Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Pyle and Kenfig Golf Club Limited i adnewyddu trwydded lawn i dynnu dŵr ar delerau gwahanol, rhif cyfres 21/58/33/0010, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o strata tanddaearol yng Nghyfeirnodau Grid Cenedlaethol SS 80930 80230. Mae’r telerau gwahanol yr ymgeisir amdanynt ar gyfer:

  • newid y strata tanddaearol,
  • newid y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol i SS 80951 80235, ac ychwanegu pwynt ychwanegol yn SS 80985 80285; a
  • thynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 20 metr ciwbig yr awr, 480 metr ciwbig y dydd a 175,200 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-032360 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth  Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 05/11/2026 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf