SoNaRR 2025 Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig
Croeso Cymru
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Mae Cymru yn wynebu trobwynt. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cadarnhau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 a’r hyn y mae llawer wedi’i synhwyro: mae ein hecosystemau’n ei chael yn anodd gwrthsefyll y pwysau o sut rydym yn rheoli’r tir yng Nghymru. Mae bioamrywiaeth yn dirywio, mae systemau naturiol dan straen, ac mae’r tirweddau sy’n cynnal iechyd, ffyniant a diwylliant yn ei chael yn anodd addasu i bwysau newydd a phresennol.
Mae deall ac asesu gwytnwch ecosystemau yn ganolog i allu Cymru i ymateb i bwysau amgylcheddol a chyflawni’r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r asesiad nod 2 hwn yn archwilio pwysigrwydd ecolegol cynefinoedd lled-naturiol, sef y rhai sydd fwyaf hanfodol ar gyfer ecosystemau cadarn. Mae hefyd yn cyflwyno’r fframwaith Amrywiaeth, Maint, Cyflwr a Chysylltedd (DECC) a ddefnyddir i asesu gwytnwch ar draws ecosystemau. Gyda’i gilydd, mae’r elfennau hyn yn darparu’r sylfaen ar gyfer deall faint y mae ecosystemau Cymru yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig.
Ein gweledigaeth
Ynghyd â llywodraethau ledled y byd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal a gwrthdroi colli byd natur.
Bydd Cymru yn cyflawni hyn drwy rwydwaith cynhwysfawr o ecosystemau iach a chadarn. Drwy reoli tir yn gynaliadwy ac economi adfywiol, caiff llygredd niweidiol ei ddileu, byddwn yn atal ac yn gwrthdroi colli bioamrywiaeth, gan sicrhau bod ein tirweddau’n darparu buddion llesiant gwell, ac yn darparu gwasanaethau ecosystem hanfodol yn gyson ar gyfer iechyd a ffyniant cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd cyflawni’r weledigaeth hon yn hyrwyddo nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn cyfrannu at gynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer: Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru (dangosydd 43), a Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru (dangosydd 44).
Negeseuon allweddol
Nid yw ecosystemau Cymru yn gadarn. Mae angen gweithredu ar frys i wrthdroi dirywiad a meithrin y gallu i ymaddasu
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cadarnhau bod gwytnwch ecosystemau yn parhau i fod yn isel ar draws y rhan fwyaf o gynefinoedd, gan gynnwys ecosystemau ar y tir, ac ecosystemau dŵr croyw a morol. Mae cynefinoedd lled-naturiol wedi dirywio o ran maint a chyflwr, ac mae asesiadau morol yn dangos pwysau sylweddol o lygredd, newid hinsawdd, a datblygiad heb ei reoleiddio. Heb newid trawsnewidiol, bydd gwytnwch yn parhau i erydu, gan fygwth bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, a llesiant hirdymor.
Defnydd tir yw un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol a pharhaus sy’n achosi dirywiad ecosystemau
Mae degawdau o ddefnydd dwys o dir, yn enwedig dwysáu amaethyddol ac ehangu trefol, wedi darnio cynefinoedd a diraddio priddoedd a dŵr, gan arwain at lygredd ar draws tir, dŵr croyw, a’r môr. Mae cynllunio defnydd strategol o dir a’r môr yn hanfodol er mwyn adfer gwytnwch.
Mae newid hinsawdd yn cyflymu pwysau ar ecosystemau ac yn sbarduno effeithiau rhaeadru
Mae newid hinsawdd bellach yn ffactor amlwg sy’n achosi newid ar draws pob ecosystem. Mae’n rhyngweithio â phwysau eraill ac yn eu dwysáu, megis darnio cynefinoedd, llygredd, a rhywogaethau goresgynnol, gan leihau gallu ecosystemau i adfer, addasu, a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mewn systemau morol, mae cynhesu yn gynyddol debygol o sbarduno newidiadau yn nosbarthiad rhywogaethau ac adeiledd ecosystemau, y mae’n rhaid eu hystyried o ran cynllunio gofodol morol a datblygu seilwaith. Gall atebion sy’n seiliedig ar natur, megis adfer a gwella cyflwr cynefinoedd, gwella cysylltedd, ac integreiddio addasu i’r hinsawdd i faes cynllunio, droi risgiau hinsawdd yn gyfleoedd ar gyfer meithrin ecosystemau cadarn a ffyniannus.
Rhaid meithrin gwytnwch ar draws y dirwedd a’r morwedd cyfan, nid mewn safleoedd gwarchodedig yn unig
Mae safleoedd gwarchodedig yn angorau hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth, ond mae gwytnwch gwirioneddol yn dibynnu ar gysylltu’r safleoedd hyn trwy rwydweithiau ecolegol cadarn sydd wedi’u cynllunio’n dda a rhwydweithiau ardaloedd morol gwarchodedig sy’n gydlynol yn ecolegol. Mae cyflawni gwytnwch ar raddfa fawr yn gofyn am bartneriaethau ar raddfa tirwedd a morwedd.
Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn ganolog i sicrhau bod ecosystemau yn wydn
Gan fod dros 90% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, rheolwyr tir sy’n adfer byd natur yn bennaf. Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a fframweithiau cynllunio yn darparu offer i’w cefnogi, nid yn unig fel cynhyrchwyr, ond fel stiwardiaid bioamrywiaeth a gwytnwch hinsawdd.
Rhaid i reoleiddio a chymhellion fynd law yn llaw i sicrhau llwyddiant hirdymor
Nid rhwystr yw rheoleiddio; mae’n fesur diogelu. Mae angen rheolau asesiad o’r effaith amgylcheddol, rheolaethau llygredd, a pholisïau cynllunio cryfach er mwyn gwarchod cynefinoedd sensitif. Mae cyllid hirdymor yn hanfodol i ddarparu sicrwydd rheoli. Mae adferiad ecolegol yn cymryd amser ac ni ellir ei fesur o fewn cylchoedd prosiect byr.
Rhaid i dargedau byd natur Cymru sbarduno cyflawniad, nid uchelgais yn unig
Mae’r ymrwymiad i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030 a chyflawni adferiad erbyn 2050 yn feiddgar. Rhaid i dargedau natur statudol fod yn fesuradwy, glynu at amserlen, ac wedi’u hymgorffori ar draws sectorau. Rhaid i adroddiadau ar sefyllfa adnoddau naturiol yn y dyfodol ddangos beth sydd wedi’i gyflawni.
Ni ddylai bylchau mewn tystiolaeth ohirio gweithredu, ond mae monitro yn hanfodol ar gyfer sicrhau atebolrwydd
Mae tystiolaeth newydd ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, megis graddfa bosibl dirywiad o ran nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig oherwydd gwasgfa arfordirol, yn tynnu sylw at yr angen am waith monitro cadarn. Er bod bylchau’n parhau, yn enwedig o ran gwytnwch ac adferiad rhywogaethau, rhaid i Gymru weithredu gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael. Rhaid i waith monitro fod yn rhan annatod o fuddsoddiad ar gyfer adfer byd natur.
Rhaid i wytnwch ecosystemau ac atebion sy’n seiliedig ar natur fod yn seiliedig ar le
Mae atebion sy’n seiliedig ar natur fwyaf effeithiol pan gânt eu cynllunio i fynd i’r afael â phwysau a chyfleoedd lleol, wrth wella gwytnwch ecosystemau. Mae datganiadau ardal yn darparu fframwaith ar gyfer cyflawni atebion ar sail natur ac ymgorffori gwytnwch ecosystemau ym maes cynllunio, cyllido a chyflenwi morol a thirol.
Rhaid i Gymru symud y tu hwnt i warchodaeth, at adferiad a gwella byd natur
Mae’r newid o warchod i adferiad yn hanfodol. Bydd cyflawni’r uchelgais hon yn gofyn am fuddsoddiad cydlynol gan gyllid cyhoeddus a phreifat. Mae mecanweithiau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn darparu cymorth strwythuredig i reolwyr tir i reoli ac adfer cynefinoedd yn effeithiol, gwella bioamrywiaeth, a chyflawni nwyddau cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ynghylch iechyd, yr economi, a chyllid preifat hefyd yn cynnig ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau a datgloi cyllid adfer hirdymor. Drwy alinio offer ariannol â thargedau yn ymwneud â byd natur a nodau gwytnwch, gall Cymru symud o uchelgais i gyflawni, gan adfer ecosystemau ar draws y tir a’r môr.
Archwiliwch ein hasesiad o amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd (DECC) yn ecosystemau Cymru drwy ein porth tystiolaeth Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.
Anghenion tystiolaeth
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn tynnu sylw at fylchau tystiolaeth parhaus sy’n rhwystro cyflawni:
- Diffyg data yn ymwneud â chyflwr ar gyfer safleoedd gwarchodedig.
- Data gofodol anghyflawn ar gynefinoedd lled-naturiol a gwasanaethau ecosystem.
- Monitro annigonol o lygredd amaethyddol a newid o ran defnydd tir.
Mae rhwydweithiau ecolegol cadarn, a gynlluniwyd ar y cyd â rhanddeiliaid, yn fecanwaith cyflawni allweddol ar gyfer gwytnwch ecosystemau. Mae nodi a mapio rhwydweithiau ecolegol cadarn yn angen tystiolaeth craidd, ac yn hanfodol i unrhyw strategaeth defnydd tir yn y dyfodol.
Mae rhwydweithiau ecolegol cadarn yn darparu’r sail dystiolaeth i alinio cynllunio gofodol, atebion sy’n seiliedig ar natur, ac amcanion polisi â chyflawniad nod 2 rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan sicrhau bod ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig.
Mae rhwydweithiau ecolegol cadarn yn cynnig mecanwaith ymarferol i integreiddio bioamrywiaeth, addasu i’r hinsawdd, a rheoli tir cynaliadwy i wneud penderfyniadau ar draws sectorau, gan helpu Cymru i gyflawni ei thargedau natur statudol a’i hymrwymiadau megis 30x30.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rywfaint o’r dystiolaeth yr ydym wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- Nod 2 Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
- Deddf Amaethyddol (Cymru) 2023, Cyflwyno’r Fframwaith ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy
- Asesiad o’r banc tir yng Nghymru ar hyn o bryd
- Datganiadau Ardal
- Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
- Adroddiad Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig 105: Tueddiadau Cenedlaethol Cymru a Gwerthusiad Glastir
- Dangosydd cenedlaethol 43 – Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru
- Canllaw i ymarferwyr ar rwydweithiau ecolegol cadarn
- Asesiad gwaelodlin safleoedd gwarchodedig 2020
- Fframwaith 30x30 i Gymru
- Cysylltedd Cynefin | MapDataCymru
Astudiaethau achos
Prosiect Wild Oysters
Nod prosiect Wild Oysters yw adfer moroedd Prydain i gyflwr da trwy adfer yr wystrys brodorol. Mae’r prosiect yn gydweithrediad cenedlaethol, dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain, Blue Marine Foundation a Morol Prydain, gan weithio gyda’r diwydiant morol a chymunedau a sefydliadau lleol i gyflawni adferiad gan gynnwys safleoedd yng Nghymru.
Bae Conwy – prosiect Wild Oysters
Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yw’r cynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru rhwng 2020 a 2025. Mae camau adfer ar dros 1,650 hectar yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn golygu bod y rhaglen wedi rhagori ar ei thargedau adfer cychwynnol, sef adfer rhwng 600 a 800 hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Rhwydweithiau ecolegol cadarn yng Ngwent
Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid lleol, yn dylunio ac yn datblygu rhwydweithiau ecolegol cadarn ledled Gwent. Mae’r gwaith hwn yn dilyn y canllawiau a nodir yng nghanllaw ymarferwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ar rwydweithiau ecolegol cadarn, ac mae’n cael ei gyd-gynllunio trwy weithdai mapio cydweithredol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y rhwydweithiau ecolegol cadarn hyn yn helpu i lunio dyfodol cyflawni adferiad byd natur yn y rhanbarth.
Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn – Monlife
Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw i ymarferwyr ar rwydweithiau ecolegol cadarn