SoNaRR 2025 Nod 4: Economi adfywiol gyda lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy

Croeso Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae ein llwybr datblygu economaidd wedi codi safonau byw materol yng Nghymru ac ar draws y byd. Fodd bynnag, yn y broses o gyrraedd lle’r ydym, rydym wedi diraddio ein hadnoddau naturiol i’r pwynt lle mae’r gofynion a wnawn ar natur ymhell y tu hwnt i’w gallu i’w bodloni (Dasgupta, 2021). Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran datgarboneiddio economi Cymru. Serch hynny, mae Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran cyflawni “economi adfywiol gyda lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy”.

Mae’r asesiad hwn a gyhoeddwyd yn 2025 yn adeiladu ar Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 ac Adolygiad Dasgupta (2021) ar Economeg Bioamrywiaeth, a gomisiynwyd gan Drysorlys EF. Mae’r asesiad hefyd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau sy’n seiliedig ar genhadaeth a nodir yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025, o ran cyflawni economi llesiant yng Nghymru.

Mae’r pontio i economi adfywiol yn hanfodol os ydym am fyw o fewn y ffiniau ecolegol sy’n diffinio terfynau’r economi llesiant. Fel y pwysleisiwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen cynllunio polisïau economaidd, cymhellion a buddsoddiadau yn benodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur, ochr yn ochr ag anghydraddoldeb a chadw cyfoeth o fewn cymunedau. Gyda’r buddsoddiad a’r datblygiad sgiliau cywir, mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy hefyd yn darparu cyfleoedd i greu swyddi gweddus a meithrin cyfoeth cymunedol, yn ogystal â ffocws i bob rhan o’r economi gydweithio i ailadeiladu stociau natur yng Nghymru er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ein gweledigaeth

Byddai cyflawni Nod 4 yn arwain at symud Cymru o economi sy’n dirywio ei hadnoddau naturiol a’i hecosystemau, trwy economi gynaliadwy a chylchol nad yw’n gwneud unrhyw niwed net ac yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau naturiol, i un adfywiol sy’n gweithio gyda’n systemau naturiol i adfer byd natur.

Mae cyflawni’r weledigaeth hon yn hyrwyddo nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn cyfrannu at gynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer: capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi’u gosod (Dangosydd 12), ôl-troed byd-eang Cymru (Dangosydd 14), swm y gwastraff a gynhyrchir ac na chaiff ei ailgylchu y pen (Dangosydd 15), y ganran o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o’i chymharu â chanolrif y DU, wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn (Dangosydd 18), y ganran o’r bobl sydd mewn gwaith (Dangosydd 21), y ganran o’r anheddau gyda pherfformiad ynni digonol (Dangosydd 33), allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru (Dangosydd 41), ac allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd i’w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru (Dangosydd 42).

Negeseuon allweddol

Rydym yn parhau i ddefnyddio mwy na’n cyfran deg o adnoddau:

  • Pe bai’r byd yn byw fel Cymru, byddai angen 2.08 o Ddaearau ar ddynoliaeth i gynnal ei hun. Mae hyn yn golygu bod defnydd Cymru yn creu pwysau anghynaliadwy sylweddol ar adnoddau naturiol.
  • Mae’r sector amaethyddol yn defnyddio 90% o dir yng Nghymru. Gall yr ecosystemau cynhyrchiol hyn hefyd gynnal amrywiaeth o rywogaethau (e.e. adar tir ffermio), diogelu a gwella adnoddau naturiol (e.e. ansawdd pridd), a chyflenwi ystod o wasanaethau rheoleiddio a diwylliannol (e.e. amddiffyn rhag llifogydd a hamdden). Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod faint o’r rhain sy’n cael eu rheoli er mwyn cynnal eu gallu adfywiol a chyflenwi’r buddion hyn y tu hwnt i’r rhai sy’n gysylltiedig â darparu cnydau a biomas.
  • Mae o leiaf 48% o holl goedwigoedd Cymru yn cael eu rheoli yn ôl Safon Coedwigaeth y DU i gynnal bioamrywiaeth a swyddogaethau ecolegol, ochr yn ochr â swyddogaethau cymdeithasol ac economaidd (dyma faint hysbys y coetir sydd wedi’i ardystio trwy Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig).
  • Mae angen i ni atal mwy o wastraff rhag cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf drwy ddylunio cynhyrchion yn well a chynyddu gweithgareddau megis atgyweirio ac ailweithgynhyrchu.
  • Mae sector ynni adnewyddadwy Cymru yn hanfodol ar gyfer cyflawni sero net. Mae’n hanfodol bod datblygiad y sector hwn yn cael ei gynllunio i amddiffyn gwydnwch ein hecosystemau ac adeiladu cyfoeth cymunedol.
  • Mae angen i ni gydweithio i gyflawni Nod 4: Mae angen grymuso dinasyddion i fabwysiadu ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy. Mae llawer o fusnesau hefyd eisiau cyfrannu; mae 5,000 wedi llofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.

Mae’r economi’n dal i ddirywio adnoddau naturiol yng Nghymru:

  • Mae llygredd o ardaloedd gwledig (gan gynnwys amaethyddiaeth a choedwigaeth), y sector dŵr gwastraff a seilwaith trefol a thrafnidiaeth yn diraddio afonydd, llynnoedd, dyfroedd daear, camlesi, aberoedd a dyfroedd arfordirol Cymru. Dim ond 40% o’r cyrff dŵr hyn sydd o statws da.
  • Mae llygredd aer o ynni, trafnidiaeth a diwydiant wedi lleihau ond mae’n dal i effeithio ar lawer o unigolion. Mae allyriadau amonia o’r sector amaethyddol yn parhau i fod yn uchel, sef tua 21 cilo tunnell yn 2021. Mae hyn yn effeithio ar gynefinoedd ac unigolion.
  • Mae llygredd priddoedd a dyfroedd o ddiwydiant a thirlenwi yn y gorffennol a’r presennol yn bryder. Mae hyn yn cynnwys effeithiau yn y dyfodol ar adnoddau dŵr o lygryddion organig parhaus, microblastigion a gwrthfiotigau a ddefnyddir mewn gwahanol weithgareddau economaidd.
  • Mae angen i’r sector adeiladu gynyddu ei weithgarwch os yw targedau tai yng Nghymru i gael eu cyrraedd. Fodd bynnag, mae angen i hyn fod yn y mannau cywir, gan gydnabod bod y datblygiadau hyn fel arfer yn dod ar draul tir ffermio, ecosystemau ymylon arfordirol ac ardaloedd gwyrdd trefol a gallant ddigwydd mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd.
  • Mae angen inni ddatgysylltu ein gweithgarwch economaidd oddi wrth y pwysau hyn er mwyn ein llesiant economaidd hirdymor. Mae risgiau cronig o newidiadau i systemau’r Ddaear, colli bioamrywiaeth, prinder adnoddau naturiol a llygredd, a risgiau acíwt o dywydd eithafol, ymhlith y risgiau mwyaf y mae ein heconomi yn eu hwynebu.

Mae economi adfywiol yn mynd law yn llaw ag economi llesiant

  • Gall atebion ar sail natur gyfrannu at gynhyrchiant economaidd, cyflawni deilliannau cymdeithasol gwerthfawr, ac adfer byd natur. Oherwydd swyddogaeth rwydweithiol byd natur, gall atebion ar sail natur ddarparu ffrydiau gwerth lluosog o un buddsoddiad ym myd natur. Gellir gwireddu gwerthoedd lluosog trwy brynwyr ar gyfer deilliannau uniondeb uchel o un ymyrraeth ateb ar sail natur (e.e. prynwyr seiliedig ar ansawdd dŵr, bioamrywiaeth a hamdden ar gyfer deilliannau o sefydlu coetir torlannol), gan wneud cyd-gyllido neu gyd-fuddsoddi yn bosibl, a all sicrhau perfformiad cost a budd gwell ar gyfer y dull ateb ar sail natur i bob partner ariannu.
  • Mae llawer o swyddi yn yr economi yn dibynnu ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae data cyflogaeth a dadansoddiadau sector yn amcangyfrif y gall y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, y sector dŵr, a’r sectorau twristiaeth sy’n seiliedig ar natur, ynni adnewyddadwy a’r economi gylchol gefnogi tua 118,000 o swyddi, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith teg.
  • Gall hyrwyddo mentrau cymdeithasol ac adeiladu cyfoeth cymunedol wireddu potensial i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy adeiladu cyfoeth cymunedol.

Dilynwch y ddolen i asesiad llawn Nod 4: Economi adfywiol gyda lefelau cynaliadwy o gynhyrchu a defnydd yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.



Anghenion tystiolaeth

Mae sicrhau llwyddiant newid trawsnewidiol yn galw am ddull trylwyr o werthuso buddion a chyfaddawdau. Rhaid inni gryfhau ein sylfaen dystiolaeth i adlewyrchu cyfraniad gwirioneddol byd natur at lesiant, gan roi pwyslais ar werthoedd diwylliannol a pherthynol ochr yn ochr â data economaidd. Mae’r eglurder hwn yn caniatáu i fusnesau integreiddio dibyniaethau sy’n gysylltiedig â byd natur yn llawn yn eu cynlluniau, eu strategaethau a’u gweithrediadau.

Mae hyder mewn atebion ar sail natur ar gyfer mynd i’r afael ag ansawdd dŵr yn gofyn am fframweithiau sy’n seiliedig ar risg i gefnogi arbrofi a’u defnydd. Yn ogystal, mae deall maint a chyfanrwydd posibl y farchnad atebion ar sail natur yng Nghymru yn hanfodol er mwyn denu buddsoddiad heb beryglu ansawdd.

Byddai maes cynllunio defnydd tir yng Nghymru yn elwa o fap integredig o wahanol weithgareddau defnydd tir a data amgylcheddol. Byddai hyn yn helpu cynllunwyr i ddeall pa dir sydd fwyaf priodol at wahanol ddibenion.  Gall deall ble mae’r sectorau economaidd yng Nghymru yn dibynnu ar ecosystemau gwydn helpu i nodi ble i flaenoriaethu camau gweithredu i wella gwydnwch yng nghyd-destun pwysau o ganlyniad i newid hinsawdd a ffactorau eraill sy’n achosi newid.

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Monitro a lleihau amonia

Mae amonia yn llygrydd atmosfferig pwysig ac mae’n niweidiol i iechyd unigolion pan gaiff ei gyfuno â llygryddion diwydiannol eraill. Pan gaiff ei ddyddodi ar dir, gall amonia asideiddio priddoedd a dyfroedd croyw, gan ‘or-wrteithio’ cymunedau planhigion naturiol. Gall y nitrogen ychwanegol gynyddu twf rhai rhywogaethau megis gweiriau garw a danadl poethion, sy’n trechddisodli rhywogaethau eraill. Nod y prosiect hwn yw monitro a lleihau allyriadau amonia o amaethyddiaeth ac mae’n cael ei ariannu drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect i fonitro a lleihau allyriadau amonia sy’n deillio o amaethyddiaeth

Asesu Gweithgareddau Dyframaethu Cymru

Mae offeryn mapio Asesu Gweithgareddau Dyframaethu Cymru a’r dangosfwrdd rhyngweithiol yn dangos sensitifrwydd biotopau morol yng Nghymru i’r pwysau posibl sy’n gysylltiedig ag 11 gweithgaredd dyframaethu gwahanol. Gellir eu defnyddio i gasglu a datblygu gwybodaeth a thystiolaeth i lywio gwerthusiad amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd dyframaethu o ddiddordeb ac i nodi ardaloedd sy’n addas ar gyfer mentrau dyframaethu. Er nad yw adnoddau Prosiect Asesu Gweithgareddau Dyframaethu Cymru wedi cyfeirio at amodau amgylcheddol, nac ôl troed, na dwyster gweithgareddau, gellir eu defnyddio i ategu asesiadau neu adroddiadau amgylcheddol.

Asesu Gweithgareddau Dyframaethu Cymru | Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Nod Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n dechrau yn 2026, yw cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’n mynd i’r afael â’r amcan rheoli tir yn gynaliadwy yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 i gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau. Bydd y cynllun yn cefnogi gwydnwch hinsawdd a dylai gefnogi atebion ar sail natur. 

Cyflwyniad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

 

Diweddarwyd ddiwethaf