SoNaRR 2025 Nod 3: Mae gan Gymru leoedd iach ar gyfer pobl sydd wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol

Croeso Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae adnoddau naturiol Cymru yn cynnig gwerth aruthrol o ran iechyd, llesiant a diwylliant, ond mae cysylltiad â pheryglon a mynediad i fyd natur yn parhau i fod yn anghyfartal ac wedi’u dosbarthu’n anghyfartal. Mae’r dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn pwysleisio datrysiadau integredig sy’n hyrwyddo iechyd y cyhoedd a llesiant diwylliannol, yn amddiffyn bioamrywiaeth, yn adfer gwydnwch ecosystemau, ac yn ategu gweithgareddau economaidd adfywiol.

Ers asesiad Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae Cymru wedi cymryd camau pwysig i gryfhau amddiffyniadau a gwella ei rheolaeth o adnoddau naturiol er mwyn cefnogi mannau iach. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024, sy’n mynd i’r afael â llygredd aer, a Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, sy’n hyrwyddo atebion ar sail natur ar gyfer ffermwyr.

Mae’r genedl wedi ymrwymo i darged bioamrywiaeth byd-eang ’30 erbyn 30’ ac wedi buddsoddi mewn prosiectau lleol i wrthsefyll llifogydd o dan y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020). Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd wedi cyfrannu’n uniongyrchol drwy raglenni grant wedi’u targedu, gwaith cydgynhyrchiol gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a mentrau megis Natur am Byth.

Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae Cymru yn dal i wynebu heriau sylweddol o ran creu “lleoedd iach ar gyfer pobl yng Nghymru, wedi’u hamddiffyn rhag peryglon amgylcheddol”. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Deilliannau iechyd gwael sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, gyda chlefydau cronig yn gwaethygu o ganlyniad i lygredd aer, gweithgarwch corfforol isel, a mynediad cyfyngedig at fyd natur.
  • Argyfyngau hinsawdd a natur sy’n effeithio ar iechyd, lle mae llifogydd, colli bioamrywiaeth ac ecosystemau wedi’u diraddio yn tanseilio cydnerthedd a llesiant ein cenedl.
  • Anghydraddoldebau parhaus, gyda chymunedau difreintiedig ac ymylol yn dod i fwy o gysylltiad â pheryglon, yn profi iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, ac yn cael llai o gyfleoedd i elwa o fannau gwyrdd a glas.

Mae’r asesiad hwn o 2025 yn adeiladu ar sylfaen adroddiad 2020 ac yn mabwysiadu dull Iechyd Cyfunol: “fframwaith cyfannol sy’n cydnabod cydgysylltiad iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd ecosystemau”. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau sy’n seiliedig ar genhadaeth a nodir yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025.

Ein gweledigaeth

Bod pob unigolyn yng Nghymru yn byw mewn amgylchedd sy’n meithrin eu hiechyd, bod pob cymuned yn wydn i risg amgylcheddol, a bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn etifeddu ecosystemau sy’n iachach, yn fwy bioamrywiol, ac yn fwy gwerthfawr nag y maent heddiw. Gellir cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:

  • Diogelu iechyd: Lleihau peryglon a gludir gan aer, dŵr a phridd, ac effeithiau newid hinsawdd. Blaenoriaethu cymunedau amddifad lle mae risgiau’n bresennol.
  • Gwella iechyd: Hyrwyddo mynediad dyddiol i fannau gwyrdd a glas, prif ffrydio presgripsiynu cymdeithasol, mynediad at fyd natur a theithio llesol er buddion iechyd.
  • Buddion diwylliannol a thegwch: cydlunio, dehongli ac ariannu prosiectau natur fel rhan o’r nod o ’greu lleoedd’ fel bod pob cymuned yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu cynrychioli.

Mae cyflawni’r camau gweithredu hyn yn hyrwyddo pob un o saith nod Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn cyfrannu at gynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer: disgwyliad oes iach (Dangosydd 2), ansawdd aer (Dangosydd 4), diogelwch anheddau (Dangosydd 31), perygl o lifogydd (Dangosydd 32), llesiant meddyliol (Dangosydd 29), allyriadau nwyon tŷ gwydr (Dangosydd 41), ac iechyd ecosystemau (Dangosydd 43).

Negeseuon allweddol

  • Gyda’r rheolaeth briodol, gall ecosystemau Cymru ein hamddiffyn rhag llawer o risgiau amgylcheddol megis llifogydd, straen gwres a llygredd. Gall yr atebion ar sail natur hyn ddarparu nifer o fuddion ar yr un pryd trwy adeiladu gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd, adfer cynefinoedd a choridorau ecolegol i gefnogi adferiad byd natur, a lleihau llygredd, a hynny i gyd wrth brofi eu bod yn fwy addasadwy i newid hinsawdd na seilwaith llwyd.
  • Ar draws y DU, mae mannau gwyrdd a glas yn helpu i osgoi tua £6-8 biliwn mewn costau i’r GIG bob blwyddyn trwy fuddion iechyd hamdden awyr agored a gweithgarwch corfforol. Yng Nghymru yn unig, mae enillion iechyd o hamdden a thwristiaeth ym myd natur yn werth dros £320 miliwn y flwyddyn, gan dynnu sylw at rôl hanfodol natur wrth gefnogi llesiant a lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd.
  • Bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau yw peiriannau’r system hon. Mae glaswelltir blodeuog, morfa heli a choetir llydanddail i gyd yn cynyddu nifer y peillwyr, yn hybu bywyd pridd, ac yn cryfhau ein gwydnwch i siociau hinsawdd yn ogystal â gwella ein hiechyd a’n llesiant. Mae’r dull integredig hwn yn golygu bod adfer cynefinoedd nid yn unig yn arafu’r argyfwng bioamrywiaeth ond ar yr un pryd yn creu swyddi gwyrdd, yn gwella ansawdd aer, ac yn adeiladu’r coridorau ecolegol sy’n sail i wydnwch ecosystemau.
  • Mae tirweddau Cymru yn fwy na ffatrïoedd nwyddau a gwasanaethau ecosystemau syml – maent yn rhan annatod o’n hunaniaeth. Mae Parciau Cenedlaethol wedi’u cydnabod yn swyddogol fel rhan o wead diwylliannol Cymru a labordai ar gyfer byw’n gynaliadwy. Mae gwarchodfeydd awyr dywyll bellach yn denu ymwelwyr i syllu ar y sêr yn yr un bryniau sy’n meithrin y Gymraeg a llên gwerin, gan droi ansawdd amgylcheddol yn werth(oedd) diwylliannol ac economaidd. Felly mae gwarchod byd natur hefyd yn gwarchod straeon, iaith ac ymdeimlad o le.
  • Ar yr un pryd, mae ein hecosystemau’n gweithredu fel system cynnal bywyd ledled y wlad, gan gloi miliwn o dunelli o garbon, hidlo llygryddion aer, a thrapio llygredd dŵr ffo o fyd amaethyddiaeth bob blwyddyn.
  • Mae atebion ar sail natur sydd wedi’u cynllunio’n dda yn mwyhau’r buddion canlynol: mawndiroedd wedi’u hadfer a gwlyptiroedd gorlifdir sy’n atafaelu CO₂ wrth leihau uchafbwyntiau llifogydd, coetiroedd brodorol sy’n cysgodi gwres trefol wrth ryng-gipio gronynnau ac amonia, a phantiau llystyfiant sy’n dal micro-blastigion cyn iddynt gyrraedd ein hafonydd a’n harfordiroedd.
  • Felly nid dyletswydd ddiwylliannol yn unig yw amddiffyn a gwella cyfalaf naturiol – mae’n feddygaeth ataliol, yswiriant hinsawdd a synnwyr cyffredin economaidd wedi’u cyfuno.

Darllenwch ein hasesiad Nod 3 llawn: Mae gan Gymru leoedd iach ar gyfer pobl sydd wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

 

Anghenion tystiolaeth

Er bod Nod 3 yn gosod uchelgais glir ar gyfer ‘lleoedd iach’, mae ein gallu i roi hyn ar waith wedi’i gyfyngu gan sylfaen dystiolaeth dameidiog. Ar hyn o bryd, gallwn nodi cyfleoedd ar gyfer atebion ar sail natur, ond nid oes gennym y dystiolaeth sydd ei hangen o astudiaethau hydredol i fesur eu heffaith wirioneddol ar iechyd a gwydnwch. Mae hyn yn gadael y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lywio cyfaddawdau cymhleth heb fap clir o’r risgiau na’r buddion.

Mae pontio’r bwlch hwn yn gofyn am symud y tu hwnt i werthusiadau sefydlog sy’n seiliedig ar brosesau, tuag at waith monitro a gwerthuso systemig sy’n cysylltu iechyd ecosystemau yn uniongyrchol â deilliannau economaidd-gymdeithasol. Mae angen inni flaenoriaethu ymchwil amlddisgyblaethol, yn benodol rhwng cyrff amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd, i fesur buddion penodol dod i gysylltiad â natur ar lesiant.

Yn olaf, rhaid inni ffurfioli ymgysylltu â dinasyddion a’u cynnwys nid yn unig fel ffynhonnell ddata, ond fel gwiriad realiti, gan sicrhau bod ein metrigau yn adlewyrchu profiadau “bywyd” cymunedol gwirioneddol yn hytrach na dangosyddion haniaethol.

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Gwyddoniaeth dinasyddion i fonitro newid arfordirol

Cydweithrediad rhwng CNC, Canolfan Monitro Arfordirol Cymru ac awdurdodau lleol i weithredu CoastSnap, prosiect gwyddoniaeth dinasyddion i alluogi ymwelwyr arfordirol i gyfrannu ffotograffau i gofnodi newid arfordirol. Nod y prosiect yw ymgysylltu â defnyddwyr arfordirol er mwyn iddynt ddeall newid arfordirol yn ogystal â chyfrannu data.

CoastSnap – Gwyddoniaeth Dinasyddion a Newid Arfordirol

Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Nid yw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn rhagnodol o ran yr hyn y mae’n ei gefnogi. Mae’n hyrwyddo dull o’r gwaelod i fyny lle mae gweithgareddau’n cael eu harwain gan y gymuned. Ei nod yw creu ardaloedd sy’n cefnogi natur o fewn cymunedau, yn enwedig ardaloedd trefol ac amdrefol; annog gwerthfawrogiad mwy o natur a’i gwerth; creu mwy o fannau gwyrdd, gan gyflawni ein hymrwymiad i wneud hynny; a chefnogi amcanion bioamrywiaeth ehangach.

Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur | LLYW.CYMRU

Strategaeth ar gyfer Llythrennedd Morol yng Nghymru

Mae gweithgor Llythrennedd Morol o dan Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru wedi datblygu strategaeth ar gyfer Llythrennedd Morol yng Nghymru. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau adnoddau i gefnogi mwy o ymgysylltu ynghylch camau gweithredu a’u cyflawni o dan y strategaeth ddrafft.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Strategaeth llythrennedd morol gyntaf y Deyrnas Unedig yn cael ei lansio yng Nghymru

Diweddarwyd ddiwethaf