Parc Coedwig Coed y Brenin - Pont Cae'n-y-coed, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Pont Cae'n-y-coed ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Y maes parcio bach yw fan cychwyn Llwybr Llosgfynydd sydd yn ymweld â nifer o brif nodweddion y goedwig.

Ar un adeg roedd Pont Beili dros dro yma er mwyn cludo coed o’r ochr draw i Afon Mawddach.

Y dyddiau hyn mae beicwyr mynydd a cherddwyr yn defnyddio’r bont newydd fel cyswllt hanfodol i’r tiroedd gwyllt ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Llosgfynydd

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 6.7 milltir/10.8 cilomedr
  • Amser: 5 awr
  • Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd y goedwig a llwybrau serth a chul sy’n aml yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed ar hyd peth o’r tir garwaf dan draed yn y goedwig gyfan. Mae grisiau i’w cael ar y ddringfa serth i ben Moel Hafod Owen ble gwelwch fainc ar y copa i gael picnic haeddiannol wrth fwynhau’r olygfa.

Ar y gylchdaith heriol hon, byddwch chi’n ymweld â sawl nodwedd allweddol yn y goedwig, gan gynnwys y gors gopr a phwynt uchaf parc y goedwig – Moel Hafod Owen. 

Mae paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr eich helpu i archwilio hanes folcanig trawiadol Coed y Brenin.

Parc Coedwig Coed y Brenin

Y prif feysydd parcio sydd â chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yw:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Pont Cae'n y Coed wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae maes parcio Pont Cae'n-y-coed 6 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.

Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau tuag at Borthmadog.

Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol.

Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw.

Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 733 250 (Explorer Map OL 18).

Y cod post yw LL40 2LE. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsafoedd rheilffyrdd agosaf yw Abermaw (rheilffordd Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (rheilffordd Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Llwybr Llosgfynydd PDF [1019.4 KB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf