SoNaRR 2025: Defnydd uniongyrchol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Defnydd uniongyrchol yw defnyddio adnoddau naturiol, gan gynnwys organebau byw, ar gyfer bwyd a deunyddiau. Mae’r pwysau a achosir yn deillio o’r ffordd y cânt eu tynnu ar gyfer ein defnydd yn ogystal ag effaith uniongyrchol tynnu a lleihau adnodd naturiol adnewyddadwy neu anadnewyddadwy.
Negeseuon allweddol
- Mae’r rheoliadau presennol yn ymdrechu i atal pwysau o echdynnu dŵr trwyddedig. Bydd defnydd effeithlon o ddŵr yn dod yn fwyfwy angenrheidiol gan fod senarios newid hinsawdd yn rhagweld cyfnodau sych hirfaith amlach. Mae cadwraeth ac ailddefnyddio dŵr ar draws pob sector yn hanfodol i gynyddu gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd a diogelwch ffynonellau dŵr ac ynni.
- Mae’r dystiolaeth i benderfynu a yw pysgodfeydd morol yn nyfroedd Cymru yn gynaliadwy ai peidio yn gyfyngedig. Mae sgil-ddal yn fygythiad sylweddol i sawl rhywogaeth o famaliaid morol yn nyfroedd y DU ac mae’n destun pryder arbennig i rai pysgodfeydd sy’n gweithredu yn y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon a thu hwnt. Fodd bynnag, mae gwybodaeth gyfyngedig am sgil-ddal mewn pysgodfeydd rhwyd yng Nghymru ac mae angen gwaith pellach i ddarparu amcangyfrifon cadarn yng Nghymru.
- Mae gennym ddealltwriaeth well o bysgodfeydd dŵr croyw yn afonydd a llynnoedd Cymru, yn enwedig salmonidau a llyswennod mudol. Mae stociau llyswennod ar hyn o bryd islaw terfynau cynaliadwy yn rhyngwladol ac mae CNC wedi cau’r bysgodfa i bob pwrpas ers 2021. Mae stociau eogiaid Iwerydd hefyd islaw terfynau cynaliadwy, gyda phob un o’r 22 o brif stociau wedi’u dosbarthu fel rhai mewn perygl. Rydym hefyd yn gynyddol bryderus am bysgodfeydd brithyllod môr, gyda 32 o 33 o stociau wedi’u dosbarthu fel rhai mewn perygl. Mae is-ddeddfau a gyflwynwyd yn 2020 ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i eogiaid sy’n cael eu dal â rhwyd a gwialen gael eu rhyddhau heb eu niweidio, ac maent hefyd yn darparu cyfyngiadau maint, dull a thymor i amddiffyn brithyllod môr.
- Gall priddoedd gael eu defnyddio’n uniongyrchol wrth gynhyrchu bwyd, ffibr ac allbynnau eraill, sy’n gallu rhoi pwysau ar briddoedd pan gânt eu rheoli’n anghynaliadwy. Mae datblygiadau adeiledig yn tynnu neu’n selio priddoedd yn barhaol, ac mae hyn yn cynnwys anfon y priddoedd i safleoedd tirlenwi, sy’n arwain at golled anadferadwy o’r adnodd cyfyngedig hwn.
- Mae’r arfer hanesyddol o ddraenio priddoedd gwlyb naturiol wedi diraddio mawndiroedd a gwlyptiroedd, rhyddhau carbon, a gostwng cynhyrchiant. Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Fawndiroedd wedi adfer 3,000 hectar o briddoedd mawn rhwng 2000 a 2025.
Tystiolaeth sylfaenol
Mae asesiad Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 o ddefnydd uniongyrchol wedi’i lywio gan dystiolaeth a nodir yn y pwysau ar bob adnodd naturiol ac ecosystem. Mae tystiolaeth fanwl ar gyfer ysgogwyr newid a phwysau i’w gweld yn ein hadroddiad Power BI rhyngweithiol yn y ddolen isod. Yr ecosystemau sydd â thystiolaeth berthnasol yw dŵr croyw, y môr, a mynyddoedd, rhostir a gweundir. Yr adnoddau naturiol sydd â thystiolaeth berthnasol yw priddoedd a dŵr.
Darllenwch ein hasesiadau ar adnoddau naturiol ac ecosystemau.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- SoNaRR 2020: Arbed dŵr
- Cloddio am agregau morol
- Stociau a physgodfeydd eogiaid yng Nghymru a Lloegr
- Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Astudiaethau achos
Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn gynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru rhwng 2020 a 2025. Mae camau adfer ar dros 1,650 hectar yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn golygu bod y rhaglen wedi rhagori ar ei thargedau adfer cychwynnol o rhwng 600 ac 800 hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd