Trwyddedau ar gyfer gollyngiadau brys o orsafoedd pwmpio carthffosydd budr
Sut i wneud cais am drwydded newydd ar gyfer gollyngiadau brys o orsafoedd pwmpio carthffosydd budr
Sut i newid trwydded bresennol ar gyfer gollyngiadau brys o orsafoedd pwmpio carthffosydd budr
Gwnewch gais i newid trwydded bresennol ar gyfer gollyngiadau brys o orsafoedd pwmpio carthffosydd budr
Darganfyddwch sut i drosglwyddo eich trwydded bresennol i rywun arall
Darganfyddwch sut i ildio eich trwydded
Ffioedd a Thaliadau
| Gweithgarwch arfaethedig | Ffi | 
|---|---|
| Cais newydd am drwydded | £5,596 | 
| Amrywiad – Sylweddol | £4,477 | 
| Amrywiad – arferol | £2,799 | 
| Amrywiad – mân | £840 | 
| Amrywiad – gweinyddu | £374 | 
| Trosglwyddo’r drwydded | £374 | 
| Ildio’r drwydded | £374 | 
| Os na allwn wneud y cais yn briodol, byddwn yn cadw | £560 | 
| Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl ar ôl iddo gael ei wneud, byddwn yn cadw | £5,596 | 
Ffi Asesiadau Cynefinoedd
Os yw eich gollyngiadau’n agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £2,799.
Ffi Asesiadau Risg Amgylcheddol
Os yw eich gollyngiadau i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus efallai y bydd angen i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £2,799.
Ffi flynyddol
Bydd tâl blynyddol parhaus i dalu ein costau cynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded a monitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.
Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.