Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru Drafft 2027 i 2033

CNC

Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru drafft

Dyma grynodeb drafft o'r Cynllun Rheoli Basn Afon ar gyfer Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru ar gyfer 2027 - 2033. Diben y cynllun hwn yw diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr er budd ehangach pobl a bywyd gwyllt. Cyhoeddwyd Cynllun Rheoli Basn Afon cyntaf Gorllewin Cymru yn 2009 a'i ddiweddaru yn 2015 a 2021. Dyma ddrafft o'r cynllun wedi'i ddiweddaru, sy'n destun ymgynghoriad. Cyhoeddir y cynllun wedi'i ddiweddaru terfynol ym mis Rhagfyr 2027.

Mae'r crynodeb hwn o'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaed a manylion am y newidiadau arfaethedig ers 2021. Mae'n cynnwys crynodeb o statws presennol yr amgylchedd dŵr a'r rhesymau dros beidio â chyflawni materion da a sylweddol yn ymwneud â rheoli dŵr. Crynhoir yr amcanion ar gyfer Cylch 4 ynghyd â chrynodeb o'r mesurau. Darperir dolenni i wybodaeth fanwl drwy gydol y cynllun.

1. Ardal Basn Gorllewin Cymru

Mae Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru yn cwmpasu ardal o 16,653 cilometr sgwâr. Mae'n ymestyn ar draws rhan orllewinol Cymru, o Fro Morgannwg yn y de i Sir Ddinbych yn y gogledd, a ddangosir yn Ffigur 1 isod. Nodweddir yr ardal gan dirwedd hardd a garw. Mae'n amrywio o fynyddoedd mewndirol i fryniau, llynnoedd a dyffrynnoedd, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. Mae'n cwmpasu aberoedd arfordir y Canolbarth a thraethau a chlogwyni Parc Cenedlaethol Sir Benfro ynghyd â llawer o dirweddau cenedlaethol. Ynghyd â'r tirweddau naturiol hyn, mae gan yr ardal dreftadaeth ddiwydiannol gref, yn enwedig yng Nghymoedd y De ac ardaloedd mwyngloddio metel hanesyddol fel Mynydd Parys, Cwm Rheidol a Chwmystwyth. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn ar hyd arfordir llawn yr ardal basn afon.

Mae'r prif ganolfannau poblogaeth wedi'u cyfyngu i'r stribed arfordirol a Chymoedd y De. Mae'r prif ganolfannau trefol yn cynnwys Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd yn y de, Aberystwyth ar yr arfordir yn y Canolbarth, ac arfordir y Gogledd, gan gynnwys Bae Colwyn, y Rhyl, Llandudno a Bangor. Mae'r ardal basn afon yn wledig yn bennaf, a defnyddir tir ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth. Mae diwydiannau morol, olew a nwy yn parhau i fod yn weithgareddau economaidd pwysig, ynghyd â physgodfeydd masnachol, pysgodfeydd pysgod cregyn a thwristiaeth, yn enwedig o amgylch arfordir Cymru.

Ffigur 1 Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru

Map yn dangos Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, sy'n cwmpasu mwy na hanner Cymru. Map mewnosod yn dangos lleoliad ehangach yr ardal.


Mae llynnoedd, afonydd, aberoedd a dyfroedd arfordirol yr ardal yn enwog am eu pysgota. Mae mwyafrif helaeth arfordir yr ardal basn afon wedi'i ddynodi yng nghyfraith y DU am ei ansawdd amgylcheddol, gan gynnwys llawer o draethau ymdrochi o'r radd flaenaf a safleoedd cadwraeth o bwys rhyngwladol. Mae llawer o afonydd a llynnoedd yr ardal basn afon, a'r holl gyrff dŵr daear, wedi'u dynodi'n ardaloedd gwarchodedig ar gyfer dŵr yfed.

Ceir gwelyau cocos mawr a gwerthfawr yn Nhraeth Lafan yn y gogledd ac yng Nghilfach Tywyn yn y de. Mae cregyn gleision yn cael eu cynaeafu o welyau naturiol yn afon Conwy a'u ffermio yn y Fenai. Mae llawer o'r ucheldiroedd wedi'u neilltuo ar gyfer ffermio da byw a choedwigaeth fasnachol. Ffermio llaeth a geir yn bennaf ar y tir isel, yn enwedig yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae hinsawdd fwynach Sir Benfro hefyd yn hwyluso ffermio âr sylweddol.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio mewn partneriaeth i barhau i ddatblygu dealltwriaeth o effeithiau lleol a gwella’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd ac addasu iddo wrth gyflawni'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd. Ceir nifer o fentrau dalgylch, gan gynnwys:

  • Prosiect Pedair Afon LIFE
  • Y Teifi Fyw: Prosiect Natur a Phobl Gyda’i Gilydd
  • Prosiect Uwch Conwy
  • Fforwm Dyffryn Clwyd 
  • Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar draws y chwe dalgylch â chyfle:Cleddau ac Aberdaugleddau, Conwy, Bae Abertawe, Teifi, Ynys Môn, a Chlwyd. Mae yna hefyd brosiectau drwy’r Dalgylch Cyfleoedd Morol, sydd wedi bod yn gweithio'n bennaf yn nalgylch afon Cleddau ac Ynys Môn, ond hefyd yn nalgylch afon Clwyd a Bae Abertawe. Mae gwerthusiad o ddalgylchoedd â chyfleoedd yn mynd rhagddo i helpu i lunio ffocws y gwaith ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd terfynol.

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1

1.1 Asesiadau effaith

Mae CNC wedi cynnal yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (Saesneg yn unig) o'r rhaglen o fesurau (mesurau cenedlaethol a mesurau cyrff dŵr). Mae'r asesiad wedi llywio datblygiad y Cynllun Rheoli Basn Afon drafft. Mae'r adroddiad amgylcheddol wedi'i gynnal ar lefel strategol ac fe'i defnyddir i nodi effeithiau arwyddocaol tebygol, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer lliniaru effeithiau negyddol a chyfleoedd i wella'r cynlluniau trwy broses ailadroddol a rhyngweithiol. Mae'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd wedi'u hanelu'n sylfaenol at wella'r amgylchedd dŵr. Rhaid i'r Asesiad Amgylcheddol Strategol sicrhau bod unrhyw effeithiau negyddol yn cael eu hosgoi, eu lleihau neu eu lliniaru a cheisio gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol.

Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drafft (Saesneg yn unig) yn mynd law yn llaw â'r ymgynghoriad hwn.

Mae CNC hefyd wedi cwblhau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer Cymru sy'n cwmpasu Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru yn unol â gofynion Rheoliadau Asesu Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025. Defnyddiwyd y canfyddiadau i lywio’r broses o ddatblygu’r Cynllun Rheoli Basn Afon drafft, yr adroddiadau amgylcheddol a’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.1

1.2 Adolygiad o’r cynnydd a wnaed rhwng 2021 a 2025

Cyhoeddwyd Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd 2021-2027: Adolygiad o Gynnydd y Rhaglen o Fesurau Dros Dro ym mis Hydref 2025. Bydd adolygiad o'r cynnydd drwy gydol chwe blynedd Cylch 3 yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol.

At ei gilydd, ar gyfer Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, mae statws y rhaglen o fesurau ar y trywydd iawn. Cynhwysir y chwe dalgylch â chyfleoedd, sy'n anelu at ganolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n ofynnol i gyflawni canlyniadau Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 a buddion ehangach i'r amgylchedd dŵr, yn ogystal â chyfrannu at nodau llesiant. Drwy’r Dalgylch Cyfleoedd Morol, mae gwaith wedi'i wneud yn bennaf yn nalgylch afon Cleddau ac yn Ynys Môn, ond hefyd yn nalgylch afon Clwyd a Bae Abertawe. Gallwch weld y camau gweithredu o fewn y prosiectau hyn yma (Saesneg yn unig), ac mae rhai o’r rhain hefyd ar gael yn geo-ofodol ar y Porth Adfer Afonydd.

Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran gweithredu mesurau ar draws yr ardal basn afon, ac er bod y dalgylchoedd â chyfleoedd wedi canolbwyntio ar chwe ardal ddaearyddol, mae gwaith wedi'i gyflawni ar draws yr ardal basn afon gyfan. Roedd y gwaith yn cynnwys ymyriadau wedi'u targedu, gan gynnwys gosod ffensys, plannu gwrychoedd, gwella cynefinoedd torlannol, croesfannau gwartheg gwell a chynlluniau draenio cynaliadwy, a gynhaliwyd gan ddefnyddio cyllid drwy'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Ansawdd Dŵr. Yn ogystal, mae prosiect Pedair Afon LIFE wedi cynnal gwaith ychwanegol tebyg o fewn dalgylchoedd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) afon Cleddau ac afon Teifi. Ochr yn ochr â’r mentrau hyn, mae prosiect arddangos dalgylch afon Teifi hefyd yn cyfrannu at y dulliau dalgylch o fewn yr ardal basn afon. Mae prosiectau yn yr amgylchedd morol wedi bod yn gweithio ar wella ansawdd dŵr a lleihau maethynnau o fewn morlynnoedd heli (nodweddion ACA), dyfroedd arfordirol ac aberoedd. Mae CNC wedi gweithio mewn cydweithrediad â llawer o randdeiliaid i gyflawni nodau ar y cyd ar gyfer dŵr ar draws yr ardal basn afon.

Mae CNC hefyd yn parhau i gynnal rhaglen o ymchwiliadau i ddarganfod pam nad yw llawer o gyrff dŵr mewn statws neu botensial da, gan gynllunio mesurau cyrff dŵr i gyflawni statws/potensial da. Mae ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar gyrff dŵr wedi cynyddu'n sylweddol a bydd yn parhau i ddatblygu trwy Gylch 4. O ganlyniad, mae CNC bellach mewn gwell sefyllfa i weithio gyda'n partneriaid i nodi ble y gellir gwneud y gwelliannau amgylcheddol mwyaf a fydd yn darparu'r budd mwyaf i bawb.

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.2

1.3 Newidiadau ar gyfer Cylch 4

Mae pob cylch o ddiweddaru'r Cynllun Rheoli Basn Afon yn ystyried unrhyw newidiadau. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft ac maent yn gysylltiedig yn bennaf ag agweddau technegol y cynllun megis sut mae CNC yn pennu statws dosbarthiad yr ardal basn afon.

Newidiadau arfaethedig i gyrff dŵr

Ar gyfer Cylch 4, bydd rhai cyrff dŵr yn cael eu diwygio. Ceir crynodeb isod:

  • Yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, mae cynnig i uno dau gorff dŵr afonol, sef Dysynni – Isaf (GB110064048440) a Thywyn – Prif Ddraen (GB110064048310)
  • Newidiadau i enwau cyrff dŵr 
  • Newidiadau i ffiniau cyrff dŵr 
  • Bydd dynodiadau nifer o gyrff dŵr sydd wedi'u haddasu'n sylweddol yn cael eu diwygio

Ceir manylion llawn yn yr Atodiad Technegol, Atodiad A (Saesneg yn unig).

Newidiadau i ardaloedd gwarchodedig

Ar gyfer Cylch 4, mae rhai o'r ardaloedd gwarchodedig wedi'u diwygio. Ceir crynodeb isod: 

  • Mae un ardal sensitif i faethynnau newydd, o dan Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994, wedi'i dynodi yn ystod Cylch 3, sef corff dŵr y Ddau Gleddau – Mewnol yn 2025.
  • Mae saith safle dyfroedd ymdrochi newydd wedi'u dynodi yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru ers 2021, gan gynnwys safle dŵr ymdrochi mewndirol newydd wrth y bont droi ar afon Tywi yn Llandeilo.
  • Mae ardaloedd dyfroedd pysgod cregyn gwarchodedig yn cael eu hadolygu yn 2026 a bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar wahân ar unrhyw newidiadau arfaethedig a'u cynnwys yn y Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol.

Caiff Cofrestr o Ardaloedd Gwarchodedig Cymru ei diweddaru fel rhan o’r Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol a chaiff mapiau ar Arsylwi Dyfroedd Cymru eu diweddaru.

Mae newidiadau i dargedau ansawdd dŵr ar gyfer dau gorff dŵr afon yn ACA Afon Cleddau ac un yn ACA Afon Teifi wedi'u cynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Mae newidiadau i dargedau ansawdd dŵr llynnoedd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hefyd wedi'u cynnwys. Am fanylion, cyfeiriwch at yr Atodiad Technegol, Adran 4.3 (Saesneg yn unig) ac Arsylwi Dyfroedd Cymru.

Newidiadau i'r rhaglen o fesurau

Y newid mwyaf arwyddocaol i'r rhaglen o fesurau yw'r gofyniad i gynnwys mesurau ar raddfa'r corff dŵr fel y'i eglurwyd gan ddyfarniad y Llys Apêl (adolygiad barnwrol Costa Beck). Mae'r dull ar gyfer y gwaith hwn wedi'i nodi yn yr Atodiad Technegol (Saesneg yn unig) ac mae crynodeb wedi'i gynnwys yn Adran 3 isod.
 

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.3

1.4 Pam mae'r cynllun hwn yn bwysig a beth fydd ei nod

Mae Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru wedi'i ddiweddaru yn rhoi cyfle i asesu ac adolygu statws yr ardal basn afon ochr yn ochr â nodi'r mesurau y mae eu hangen ar gyfer y chwe blynedd nesaf. Ei nod yw lleihau nifer yr elfennau sy'n methu mewn cyrff dŵr yn raddol a gwella cyflwr cyffredinol cyrff dŵr, trwy fynd i'r afael â'r pwysau lluosog ar draws ein cyrff dŵr sy'n methu.

Mae effeithiau newid hinsawdd ar ein tirwedd a'n morwedd eisoes yn amlwg, gyda stormydd, sychder, tymereddau uwch nag erioed a thanau gwyllt. Gall y rhain wneud pwysau llygredd o'n gweithgareddau bob dydd, dulliau rheoli tir a'r gorffennol yn fwy amlwg. Mae bioamrywiaeth dan bwysau a rhagwelir y bydd eogiaid wedi diflannu'n lleol mewn rhai afonydd yng Nghymru erbyn 2030.

Bydd rheoli adnoddau naturiol ar draws tirweddau, mewn ffordd integredig, yn darparu cyfleoedd i gyflawni nifer o fuddion. Ceir llawer o enghreifftiau da o weithio mewn partneriaeth eisoes ac mae angen adeiladu arnynt. Mae angen i CNC sicrhau bod amcanion Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau a pholisïau eraill. Rhaid i hyn gynnwys cynlluniau rheoli perygl llifogydd, cynlluniau busnes cwmnïau dŵr, Cynlluniau Rheoli Traethlin a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (mae'r cynllun hwn yn rhan o'r Datganiadau Ardal).

Dros y chwe blynedd nesaf, bydd y cynllun hwn yn gwneud y canlynol:

  • Ceisio gweithio ar y cyd ar draws Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, o darddiadau afonydd i’r môr, i wneud y mwyaf o gyfleoedd a chanlyniadau drwy'r gwaith y mae CNC ac eraill yn ei wneud
  • Parhau i roi rhywfaint o ffocws mewn meysydd megis y chwe dalgylch â chyfleoedd, prosiect Y Teifi Fyw: Pobl a Natur Gyda’i Gilydd a phrosiect Pedair Afon LIFE, a defnyddio’r rhain i lywio dulliau dalgylch integredig yn y dyfodol yng Nghymru
  • Parhau i gyflawni’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Ansawdd Dŵr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i ariannu prosiectau presennol fel Dinas Sbwng Abertawe, gwella ansawdd dŵr morol a datblygu prosiectau adfer afonydd, a hefyd cynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwaith prosiect yn y dyfodol sy'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar draws Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru
  • Defnyddio’r gwaith ar fesurau corff dŵr i fynd i'r afael yn well ag achosion methiannau yn ein dyfroedd
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni mesurau drwy ddefnyddio arloesedd ac offer fel Power BI y rhaglen o fesurau a mapiau gwres i’n helpu i flaenoriaethu a gweithredu
  • Parhau i ddefnyddio data a thystiolaeth i lywio dealltwriaeth o’r broblem fel y gellir rhoi’r mesurau priodol ar waith, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd sy’n codi 
  • Gweithredu i fynd i'r afael â heriau parhaus o ystod eang o bwysau, gan gynnwys gorfaethu, gollyngiadau o orlifoedd storm, cemegau, a'r heriau sy'n deillio o newid hinsawdd
  • Gweithredu i gyflawni'r safonau ansawdd dŵr uwch sy'n ofynnol ar gyfer yr ardaloedd gwarchodedig mwyaf sensitif, gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau, afon Gwyrfai ac afon Eden ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol â blaenoriaeth
  • Defnyddio’r Cynllun Rheoli Basn Afon hwn i ddylanwadu a llywio’r gwaith o ddiwygio dŵr yn y dyfodol yn unol â phapur ‘Llunio Dyfodol Llywodraethiant Dŵr yng Nghymru’, gan sicrhau y gellir dysgu gwersi o’r gwaith a wnaed ers y Cynllun Rheoli Basn Afon cyntaf yn 2009 a sicrhau hirhoedledd y dyheadau yn y cynllun hwn
  • Canolbwyntio ar y camau gweithredu bob dydd y gall pawb eu cymryd fel bod y cynllun yn cynnwys offer defnyddiol i gefnogi cynnwys y gymuned ehangach

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.4

2. Cyflwr yr amgylchedd dŵr

Mae'r adran hon yn edrych ar gyflwr presennol yr amgylchedd dŵr ac yn rhoi crynodeb o statws y dyfroedd yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru yn seiliedig ar y dosbarthiad presennol. Bydd y dosbarthiad yn cael ei ddiweddaru ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd terfynol, a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2027. Crynhoir y rhesymau dros beidio â chyflawni statws neu botensial da (yr amcan gofynnol ar gyfer cyrff dŵr) hefyd, ac mae'r rhain yn helpu i lywio mesurau y mae eu hangen yn ystod amserlen y cynllun hwn i gyflawni ein hamcanion.

2.1 Statws cyrff dŵr

Pennir statws cyrff dŵr drwy ddosbarthu ac mae'r Cynllun Rheoli Basn Afon drafft hwn yn defnyddio dosbarthiad dros dro Cylch 3 (2024) ar gyfer dyfroedd wyneb a dosbarthiad Cylch 3 (2021) ar gyfer dyfroedd daear. 

Statws cyffredinol

Yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, mae 44% o gyrff dŵr yn cyflawni statws cyffredinol da neu well.

Tabl 1 Statws cyffredinol ar gyfer cyrff dŵr

Math o gorff dŵr

Nifer y cyrff dŵr

Uchel

Da

Cymedrol

Gwael

Drwg

Afon

426

0

204

179

36

7

Llyn

61

1

17

29

13

1

Moryd

28

0

5

22

1

0

Dŵr daear

25

0

13

0

12

0

Arfordirol

23

1

6

16

0

0

Camlas

3

0

2

1

0

0

Cyfanswm

566

2

247

247

62

8

 

Ffigur 2 Statws cyffredinol

0% uchel, 44% da, 44% cymedrol, 11% gwael, 1% drwg


Statws lefel elfen

Ar gyfer pob corff dŵr, mae'r dosbarthiad corff dŵr cyffredinol wedi'i wneud o elfennau cemegol, biolegol a ffisegol unigol. Defnyddir y dull un yn methu, pob un yn methu i ddosbarthu cyrff dŵr, felly mae'r dosbarthiad elfen isaf yn llywio'r dosbarthiad cyffredinol. Mae hyn yn sicrhau mai statws ecolegol cyffredinol yw'r sbardun ar gyfer gwelliant yn hytrach na blaenoriaethu elfennau unigol. Mae morffoleg a chyfundrefn hydrolegol yn elfennau ategol. Cânt eu dosbarthu naill ai fel "uchel" neu "ddim yn uchel".

Mae data 2024 ar gyfer pob math o gorff dŵr yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru yn dangos bod 90% o elfennau mewn statws da neu well. Gellir rhannu hyn yn ôl y gwahanol fathau o gyrff dŵr: 88% ar gyfer afonydd, 87% ar gyfer llynnoedd, 79% ar gyfer morydau, 84% ar gyfer camlesi, 90% ar gyfer cyrff arfordirol, a 91% ar gyfer cyrff dŵr daear.

Ffigur 3 Statws lefel elfen Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru

76% uchel, 11% da, 6% cymedrol, 6% ddim yn uchel, 1% gwael, 0% drwg


Statws ecolegol

Mae 541 o gyrff dŵr wyneb yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru. Mae Tabl 2 a Thabl 3 isod yn dangos nifer y cyrff dŵr ar bob statws.

Tabl 2 Statws ecolegol ar gyfer dyfroedd wyneb (cyrff dŵr a aseswyd)

Math o gorff dŵr

Nifer y cyrff dŵr

Uchel

Da

Cymedrol

Gwael

Drwg

Afon

426

0

213

170

36

7

Llyn

61

1

17

29

13

1

Moryd

28

0

7

20

1

0

Arfordirol

23

1

10

12

0

0

Camlas

3

0

2

1

0

0

Cyfanswm

541

2

249

232

50

8


Tabl 3 Statws cemegol ar gyfer dyfroedd wyneb 

Math o gorff dŵr

Nifer y cyrff dŵr

Pasio

Methu

Afon

426

390 

36

Llyn

61

61

0

Moryd

28

22

6

Arfordirol

23

16

7

Camlas

3

3

0

Cyfanswm

541

492

49


Dyfroedd daear – statws

O'r 25 o gyrff dŵr daear yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, mae pob un yn cyflawni statws meintiol da ac mae 13 yn cyflawni statws cemegol da.

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 2.1

2.2 Materion rheoli dŵr sylweddol yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru

Rhesymau dros beidio â chyflawni da

Pan fo elfen wedi'i dosbarthu fel un sy'n is na statws neu botensial da, neu wedi dirywio, mae CNC yn cynnal ymchwiliad i nodi achos y methiant neu'r dirywiad. Caiff y rhain eu cofnodi gan ddefnyddio set ddiffiniedig o resymau a ddefnyddir i nodi mesurau priodol.

Materion sylweddol o ran rheoli dŵr

Mae CNC wedi defnyddio'r rhesymau dros beidio â chyflawni data da i nodi'r materion pwysicaf sy'n bygwth y defnydd presennol a'r defnydd posibl yn y dyfodol o'r amgylchedd dŵr. Gelwir y rhain yn faterion rheoli dŵr sylweddol, ac ymgynghorwyd arnynt yn ein hymgynghoriad Heriau a Dewisiadau yn 2026. Mae'r dadansoddiad yng Ngorllewin Cymru fel a ganlyn:

  • Addasiadau ffisegol (69 o gyrff dŵr)
  • Llygredd o ardaloedd gwledig (111 o gyrff dŵr)
  • Llygredd o ddŵr gwastraff (92 o gyrff dŵr)
  • Llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth (61 o gyrff dŵr)
  • Llygredd o fwyngloddiau segur (41 o gyrff dŵr)
  • Newidiadau i lif naturiol dŵr a’i lefelau (17 o gyrff dŵr)
  • Naturiol (17 o gyrff dŵr)
  • Arall (10 corff dŵr)

Mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli ciplun mewn amser o fis Ebrill 2026. Wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal a mesurau gael eu cwblhau ar lawr gwlad, caiff y set ddata ei diweddaru. Mae methiannau oherwydd data amheus yn cael eu hymchwilio iddynt ar hyn o bryd. Gall methiannau eraill gynnwys yr amser y mae ei angen i'r ecoleg wella ar ôl ymyrraeth a lle mae rhwystrau naturiol fel rhaeadrau'n cyfyngu ar symudiad pysgod.

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 2.2

3. Amcanion a mesurau

Mae'r adran hon yn crynhoi'r amcanion a'r rhaglen o fesurau ac yn nodi sut y gellid gweithredu'r rhain, ochr yn ochr â'n dealltwriaeth o'r heriau a'r gost, yn ystod 2027 i 2033. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru ar gyfer y Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol.

3.1 Gosod amcanion

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r hyn y mae CNC yn bwriadu ei gyflawni erbyn 2033 i gyflawni'r amcanion statudol:

  • Atal dirywiad mewn statws – Ni fydd statws y corff dŵr yn cael dirywio.
  • Cyflawni’r amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig – Cyflawni’r safonau a bennir gan y ddeddfwriaeth berthnasol y cawsant eu dynodi oddi tani. Ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sy'n ddibynnol ar ddŵr, bydd gwaith yn parhau tuag at gyflawni amcanion cadwraeth. 
  • Anelu at gyflawni statws/potensial da cyffredinol ar gyfer dyfroedd wyneb a dyfroedd daear – Gweithredu mesurau i gyflawni statws cyffredinol da, lle mae hyn yn ymarferol bosibl ac nid yn anghymesur o gostus.

Nodir hyn drwy osod amcan ar gyfer pob corff dŵr ac elfen ansawdd. Gellir dod o hyd i’r canlyniadau manwl ar gyfer yr wybodaeth hon ar Arsylwi Dyfroedd Cymru a darperir disgrifiad manylach o'r dull yn yr Atodiad Technegol (Saesneg yn unig).

Fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, mae CNC yn anelu at weithredu mesurau i gyflawni statws/potensial cyffredinol da ar gyfer dyfroedd wyneb a dyfroedd daear erbyn 2027. Caniateir amcanion amgen i'r un hwnnw, a allai arwain at ddau opsiwn ychwanegol fel a ganlyn:

  • amcan o gyflawni statws is na da erbyn 2033 (amcan llai llym) yn sgil anymarferoldeb technegol (nid oes datrysiad technegol hysbys ar gael) neu gost anghymesur (cydbwysedd costau a buddion anffafriol)
  • neu derfyn amser estynedig ar gyfer statws/potensial da hyd at, neu y tu hwnt i, 2033 am resymau amodau naturiol (adferiad ecolegol) neu anymarferoldeb technegol ar gyfer nifer fach o gemegau.

Ar gyfer pob ardal warchodedig, ac eithrio ardaloedd o ddŵr gwarchodedig ar gyfer pysgod cregyn, y nod yw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw safonau/targedau ac amcanion sy'n ofynnol gan y rheoliadau perthnasol y mae'r ardal neu'r corff dŵr wedi'i warchod ar eu cyfer. Ar gyfer safleoedd Ewropeaidd, y nod yw cyflawni amodau ffafriol. Pan fo dau amcan neu fwy yn berthnasol i'r un corff dŵr, neu'r un rhan o gorff dŵr, yr amcan mwyaf llym sy'n berthnasol. Wrth bennu amcan o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer corff dŵr sydd ar statws is na statws da, nid yw'n dderbyniol i’r amcan danseilio amcanion ardaloedd gwarchodedig eraill fel safleoedd Ewropeaidd.

Mae'n rhaid adolygu pob amcan ar gyfer pob cylch cynllunio wrth i dystiolaeth newydd, a mesurau i ddatrys pwysau amgylcheddol, ddod ar gael. O'r 566 o gyrff dŵr, mae gan 62 amcan o statws neu botensial is na da ar y sail eu bod yn anghymesur o gostus, neu ei bod yn dechnegol anymarferol i’w gwella i statws da dros Gylch 4. Yn y cyrff dŵr hyn, bydd rhai mesurau cenedlaethol a mesurau cyrff dŵr yn cael eu cymryd i wella ansawdd y dŵr a chyfrannu at werthoedd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Os byddai gwerthoedd sylweddol o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn cael eu cronni, neu os byddai buddion i'r dalgylch i lawr yr afon yn cael eu hennill o ganlyniad i ymyrraeth bellach, yna byddant yn cael eu hannog. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd mesurau dros un cylch yn ddigonol i arwain at newid statws y dosbarthiad. Mae dim dirywiad yn parhau i fod yn amcan ar gyfer y cyrff dŵr hyn.

Mae'r asesiad o gost anghymesur wedi'i wneud ar 225 o gyrff dŵr yng Nghymru, gan gynnwys 119 yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru y bu'n bosibl casglu costau ar eu cyfer. Ers cyhoeddi'r ail Gynllun Rheoli Basn Afon, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein galluogi i ystyried buddion a geir o wella ansawdd dŵr nad ydynt efallai wedi'u cynnwys yng ngwerthusiad y buddion o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, fel defnyddio'r dŵr a adferir o fwyngloddiau i wresogi tai lleol. Am y rheswm hwn, efallai y caiff mesurau mewn cyrff dŵr eu datblygu o hyd, hyd yn oed os cyfrifir eu bod yn anghymesur o gostus o ran gofynion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, os gellir dangos y byddai gwerthoedd ehangach a mwy sylweddol, o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn cael eu gwireddu.

Mae Ffigur 4 yn dangos y 119 o gyrff dŵr a ystyriwyd ar gyfer asesiad economaidd ar draws Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, wedi'u rhestru ar yr echelin-X o'r un mwyaf buddiol o ran cost i'w wella i'r un lleiaf buddiol o ran cost. Mae'r bariau glas yn cynrychioli'r gymhareb budd a chost ar gyfer pob corff dŵr, tra bod y llinell oren yn dangos y gost gronnus o gyflawni statws da neu botensial ecolegol da. Mae'r gost gronnus yn codi'n raddol ar gyfer y cyrff dŵr mwyaf buddiol o ran cost cyn cynyddu'n fwy sydyn ar gyfer nifer gymharol fach o ymyriadau cost uwch, gan ddangos dylanwad nifer gyfyngedig o gynlluniau gwella drud ar gostau cyffredinol y rhaglen.

Amcangyfrifir bod cyfanswm y gost o wella'r 225 o gyrff dŵr a aseswyd ledled Cymru tua £590 miliwn. O hyn, mae Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru yn cynrychioli 119 o gyrff dŵr wedi'u costio gyda chost amcangyfrifedig o £335 miliwn. Fel gydag asesiadau blaenorol, dim ond cyrff dŵr y mae costau wedi'u mesur ar eu cyfer y mae'r ffigurau hyn yn eu cynrychioli, ac mae'n debygol y bydd y cost gyffredinol o gyflawni amcanion ar draws pob corff dŵr yn uwch. Bydd cyflawni gwelliannau hefyd yn dibynnu ar argaeledd mecanweithiau rheoleiddio priodol, mynediad at dir, cyfleoedd partneriaeth, a hyfywedd technegol mynd i'r afael â'r pwysau a nodwyd.

Graff: mae'r gost gronnus yn codi'n raddol ar gyfer yr ymyriadau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian, cyn codi'n sydyn ar gyfer nifer llai o ymyriadau sy'n costio mwy. Mae cost y camau sy'n cynnig y gwerth lleiaf am arian yn codi i tua £335,000.

 

Mae Ffigur 4 yn dangos y 119 o gyrff dŵr a ystyriwyd ar gyfer asesiad economaidd yn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, wedi'u rhestru o'r rhai mwyaf buddiol o ran cost i'w gwella i'r rhai lleiaf buddiol o ran cost. Mae'r bariau glas yn dangos y gymhareb cost a budd, ac mae'r llinell oren yn dangos costau gwella cronnus.

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 3.1

3.2 Crynodeb o'r rhaglen ddrafft o fesurau

Mae'r adran hon yn nodi crynodeb o raglen ddrafft o fesurau Cylch 4. Mae'r rhain yn cael eu llywio gan dystiolaeth a gwybodaeth newydd o gylchoedd cyfredol a blaenorol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru, fel y bo angen, yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn a rhyddhau'r dosbarthiad terfynol, a fydd yn 2027. Ar gyfer Cylch 4, mae'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn cynnwys mesurau cyrff dŵr ar gyfer cyrff dŵr unigol, sy'n ofyniad a eglurwyd gan ddyfarniad y Llys Apêl (adolygiad barnwrol Costa Beck). Mae'r dull ar gyfer y rhaglen o fesurau wedi'i nodi yn yr Atodiad Technegol (Saesneg yn unig). Mae'r rhaglen ddrafft o fesurau yn cynnwys y canlynol:

Mesurau cenedlaethol – Mae’r rhain fel arfer yn berthnasol i Gymru gyfan, Cymru a Lloegr, neu’r Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn pennu’r dull o weithredu o safbwynt deddfwriaeth, polisi neu strategaeth, a’r cymorth cysylltiedig, neu maent yn hanfodol bwysig i waith cyflenwi lleol a chanlyniadau amgylcheddol. Maent hefyd yn cynnwys rhai o’r prif raglenni cyflenwi. Er enghraifft, gwaharddiad cenedlaethol ar ddefnyddio cemegyn penodol, neu strategaeth genedlaethol ar gyfer blaenoriaethu ac ariannu gwaith adfer mwyngloddiau segur. Mae 54 o fesurau cenedlaethol yng Nghymru ac mae hyn yn cynnwys chwe mesur newydd ar gyfer Cylch 4 – maen nhw yma ar Power BI y rhaglen o fesurau.

Mesurau corff dŵr – Mae'r mesurau hyn yn berthnasol i gorff dŵr penodol ac yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â rheswm dros beidio â chyflawni statws/potensial da neu reswm dros ddirywiad. Mae mesurau corff dŵr hefyd yn cynnwys ymchwiliadau lle nad yw methiant a rheswm dros beidio â chyflawni statws/potensial da neu reswm dros ddirywiad wedi'u cadarnhau eto. Mae'r rhain yma ar Power BI y rhaglen o fesurau.

Ar gyfer Cylch 4, mae'r rhaglen o fesurau wedi'i grwpio o dan fecanweithiau cyflawni: 

  • Rheoleiddio (mecanweithiau deddfwriaethol)
  • Cynlluniau strategol
  • Cymhellion ariannol
  • Partneriaethau
  • Ymchwiliadau
  • Buddsoddiad mewn cwmnïau dŵr (Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol – NEP)
  • Ymchwil, prosiectau arddangos neu brosiectau peilot
  • Addysg gyffredinol, ymgyrch gyngor neu gynllun

Ceir rhagor o wybodaeth am y dulliau deddfwriaethol o weithredu mesurau drwy Legislation.gov.uk.

Gellir cyflawni'r rhaglen o fesurau drwy sawl rhaglen waith genedlaethol allweddol:

  • Rhaglenni CNC sy'n cael eu hysgogi gan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
  • Dulliau graddfa dalgylch o'r tarddiad i'r môr, gan gynnwys gwaith trwy adfer afonydd, cyfleoedd pysgodfeydd cynaliadwy a'r prosiect Pedair Afon LIFE
  • Byrddau Rheoli Maethynnau
  • Rheoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol 
  • Y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol, sy'n cynnwys cyflawni'r gorlifoedd storm a'r rhaglen tynnu dŵr cynaliadwy sy'n adfer adnoddau dŵr
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Choedwig Genedlaethol Cymru
  • Cronfa Gyfalaf Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru a’r dalgylchoedd cyfle a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yng Nghymru

Dylid mabwysiadu dull o'r tarddiad i'r môr er mwyn anelu at integreiddio'r rhaglenni hyn i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a'r buddion.

Mae gan lawer o'r mesurau nifer o fuddion, gan ddilyn egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Er enghraifft, gall systemau draenio cynaliadwy helpu i leihau llygredd gwasgaredig, lleihau dŵr ffo arwyneb a’r perygl o lifogydd, a darparu bioamrywiaeth drwy seilwaith gwyrdd yn hytrach na pheirianneg galed.

O fewn y Cynllun Rheoli Basn Afon, mae'r rhain wedi'u trefnu o dan y materion sylweddol yn ymwneud â rheoli dŵr ac mae crynodeb wedi'i gynnwys isod.

Mae cyflawni amcanion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gofyn am gyfuniadau o fesurau i'w cyflwyno ar draws llawer o sectorau a sefydliadau, fel prosiectau partneriaeth yn ogystal â chan y cyhoedd – mae gan bawb ran i'w chwarae.
 

Crynodeb o raglen o fesurau yn ôl mater rheoli dŵr sylweddol ar gyfer Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru

Addasiadau ffisegol

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Gweithgareddau rheoli perygl llifogydd 
  • Polisi Cynllun Rheoli Traethlin ar gyfer rheoli amddiffynfeydd arfordirol 
  • Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy 
  • Y Strategaeth Gallu Pysgodfeydd i Wrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd 
  • Rhaglen Rheoli Asedau Cwmnïau Dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
  • Rhaglen Adfer Afonydd

Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:

  • Datrys effeithiau a achosir gan rwystrau i bysgod sy’n mudo a pharhad naturiol mewn afonydd a sianeli llanw (e.e. argaeau, coredau, morgloddiau, cwlfertau, llifddorau)
  • Datrys effeithiau gweithgareddau gweithredol a chynnal a chadw mewn sianeli afonydd a llanw a reolir ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir
  • Gwella cyfundrefn llif annigonol (cyfaint sylfaenol y llif neu amrywioldeb y llif) i lawr yr afon o gronfeydd storio dŵr

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Pan fo addasiadau ffisegol yn hanfodol i ddarparu defnyddiau dynol pwysig, fel cyflenwad dŵr yfed neu amddiffyn rhag llifogydd, rhaid lliniaru effeithiau ecolegol a achosir gan yr addasiadau heb achosi effaith andwyol sylweddol ar y defnyddiau hyn
  • Prosiect Pedair Afon LIFE, wedi'i gyflawni yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar hyd afon Teifi, afon Tywi ac afon Cleddau, ac ar ôl i gynllun LIFE fod ar waith
  • Cyflawni rhaglen adfer afonydd CNC
  • Parhau i fynd i'r afael â rhwystrau i bysgod sy’n mudo mewn dalgylchoedd
  • Cynyddu gwydnwch dalgylchoedd i wneud poblogaethau pysgod yn fwy gwydn i bwysau, gan gynnwys newid hinsawdd
  • Targedu atebion ar sail natur ar gyfer addasiadau ffisegol ar yr arfordir
  • Cyflawni ymrwymiadau Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau’r cwmnïau dŵr (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9)

Rheoli llygredd o ddŵr gwastraff

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
  • Cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff
  • Cynlluniau rheoli maethynnau ar gyfer dalgylchoedd afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a chynlluniau adfeddu maethynnau dalgylchoedd ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol â blaenoriaeth
  • Systemau Draenio Cynaliadwy

Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:

  • Pan fo angen, rhagwylio/diwygio trwyddedau i leihau effaith gollyngiadau
  • Sicrhau bod tanciau septig yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio, a dilyn cyngor a chanllawiau ar gynnal a chadw
  • Sicrhau gwell ansawdd mewn gollyngiadau / lleihau gollyngiadau o bob gollyngiad tarddle penodol ysbeidiol, e.e. gorlifoedd storm
  • Cyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau i adfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i gyflwr ffafriol

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau’r cwmnïau dŵr (Cynllunio Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9)
  • Lleihau risgiau llygredd ac effaith negyddol llygredd o garthion a dŵr gwastraff ar fioamrywiaeth erbyn 2030 (Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026)
  • Mae systemau carthffosiaeth, gan gynnwys gorlifoedd storm, yn cael eu cynnal a'u cadw neu eu gwella fel eu bod yn gweithredu'n effeithiol a bod eu heffaith ar yr amgylchedd dŵr, o'r tarddiad i'r môr, yn cael ei lleihau i'r lefel leiaf posibl
  • Mae gollyngiadau carthion cwmnïau dŵr i afonydd ACA a dalgylchoedd ACA morol â blaenoriaeth yn bodloni eu safonau maethynnau 
  • Cyflwyno dull integredig o ymdrin â gorfaethu ar raddfa dalgylch
  • Mae atebion i broblemau gorlifoedd storm sy'n darparu buddion lluosog wedi'u hymgorffori yn y broses o gynllunio a datblygu ar draws yr ardal basn afon (e.e. dylunio trefol sy'n ystyriol o ddŵr, cynlluniau draenio cynaliadwy) ac yn ganolog i'r cynllunau rheoli ar gyfer systemau draenio a dŵr gwastraff
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effeithiau camgysylltiadau a gwaredu sylweddau niweidiol i systemau carthffosiaeth (e.e. paent, olew, brasterau a chemegau’r ardd) 
  • Cynnal a gwella dyfroedd ymdrochi a physgod cregyn er mwyn hybu diwydiannau twristiaeth a dyframaethu pysgod cregyn sy’n ffynnu

Rheoli llygredd o ardaloedd gwledig

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Sicrhau bod cynhyrchion cemegol yn cael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a bod unrhyw wastraff a gynhyrchir yn cael ei waredu'n briodol
  • Gwella’r broses o reoli’r tir er mwyn sicrhau bod pob defnydd o faethynnau a gwrtaith yn cyd-fynd â gofynion y pridd a'r cnydau a lleihau erydiad pridd i leihau colledion o faethynnau a gwaddod o'r tir
  • Lleihau llwythi maethynnau a/neu organig o fewn y corff dŵr i adfer yr ACA i gyflwr ffafriol
  • Sicrhau bod rheolaeth yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a gwella ymwybyddiaeth a gweithrediad Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau ymarfer cysylltiedig ar draws y sector coedwigaeth
  • Sicrhau bod pridd yn cael ei reoli'n briodol, gan atal a lleihau cywasgiad ac erydiad dilynol a achosir gan symudiadau cerbydau a/neu sathru/gorbori da byw

Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:

  • Sicrhau bod cynhyrchion cemegol yn cael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a bod unrhyw wastraff a gynhyrchir yn cael ei waredu'n briodol
  • Gwella’r broses o reoli’r tir er mwyn sicrhau bod pob defnydd o faethynnau a gwrtaith yn cyd-fynd â gofynion y pridd a'r cnydau a lleihau erydiad pridd i leihau colledion o faethynnau a gwaddod o'r tir
  • Lleihau llwythi maethynnau a/neu organig o fewn y corff dŵr i adfer yr ACA i gyflwr ffafriol
  • Sicrhau bod rheolaeth yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a gwella ymwybyddiaeth a gweithrediad Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau ymarfer cysylltiedig ar draws y sector coedwigaeth
  • Sicrhau bod pridd yn cael ei reoli'n briodol, gan atal a lleihau cywasgiad ac erydiad dilynol a achosir gan symudiadau cerbydau a/neu sathru/gorbori da byw

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â llygredd gwasgaredig gwledig 
  • Lleihau risgiau llygredd ac effaith negyddol llygredd o orfaethu ar fioamrywiaeth erbyn 2030 (Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026)
  • Cyflwyno dull integredig o ymdrin â gormod o faethynnau o fewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, gan gynnwys dull cyfannol o ymdrin â dyddodiad nitrogen, gan integreiddio effeithiau ar ansawdd aer a dŵr
  • Cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau’r cwmnïau dŵr (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9), gan gynnwys atebion dalgylch ar gyfer ardaloedd dŵr yfed gwarchodedig
  • Gwaith priodol i greu coetiroedd newydd a rheoli coedwigaeth sy'n dwyn budd i'r amgylchedd dŵr, ac i bobl drwy weithgareddau hamdden yn yr awyr agored, ac sy'n darparu gwasanaethau ecosystemau, fel gostyngiad mewn llygredd gwasgaredig, llifoedd llifogydd llai, dŵr yfed glân, cynefinoedd i bysgod a bywyd gwyllt, a chysgod ar ymylon dŵr i liniaru effeithiau newid hinsawdd
    Bydd CNC yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i fodloni canllawiau coedwigaeth a dŵr Safon Coedwigaeth y DU o leiaf 
  • Mae rheoli tir gwledig yn cyfrannu at adfer cynaliadwy, hirdymor i amodau pH naturiol mewn ardaloedd lle mae cyrff dŵr yn cael eu peryglu gan asideiddio

Rheoli llygredd o fwyngloddiau

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Strategaeth Mwyngloddiau Metel Cymru
  • Rhaglen waith yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:

  • Rheoli ac adfer gollyngiadau tarddle penodol a/neu wasgaredig o fwyngloddiau metel segur
  • Rheoli ac adfer gollyngiadau tarddle penodol a/neu wasgaredig o byllau glo segur

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Lleihau effeithiau mwyngloddiau segur ar yr amgylchedd dŵr drwy raglen waith strategol ledled Cymru. Bydd yn cymryd degawdau i fynd i'r afael â'r holl faterion a bydd camau gweithredu sy'n cyflawni'r canlyniadau ecolegol, cymdeithasol ac economaidd gorau ar gyfer buddsoddiad cymdeithas yn cael blaenoriaeth
  • Cyflwyno'r rhaglen atal ac adfer dŵr mwyngloddiau mewn perthynas â phyllau glo

Rheoli llygredd o drefi, dinasoedd a chludiant

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff 
  • Halogiad o safleoedd diwydiannol a safleoedd gwastraff hanesyddol 
  • Rheoli’r broses o ryddhau cemegau wrth y ffynhonnell
  • Ymwybyddiaeth a buddion rheoli dŵr ffo wyneb

Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:

  • Cynnal a gwella systemau draenio carthffosiaeth i gywiro camgysylltiadau a gollyngiadau
  • Sicrhau cydymffurfedd drwy reolaethau rheoleiddiol ar allyriadau â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Thirweddau Sain) (Cymru) 2024 a Deddf yr Amgylchedd 1995
  • Adolygu a, lle bo'n briodol, amrywio a/neu orfodi trwyddedau gollwng presennol
  • Adfer safleoedd tirlenwi ac echdynnu/trin trwytholchion
  • Adfer tir halogedig

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Cyflawni'r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff
  • Lleihau effaith negyddol datblygiadau hanesyddol a datblygiadau yn y dyfodol ar yr amgylchedd dŵr drwy ein rôl fel ymgynghorai ansawdd tir yn y broses gynllunio neu, lle nad yw'r broses gynllunio yn berthnasol, drwy ddarparu cyngor a chymorth i awdurdodau lleol gyda'u strategaeth archwilio tir halogedig
  • Gweithredu deddfwriaeth i reoli rhyddhau cemegau wrth y ffynhonnell
  • Rhoi mesurau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wrth wraidd y broses o ddylunio a chynllunio trefol. Drwy ddefnyddio systemau draenio cynaliadwy, adfer yr ardaloedd o amgylch afonydd ac arfordiroedd, gan gynnwys glannau afonydd, gorlifdiroedd a'r ardal rynglanwol, darparu mannau gwyrdd a glas cyhoeddus, codi ymwybyddiaeth, a newid ymddygiad i wella ansawdd bywyd yn ardaloedd trefol Cymru
  • Parhau i reoleiddio allyriadau o lygryddion sy’n asideiddio er mwyn caniatáu i'r amgylchedd dŵr wella
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth o fewn yr amgylchedd trefol ar ymwybyddiaeth gymunedol o effeithiau camgysylltiadau

Newidiadau i lif naturiol dŵr a’i lefelau

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
  • Rhaglen Adfer Mawndiroedd Genedlaethol Llywodraeth Cymru
  • Gweithgareddau rheoli perygl llifogydd 
  • Adolygiad o fesurau lliniaru cyrff dŵr sydd wedi’u haddasu’n helaeth
  • Effeithlonrwydd dŵr, gan gynnwys gwaith galw aml-sector 

Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:

Ar gyfer y rhaglen o fesurau drafft ar gyfer y Cynllun Rheoli Basn Afon, yr unig fesurau corff dŵr sydd wedi'u cynnwys yw ymchwiliadau i adnoddau dŵr.

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol a chynlluniau rheoli asedau (Cynllunio Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9) y cwmnïau dŵr, gan gynnwys adfer tynnu dŵr cynaliadwy hirdymor a defnyddio atebion ar sail natur
  • Parhau i gyflawni Rhaglen Adfer Mawndiroedd Genedlaethol Llywodraeth Cymru
  • Annog patrymau defnydd tir cynaliadwy mewn amgylcheddau trefol a gwledig sy'n lleihau dŵr ffo o law, gan gynnwys atebion ar sail natur
  • Cyflwyno ymyriadau fel gwella cynefinoedd yn y sianel sy'n lliniaru effeithiau tynnu dŵr ar yr amgylchedd dŵr 
  • Deall y galw am ddŵr ar draws sectorau yn well
  • Drwy Waterwise, parhau i wella effeithlonrwydd defnyddio dŵr er mwyn lleihau'r angen am weithgarwch tynnu dŵr ychwanegol yn y dyfodol 

Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol

Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:

  • Gweithredu strategaeth ddiweddaraf Prydain Fawr ar rywogaethau estron goresgynnol
  • Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol

Dim mesurau cyrff dŵr

Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn peri pwysau ar draws Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru, ond nid nhw yw'r rheswm nad yw unrhyw gorff dŵr yn cyflawni statws neu botensial da, felly nid oes unrhyw fesurau penodol ar gyfer cyrff dŵr.

Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:

  • Blaenoriaethu camau gweithredu i arafu neu atal ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol presennol
  • Lleihau'r risg a achosir gan rywogaethau estron goresgynnol drwy wella bioddiogelwch a gwybodaeth leol am ddosbarthiad ac effaith rhywogaethau estron goresgynnol
  • Cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau’r cwmnïau dŵr (Cynllunio Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9)

Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 3.2

Mannau eraill yng Cynlluniau rheoli basn afon

Diweddarwyd ddiwethaf