Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025: Cyfleoedd gweithredu

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Yn seiliedig ar ein tystiolaeth o’r asesiadau o ecosystemau, adnoddau naturiol a nodau Cymru gyfan, mae’r cyfleoedd i weithredu yn glir a rhaid eu dilyn ar bob graddfa:

  • Graddfa leol: grymuso pobl a chymunedau i fabwysiadu ffyrdd o fyw cynaliadwy ac iach, gwella seilwaith gwyrdd, a chymryd rhan mewn adfer ecosystemau.
  • Graddfa ranbarthol: dulliau sy’n seiliedig ar leoedd megis atebion dalgylch, gan gynnwys rheoli llifogydd yn naturiol, clustogau torlannol, ac ehangu coetiroedd i fynd i’r afael â risgiau amgylcheddol cydgysylltiedig.
  • Graddfa genedlaethol: alinio fframweithiau gwleidyddol a pholisi â’r argyfwng hinsawdd a natur, a buddsoddi mewn sgiliau, seilwaith ac arloesedd i gefnogi economi adfywiol.

Mae’r bennod grynhoi hon yn gosod y sylfaen ar gyfer y camau gweithredu beiddgar, integredig a chynhwysol y mae’n rhaid iddynt ddilyn os yw Cymru am ffynnu o fewn terfynau ei systemau naturiol ac os ydym am sicrhau dyfodol llewyrchus i genedlaethau’r dyfodol.

Tuag at ddyfodol cynaliadwy

Mae Cymru eisoes yn elwa o sylfeini cyfreithiol a rheoleiddiol cryf ar gyfer galluogi pobl a natur i ffynnu gyda’i gilydd. Er mwyn cyflymu’r broses weithredu, rhaid inni fabwysiadu rheolaeth addasol trwy fonitro, gwerthuso ac ailadrodd yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Er bod ansicrwydd yn parhau ar draws graddfeydd ac ecosystemau, mae amser yn brin: mae brys, hyblygrwydd ac arloesedd yn hanfodol. Wrth wneud penderfyniadau, dylid mynd y tu hwnt i gymarebau budd a chost i adlewyrchu gwerth llawn byd natur a’i fanteision niferus. Bydd cryfhau Datganiadau Ardal a chymhwyso’r fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn hanfodol i lywio dewisiadau a sicrhau’r effaith fwyaf posibl.

Y prif bwysau sy’n gyrru dirywiad ecosystemau ac yn peryglu eu gwydnwch, fel arfer gyda’i gilydd, yw newid hinsawdd, llygredd, a defnydd o’r tir a’r môr. Er mai dim ond 6% o’r tir y maent yn eu gorchuddio, mae ardaloedd trefol yn rhoi galw anghymesur ar ecosystemau ac yn profi’r effeithiau hinsawdd mwyaf difrifol. Mae cynllunio gofalus ac asesu effaith yn hanfodol i sicrhau bod ymyriadau’n darparu manteision lluosog i bobl a byd natur heb greu pwysau newydd mewn mannau eraill. Mae newid arferion ac ailgysylltu pobl â natur yn gofyn am well gwybodaeth, mynediad cyfartal at fannau gwyrdd a glas o ansawdd uchel, ymgysylltu cymunedol, ac economi sy’n canolbwyntio ar atgyweirio, ailddefnyddio a defnydd cyfrifol.

Y cyfleoedd mwyaf ar gyfer gweithredu ar raddfa fawr, sydd â’r potensial i gynhyrchu’r effaith fwyaf ar draws ecosystemau ac adnoddau naturiol lluosog, yw mewn amaethyddiaeth a rheoli tir. Rhaid i’r rhain addasu i ddarparu nwyddau a gwasanaethau ochr yn ochr â manteision ehangach i ecosystemau ac iechyd, gan gefnogi busnesau ffyniannus ar yr un pryd. Bydd cymhellion, cefnogaeth gymunedol, a chyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig â stiwardiaeth amgylcheddol yn meithrin diwylliant o bositifrwydd a chydlyniant cymdeithasol.

Gall mecanweithiau newydd i dalu am ddarparu nwyddau cyhoeddus fod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid amaethyddiaeth a rheoli tir yn systemau sy’n darparu bwyd, iechyd ecosystemau, a chydnerthedd economaidd. Drwy ymgorffori cynaliadwyedd mewn cadwyni cyflenwi, alinio buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, a chefnogi mentrau dan arweiniad y gymuned, gall y mecanweithiau hyn wneud stiwardiaeth amgylcheddol yn sbardun i fusnesau ffyniannus. Bydd atebion ar sail natur ac sy’n llawn uniondeb, marchnadoedd natur a dulliau arloesol fel cronni manteision yn ehangu’r effaith, tra gall twristiaeth adfywiol a phrosiectau sy’n cael eu ysgogi gan y gymuned helpu i sicrhau bod ffyniant ac adferiad yn mynd law yn llaw.

Bydd addasu i’r hinsawdd yn gofyn am gynllunio ein seilwaith yn well, yn ogystal â’n camau cadwraeth. Bydd datblygu ein dealltwriaeth o wydnwch ecosystemau gan ddefnyddio dangosyddion sydd wedi’u hymgorffori o fewn fframweithiau rhwydweithiau ecolegol gwydn a rheoli tir yn gynaliadwy yn hanfodol i adfer natur ac addasu i’r hinsawdd. Bydd gweithredu effeithiol i wella gwydnwch ecosystemau yn cysylltu cynefinoedd darniog ac yn galluogi symudiad rhywogaethau wrth i amodau amgylcheddol newid. Mae patrymau hinsawdd sy’n newid yn debygol o ddod â rhywogaethau newydd a newid ecosystemau, gan olygu bod angen cynllunio hyblyg a defnyddio’r wybodaeth orau sydd ar gael i sicrhau bod rhwydweithiau ecolegol gwydn yn aros yn gyfredol ac yn hwyluso camau gweithredu. Mae ehangu, rheoli a diogelu cynefinoedd drwy rwydweithiau ecolegol gwydn, wrth eu hymgorffori mewn cynllunio gofodol, yn sicrhau bod rhaglenni mawr fel creu coetiroedd, adfer mawndiroedd, cynllunio seilwaith ac adeiladu tai, a rheoli perygl llifogydd yn cryfhau cysylltedd a gwydnwch yn weithredol.

Rhaid inni geisio synergeddau rhwng camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a byd natur lle bynnag y bo modd, ond gyda thir ac adnoddau cyfyngedig, mae cyfaddawdau a dewisiadau anodd yn anochel. Bydd buddsoddiadau mewn trafnidiaeth, tai ac ynni gwyrdd yn gofyn am le, ond mae systemau presennol ar gyfer cynhyrchu bwyd, cynhyrchu ynni a chludo nwyddau yn achosi dirywiad digynsail mewn rhywogaethau. Er enghraifft, gall ehangu trefol arwain at golli’r Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas, gan leihau’r gallu i gynhyrchu bwyd yn lleol. Ar yr un pryd, mae cyfleoedd i bawb ennill. Enghraifft o hyn yw adfer natur mewn Ardaloedd Llai Ffafriol, lle gall rheoli tir yn gynaliadwy helpu i storio carbon, adfer bioamrywiaeth, a darparu manteision diwylliannol wrth gefnogi bywoliaethau gwledig.

Rhaid i lunwyr polisi wrthsefyll atebion tymor byr ac osgoi parlys yn wyneb cymhlethdod. Nid a ddylid gweithredu yw’r her, ond sut i weithredu’n feiddgar ac ar y cyd. Mae strategaethau integredig, wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn ac wedi’u cynllunio ar y cyd â chymunedau, yn hanfodol i lywio buddiannau sy’n cystadlu a chyflawni enillion hirdymor i’r hinsawdd, byd natur a chymdeithas. Mae gan Gymru’r cyfle i arwain drwy esiampl, gan droi uchelgais yn weithredu a sicrhau bod pob penderfyniad yn cyfrif tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Mae’r bennod hon yn gosod y sylfaen ar gyfer y camau gweithredu beiddgar, integredig a chynhwysol y bydd yn rhaid eu dilyn os yw Cymru am ffynnu o fewn terfynau ei systemau naturiol ac os ydym am sicrhau dyfodol llewyrchus i genedlaethau’r dyfodol.

Darllenwch y bennod lawn ar gyfleoedd i weithredu yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

Pontydd i’r dyfodol

Bydd y briff rhagolygol, Pontydd i’r Dyfodol – Briff i Lunwyr Polisi a’r Rhai sy’n Creu Lleoedd, yn crynhoi’r negeseuon clir hyn ar gyfer Cymru: gall dewisiadau a wneir heddiw gan lywodraeth, busnesau a chymunedau godi safonau byw, cryfhau gwydnwch, ac adfer natur drwy ailgynllunio’r systemau sy’n diwallu ein hanghenion bob dydd.

Pontydd i’r Dyfodol – Bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026

Diweddarwyd ddiwethaf