Ceisiadau am drwyddedau adar: cyfrif mulfrain neu hwyaid danheddog ar afon
Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod i warchod eog yr Iwerydd neu frithyll y môr, rhaid i chi roi data’r cyfrifiad adar i ni ar gyfer pob rhan o’r afon lle bydd y gwaith rheoli yn digwydd.
Dull sy'n seiliedig ar ddalgylch
Rydym yn eich annog i weithio gydag eraill ar eich dalgylch (fel clybiau pysgota neu ymddiriedolaethau afonydd) i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ddalgylch. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn poblogaethau bregus o eogiaid a brithyllod y môr ar adegau tyngedfennol o'r flwyddyn.
Gallwch gyflawni hyn drwy wneud y canlynol:
- cynnal cyfrifiadau o adar sy'n nodi mannau lle mae'r ysglyfaethu ar ei uchaf fel coredau, pontydd, neu ardaloedd eraill lle mae adar yn ymgynnull
 - cydlynu ag eraill i gyflwyno cais ar y cyd sy'n mynd i'r afael â'r mannau hyn mewn ffordd strategol
 - penodi trwyddedai arweiniol a fydd yn gyfrifol am y cais ac yn gyfrifol yn gyfreithiol am y drwydded
 - penodi asiantau achrededig, sy'n gyfrifol am eu rhannau eu hunain o’r afon a nodir yn y drwydded
 - cydlynu ymdrechion ar adegau tyngedfennol i sicrhau nad yw adar yn cael eu symud ymlaen i'r lleoliad bwydo nesaf ar yr afon
 - datblygu maint y rheolaeth dros amser
 
Pryd i gyfrif
Rhaid i chi gynnal cyfrifiadau rhwng mis Medi a mis Mawrth.
Cofnodi'r cyfrif
Rhaid i chi gofnodi'r manylion canlynol ar gyfer pob rhan o'r afon:
- dyddiad y cyfrif
 - yr amser y gwnaethoch chi ddechrau'r cyfrif
 - niferoedd y mulfrain a'u hymddygiad (hedfan, clwydo, neu fwydo)
 - niferoedd yr hwyaid danheddog a'u hymddygiad (hedfan, clwydo, neu fwydo)
 
Byddwn yn gofyn i chi nodi'r wybodaeth hon yn eich ffurflen gais.