Rydym wedi derbyn cais am drwydded amgylcheddol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Cais newydd pwrpasol am drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: EPR/ZB3999CB/A001
Math o gyfleuster rheoledig: Atodlen 23 Gweithgareddau sylweddau ymbelydrol – defnyddio deunydd ymbelydrol, cronni a gwaredu gwastraff ymbelydrol.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Parc Imperial, Celtic Way, Casnewydd, NP10 8BE

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi gwneud cais am drwydded bwrpasol newydd ar gyfer rheoleiddio sylweddau ymbelydrol er mwyn defnyddio sylweddau ymbelydrol ffynhonnell agored i weithgynhyrchu cynhyrchion radiofferyllol i'w defnyddio yn ysbytai'r GIG. At hynny, byddai gwastraff ymbelydrol yn cael ei gronni a’i waredu, yn cynnwys ffiolau gwastraff a chyfarpar diogelu personol halogedig.

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r gweithgareddau arfaethedig; y deunyddiau a’r sylweddau y byddant yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau’r safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd yr allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld dogfennau’r cais drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drefnu bod copi yn cael ei anfon atoch. Efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am gostau copïo.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 23 Ebrill 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdyd
CF10 3NQ

Mae'n rhaid i ni benderfynu a ydym am ganiatáu neu wrthod y cais. Os byddwn yn ei ganiatáu, mae'n rhaid i ni benderfynu pa amodau i'w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad ar Gyfranogiad y Cyhoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf