Penderfyniad rheoleiddio 111: Trin, storio a defnyddio carbon deuocsid sy’n deillio o beirianwaith treulio anaerobig
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Mai 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid. 
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych:
- yn dal CO2 a gynhyrchir o ganlyniad i uwchraddio o fio-nwy i fiomethan yn eich peirianwaith treulio anaerobig
 - yn trin ac yn storio CO2 yn eich peirianwaith treulio anaerobig neu yn rhywle arall, i fodloni safonau bwyd a diod neu safonau diwydiannol
 
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys i gyfleusterau treulio anaerobig. Mae’n bosibl y bydd angen trwyddedau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych yn eu cyflawni. 
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- cynhyrchu CO2 i safonau bwyd a diod neu safonau diwydiannol gan ddefnyddio un neu ragor o'r technegau canlynol:
 
- 
- hidlo
 - golchi
 - distyllu
 - cywasgu
 - cyddwyso
 - sychu
 - oeri
 
 
- cynhyrchu CO2 sy'n bodloni neu a fydd yn bodloni safonau bwyd a diod neu safonau diwydiannol
 - dangos bod gennych gontract ar waith ar gyfer prynu eich cynnyrch CO2
 - dilyn canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig)
 - cofnodi faint o CO2 sy'n cael ei gynhyrchu a'i storio ar y safle
 - cyflawni cyfradd dal CO2 o 80% o leiaf
 - cadw cofnodion am ddwy flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
 
Ni chewch wneud y canlynol:
- storio mwy na 150 tunnell o CO2 ar unrhyw adeg
 - storio CO2 am fwy na chwe mis cyn ei ddefnyddio
 
Nid yw’r penderfyniad hwn yn gymwys i’r canlynol:
- Technegau gwahanu a thrin CO2 heblaw’r rhai a restrir uchod, ee technegau amsugno hylif gan ddefnyddio cemegau megis aminau 
 
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i'r gweithgaredd a nodir yn unig.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd a bennir ac os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
 - peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
 - cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig