Cynlluniau Rheoli Basn Afon drafft 2027 i 2033

Person mewn siaced binc yn eistedd gyda'i gefn at y camera, yn edrych dros lyn Cwm Idwal, sydd wedi'i amgylchynu gan lethrau creigiog uchel


Mae cynlluniau rheoli basn afon yn darparu'r fframwaith ar gyfer amddiffyn a gwella'r amgylchedd dŵr. Maen nhw’n ymdrin ag afonydd, llynnoedd, camlesi, dyfroedd daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol. Maen nhw’n cael eu diweddaru bob chwe blynedd. Mae'r cynlluniau drafft hyn yn cwmpasu cylch 4, 2027 i 2033. 

Drwy’r broses hon rydym yn gwella ein dealltwriaeth ar gyflwr yr amgylchedd dŵr, y pwysau y mae’n ei wynebu a’r mesurau sydd eu hangen i’w amddiffyn a’i wella drwy ddefnyddio tystiolaeth sy’n bodoli eisoes a thystiolaeth newydd. 


Mae'r ymgynghoriad ar gynlluniau rheoli basn afon drafft Dyfrdwy a Gorllewin Cymru ar agor tan 23 Mai 2027.

Bydd yr ymgynghoriad ar gynllun rheoli basn afon Hafren yn agor ar wefan yr Asiantaeth yr Amgylchedd ym mis Rhagfyr 2026.

Beth sy’n rhan o gynlluniau rheoli basn afon?

  • Crynodeb drafft o Gynlluniau Rheoli Basn Afon (2027 i 2033), yn amlinellu cynnydd er 2021, manylion y newidiadau arfaethedig, statws presennol yr amgylchedd dŵr, y rhesymau pam nad yw cyrff dŵr yn cyflawni statws da neu botensial. Yr amcanion corff dŵr arfaethedig a'r rhaglen o fesurau ar gyfer cylch 4.
  • Cynllun Rheoli Basn Afon Drafft Afon Dyfrdwy 
  • Cynllun Rheoli Basn Afon Drafft Gorllewin Cymru 
  • Crynodeb drafft o Gynllun Rheoli Basn Afon Ardal Basn Afon Hafren. Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio ar y cyd ar draws Ardal Basn Afon Hafren, ac yn cyhoeddi un Cynllun Rheoli Basn Afon cyfun. CNC sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau yng Nghymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.
  • Rhaglen o fesurau. Mae dangosfwrdd Power BI yn rhoi mynediad at fesurau cenedlaethol a lleol i wella a diogelu'r amgylchedd dŵr.

Dangosfwrdd Power BI


Gweld mewn ffenestr lawn

Fframwaith Polisi'r Dyfodol

Cyhoeddwyd adolygiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol (IWC) o'r sector dŵr (Saesneg yn unig) ar 21 Gorffennaf 2025. Argymhellodd ystod eang o newidiadau mewn deddfwriaeth a dull o reoli'r amgylchedd dŵr a rheoleiddio cwmnïau dŵr. Argymhellodd hefyd adolygiad o Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr, y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar hynny ac yn gosod amserlen ar ôl i Fil Dŵr Glân y DU fynd trwy Senedd y DU. Gall hyn gael effaith ar gyflenwi Cynlluniau Rheoli Basn Afon Cylch 4 sy'n ymdrin â’r cyfnod rhwng 2027 a 2033, y bydd yr ymgynghoriad hwn yn eu llywio, fodd bynnag, mae CNC wedi ymrwymo i gynnal safonau yn ystod unrhyw gyfnod pontio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England ar gyfer cyrff dŵr sy'n croesi i Loegr, er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn parhau i amddiffyn a gwella'r amgylchedd dŵr i bobl a natur.

Diweddarwyd ddiwethaf