraff drwy'r awyr neu dros fôr o le ym Mhrydain Fawr (Lloegr, yr Alban neu Gymru) i unrhyw le y tu allan i Brydain Fawr
- dim ond yn cario gwastraff o wlad y tu allan i Brydain Fawr i'r man cyrraedd cyntaf
- yn cario gwastraff ar gyfer gweithrediad morol sydd naill ai'n gofyn am drwydded forol neu'n gallu cael ei gyflawni o dan esemptiad morol
Gwnewch gais i'r rheoleiddiwr cywir
Os yw eich busnes yng Nghymru, rhaid i chi gofrestru gyda ni a dilyn y canllawiau hyn.
Os yw eich busnes yn Lloegr, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Os yw eich busnes yn yr Alban, cysylltwch ag Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA).
Sut i gofrestru adnewyddiad
Adnewyddu eich trwydded
Os oes gennych drwydded ar hyn o bryd ar gyfer cofrestriad haen uchaf, bydd angen i chi ei hadnewyddu gyda ni bob 3 blynedd.
Byddwn yn cysylltu â chi drwy anfon llythyr atgoffa neu e-bost gyda dolen a chod unigryw fel y gallwch adnewyddu eich trwydded, 6 wythnos cyn y daw eich cofrestriad i ben. Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded newydd na chreu cyfrif newydd.
Er mwyn adnewyddu bydd angen ichi wneud y canlynol:
- dilyn y ddolen unigryw yn eich llythyr neu e-bost adnewyddu
- defnyddio’r cod unigryw sydd hefyd yn y llythyr neu e-bost adnewyddu
- dilyn y camau i adnewyddu eich trwydded ar-lein
Bydd eich cofrestriad newydd yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i’ch cofrestriad cyfredol ddod i ben.
Os na fyddwch wedi derbyn llythyr adnewyddu ac os yw eich trwydded ar fin dod i ben, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 065 3000.
Taliadau
Ni chodir tâl am gofrestriad haen is. Nid oes angen i chi adnewyddu cofrestriad haen is.
Mae cofrestriad haen uwch newydd yn costio £169. Bydd hwn yn dod i ben ar ôl tair blynedd. Mae'n costio £116 i adnewyddu cofrestriad haen uwch cyn y dyddiad dod i ben.
Mae pob cofrestriad wedi'i eithrio rhag TAW. Nid ydym yn anfon anfonebau na derbynebau TAW.
Datgan euogfarnau perthnasol
Rhaid i chi ddweud wrthym os ydych chi neu bartner, cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifenydd cwmni cyfredol neu debyg â euogfarnu sydd heb ei dreulio o drosedd a restrwyd isod. Mae'r rhain yn euogfarnau a allai olygu na allwch gofrestru.
Dylech hefyd roi gwybod i ni os yw partner, cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifenydd cwmni cyfredol neu debyg wedi cael ei euogfarnu o drosedd berthnasol ers i'r cofrestriad gael ei dderbyn.
Mae'r euogfarnau perthnasol cyfredol yn cynnwys troseddau o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Adran 110(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995
- Deddf Delwyr Metel Sgrap 1964
- Adran 1, 8, 9, 10, 11, 17, 18, 22 neu 25 o Ddeddf Dwyn 1968, lle y mae’r drosedd yn ymwneud â metel sgrap neu’n drosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd
- Adran 170 neu 170B o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979, lle y mae’r drosedd yn ymwneud â metel sgrap
- Adran 9 o Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985
- Adran 1, 5 neu 7 o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989
- Adran 33, 34 neu 34B o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
- Adran 85, 202 neu 206 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991
- Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 1994
- Adran 110 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995
- Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999
- Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000
- Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001
- Rheoliad 17(1) o Reoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002
- Adran 327, 328 neu 330 i 332 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002
- Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005
- Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
- Adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, lle y mae’r drosedd yn ymwneud â metel sgrap neu’n drosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd
- Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2006
- Rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007
- Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007
- Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007
- Rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010
- Rheoliad 42 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
- Adran 146 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012
- Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013
- Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013
Ar ôl i chi gofrestru neu adnewyddu
Byddwch yn danfon eich tystysgrif gofrestru drwy e-bost sy’n cynnwys eich rhif cofrestru.
Dyma eich dystiolaeth o'ch cofrestriad a chadarnhad eich bod wedi cofrestru.
Os na allwn dderbyn y cofrestriad am ryw reswm, fel euogfarnau perthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich busnes yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff.
Newid eich cofrestriad
Rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau i'ch manylion cofrestru o fewn 28 diwrnod i'r newid.
Math o weithgaredd
Gallwch newid eich math o weithgaredd. Er enghraifft, os ydych wedi eich cofrestru fel cludydd a deliwr, gallwch newid i gludydd, brocer a deliwr. Gallwn wneud hyn yn rhad ac am ddim.
Ffoniwch ni ar 0300 065 3000.
Endid cyfreithiol
Os bydd endid cyfreithiol eich busnes yn newid, bydd angen i chi wneud cais newydd ar gyfer cofrestru. Bydd endid cyfreithiol yn newid:
- pan fyddwch chi, fel unig fasnachwr, yn newid i gwmni cyfyngedig
- pan fydd eich partneriaeth yn dod yn gwmni cyfyngedig
- pan fydd unigolyn newydd yn cymryd eich busnes drosodd
- pan fydd cwmni'n cymryd y busnes drosodd a'i fod yn dod yn endid cyfreithiol newydd, gyda rhif cwmni newydd.
Haenau
Ni allwch newid cofrestriad haen is i gofrestriad haen uwch. Byddai angen i chi wneud cais am gofrestriad newydd a thalu’r ffi o £169.
Pwy mae eich cofrestriad yn ei gynnwys
| Cofrestriad | Pwy sydd wedi'i gynnwys yn y cofrestriad |
|---|---|
|
Unigolyn neu unig fasnachwr |
Yr unigolyn ac unrhyw un a gyflogir gan yr unigolyn hwnnw fel cyflogai sy'n gwneud gwaith i'r unigolyn |
|
Cwmni |
Unrhyw un a gyflogir gan y cwmni fel cyflogai sy'n gwneud gwaith i'r cwmni |
|
Partneriaeth |
Unrhyw bartner a nodwyd ac unrhyw un a gyflogir gan y bartneriaeth fel cyflogai sy'n gwneud gwaith i'r bartneriaeth |
|
Elusen neu sefydliad gwirfoddol |
Unrhyw un a gyflogir gan yr elusen neu'r sefydliad gwirfoddol sy'n gwneud gwaith i'r elusen neu'r sefydliad gwirfoddol |
|
Yr awdurdod lleol |
Unrhyw gyflogai o'r awdurdod lleol sy'n gwneud gwaith ar ran yr awdurdod lleol |
|
Ysgrifennydd Gwladol adran |
Unrhyw gyflogai o'r adran sy'n gwneud gwaith ar ran yr adran. Noder y byddai'r cofrestriad yn gymwys i bob rhan o'r adran. |
Eich cyfrifoldebau
Unwaith yr ydych wedi cofrestru fel cludydd, brocer neu ddeliwr gwastraff, mae gennych gyfrifoldebau o ran cludo gwastraff.
Darllenwch fwy ynghylch eich dyletswydd gofal.
Darllenwch fwy ynghylch symud gwastraff peryglus.
Ad-daliadau
Dylech fod yn sicr bod angen i chi gofrestru fel cludwr gwastraff cyn gwneud cais. Ar gyfer cludwyr haen uchaf, ni fyddwn yn darparu ad-daliadau oni bai bod cwsmer o tu allan i Gymru wedi cofrestru'n anghywir gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, neu os yw cwsmer wedi cofrestru ddwywaith yn ddamweiniol.
I ofyn am ad-daliad, e-bostiwch ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan:
- egluro'r rheswm am yr ad-daliad
- rhowch eich rhif cofrestru a
- chadarnhau’r enw ar y cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu am y cofrestriad
Nodwch y gall ad-daliadau gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith.