Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn ar gyfer llwybrau beicio mynydd...
Mae llwybr cerdded Rhodfa Rhiw Goch (coch) ar gau.
Mae stormydd wedi achosi difrod helaeth yn yr ardal hon a bydd y gwaith adfer yn cymryd peth amser. Mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd coedwig ar agor, gan ddibynnu ar amodau lleol, ond efallai y bydd yn rhaid i ni gau'r maes parcio, a’r llwybrau neu gyfleusterau ymwelwyr eraill ar fyr rybudd tra byddwn yn ymgymryd â'r gwaith hwn. Er eich diogelwch dylech ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol.
Mae Coedwig Caio yn cynnwys nifer o goetiroedd conifferaidd sy’n ymestyn dros yr ucheldir, fry uwchben pentref hanesyddol Caio yn Sir Gaerfyrddin.
Mae teithiau cerdded cylchol wedi eu harwyddo o’r maes parcio a milltiroedd lawer o ffyrdd a llwybrau drwy’r goedwig.
Mae’r llecyn picnic bychan mewn llannerch, yn union dros yr afon o’r maes parcio.
Gerllaw mae ystâd Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle ceir llwybrau cerdded a gwaith aur Rhufeinig sy’n agored i ymwelwyr.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr dymunol hwn drwy’r goedwig yn croesi pont dros y nant at fwrdd picnic yn y llannerch.
Mae’r llwybr hiraf sydd wedi’i arwyddo yn un hawdd a chymharol wastad ar hyd ffyrdd y goedwig
Mae’r daith hon yn dilyn llwybrau glaswelltog a ffyrdd y goedwig drwy amrywiaeth o goed.
Mae’n werth dringo i fwynhau’r golygfeydd ysblennydd.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Coedwig Caio 10 milltir i’r gogledd orllewin o Lanymddyfri.
Cymerwch yr A40 o Lanymddyfri i gyfeiriad Llandeilo.
Yn Llanwrda, dilynwch ffordd A482 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.
Ar ôl wyth milltir, trowch i’r dde a dilyn yr isffordd i Gaio.
Ewch drwy bentref Caio, heibio’r eglwys ac yn eich blaen ar hyd ffordd ‘dim ffordd drwodd’.
Cadwch i’r chwith a dilyn lôn goedwig i faes parcio Coedwig Caio.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 679 405 (Explorer Map 187).
Y cod post yw SA19 8UT. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Llanymddyfri.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.